Wrth geisio cael trefn ar fy llyfrgell, fe ddes i ar draws nifer o hen gyfrolau bach difyr. Un ohonyn nhw ydy ‘Hen Ŷd y Wlad’ gan John Lloyd Jones [Llyfrbryf Meirion], Blaenau Ffestiniog - ‘Casgliad o Bert-Ddywediadau a Digrifion Hen Drigolion’.
Daeth ei draethawd yn fuddugol yn Eisteddfod Gŵyl Dewi Eglwys Saesneg Blaenau Ffestiniog. Argraffwyd gan J. D. Davies & Co. Swyddfa’r Rhedegydd ym 1911. Mae fy nghyfaill Steffan ab Owain wedi manylu ar hanes y Wasg yma’n ‘Stiniog mewn ysgrifau diddorol sawl blwyddyn yn ôl.
Ym mhennod ola’r gyfrol fechan 55 tudalen, fe gawn yr hyn a eilw’r awdur yn ‘ddifyrion barddonol’ - nifer o englynion gan mwyaf ynghyd ag ambell bennill a rhigwm gan feirdd a rhigymwyr lleol.
Ymddengys fod yr hen gymeriad o fardd, Morris Jones - Meurig Elen, Tanygrisiau [fu farw ym 1883] yn un tra sydyn ei ymatebion, a hynny ar gynghanedd. Roedd o a thri chyfaill yn dod i fyny o Danygrisiau un pnawn Sadwrn pan oedden nhw’n adeiladu’r farchnadfa.
Gwnaeth un o’r cyfeillion sylw am y farchnadfa pan atebodd Meurig efo’r cwpled yma:
‘Marchnadfa rad frad i fro,Neu i ddiawliaid gribddeilio’.
Gofynnodd Evan Davies, Tŷ Hen i Meurig pan oedd o’n rybela un tro:
‘Ai rybela wyt ti MeurigI ennill dy fara a’th gig?’
“Ia”, meddai Meurig,
‘Diofid ydwyf Evan, - er bawlydRybela ym mhobman;‘Wy’n lluchio bob yn llechan,Rhai’n grych, rhai gwych a rhai gwan’.
Soniais am William Williams - Gwilym Ystradau [1813-61] rai blynyddoedd yn ôl yn y golofn. Dyma ddau englyn o’i waith yng nghyfrol y Llyfrbryf:
I’r EnllibiwrHyll leban yw’r enllibiwr - gwenwynigEi anian a’i gyflwr;Di-ras yw - yn drahaus ŵr,Dwfn ei fost, a fyn fwstwr.
CybyddY cybydd beunydd a boena - ei benI hel byd ac elwa;Ei dduw ef ydyw ei ddaA dim wedi’r byd yma.
Bardd arall o’r cyfnod yma oedd William Jones - Alwenydd - mab Evan a Jane Edwards, Tŷ’r Ynys, Llan Ffestiniog. Bu yntau farw ym 1883 yn Rhiwbryfdir. Mae ganddo ddau englyn i Wraig Lot - y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis fel yr un a drowyd yn golofn o halen am iddi feiddio troi ei phen i edrych ar ddinistr Sodom a Gomora, er i Dduw rybuddio pawb rhag gwneud hynny:
Cofiwch Wraig LotGwiriondeb peidio gwrando - rhybudd IôrEr boddhad mawr iddo;A dirwyn drwg drwy hen droAnnoeth hynod wnaeth honno.
Ei chofio wneir tra chwyf nen - y miloeddGymylau mewn wybren;O! Mor chwith fu troi merch wenYn welw golofn halen.
Dyma englyn gan Lewis Edwards - Llewelyn Twrog [1832-61] i’r ‘tepot’. Rhaid cofio ein bod ni’n ôl yn y cyfnod pan ddodwyd y tegell ar y tân i ferwi dŵr - pan nad oedd sôn am y dyfeisiadau trydanol a ddefnyddir yn ein ceginau heddiw:
TepotUn i droi gwledd o’r dŵr glân - frwd depot!Hyfryd ‘dap’ y pentan;Bochog ddarllawydd bychanYw’n trwytho te wrth y tân.
Bu Robert Jones [Robin Bryn Moel] yn ddirwestwr pybyr un tro. Ceisiodd un a alwai ei hun yn gyfaill iddo ei gael i newid ei feddwl, a mynd efo fo am beint i’r dafarn leol. Ond roedd Robin yn daer na thorrai ei ardystiad. A dyma ei ateb efo’r englyn yma:
Ni cheisiaf fedd na’r gyfeddach - er blysI’th blesio di’r gelach,Pe crefit lawer cryfachDa’i sut ‘n y byd, satan bach.
Cynhwysir yr englyn Saesneg yma’n y bennod - englyn enwog Gwilym Deudraeth [1863-1940] - ‘bardd yr awen barod’. Dywed y Llyfrbryf i Gwilym adrodd yr englyn o’r maen llog tra’n traddodi anerchiad farddonol, pan udodd mul o gae cyfagos. O glywed hwnnw, torrodd y gynulleidfa oedd yn gwrando allan i chwerthin. Ar ôl iddyn nhw ddistewi, meddai’r cynganeddwr slic:
So well he sings his solo - in the field,With a full crescendo;He does on end, as you knowA tender rallentando.
- - - - - -
Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon