Llofruddiaeth ynteu Damwain?
Y mae hanes cynnar ein hysgolion ym mhlwyf Ffestiniog yn ddigon diddorol. Y mae hi’n bur debyg mai un o’r rhai cyntaf oedd ‘Yr Ysgol Newydd’ ar dir Stad Pengwern a fu mewn defnydd o tua 1649 i 1652. Bu amryw o rai bychain hwnt ac yma yn y plwyf wedyn o ddiwedd yr 1780au hyd at y cyfnod yr agorwyd Ysgol Genedlaethol Penyrallt Goch yn y Llan yn 1828. Dilynwyd hon gan Ysgol Genedlaethol Llwynygell (1838) a’r Ysgol Frutanaidd yn Nolgarregddu (1846). Yna, yn yr 1870au a’r 1880au agorwyd nifer o ysgolion safonol yn y plwyf gan y Bwrdd Ysgol.
Un o’r ysgolfeistri cyntaf yn Ysgol Frutanaidd Dolgarregddu oedd Griffith Davies, ond y mae hanes ei ddyddiau olaf yn dipyn o ddirgelwch. Yn ôl adroddiad y cwest yn y 'Caernarvon and Denbigh Herald', 5 Rhagfyr, 1851 cafwyd hyd i’r ysgolfeistr yn gorwedd ar y ffordd y tu uchaf i Faentwrog oddeutu 2.30 o’r gloch fore dydd Mawrth 27 Tachwedd,1851 gan Mr Edward Edwards llawfeddyg lleol. Yn fuan wedyn, cludwyd ef i Westy’r Grapes lle rhoddwyd pob gofal iddo, ond yn anffodus bu farw oddeutu 9 o’r gloch y noson honno. Yn y llun, dangosir Yr Ysgol Frutanaidd oddeutu 1872 ar y dde. Dyma le cynhelir cyfrinfa'r seiri rhyddion heddiw.
Yn y cwest, mynnodd y rheithgor bod archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal ar y corff gan fod ei benglog wedi ei dorri ac mewn cyflwr dychrynllyd, a chan nad oedd tystiolaeth sut y digwyddodd hyn, penderfyniad y rheithgor oedd dyfarniad agored.
Digwyddiad Trist Arall
Diddorol yw hanes hen seindorfeydd pres, a’r rhai arian, a fu’n y Llan a’r Blaenau tros y blynyddoedd, ac fel y buont yn diddanu ac adlonni pobl y fro a chyrion pellach. Da o beth yw gallu dweud bod Band yr Oakeley yn dal yn boblogaidd a llwyddiannus heddiw ers cael ei sefydlu tros gan mlynedd a mwy yn ôl.
Cafodd y ddwy seindorf arweinwyr clodwiw ar hyd y blynyddoedd ac enillwyd sawl cystadleuaeth ganddynt yma a thraw. Bu Cornelius Lawrence (neu Laurence) yn arweinydd poblogaidd gyda Band Pres y Llan am beth amser. Credaf mai un o Ramsbury, Wiltshire oedd yn wreiddiol, ac wedi bod yn gysylltiedig â Stephens Royal Menagerie cyn dod i’r ardal.
Fel y mae’r pennawd yn awgrymu, hanes digon trist a fu iddo yn y diwedd. Yn ôl adroddiad yn y North Wales Chronicle, 2 Mawrth,1872 roedd wedi mynd i lawr i’r Traeth Bach (i bysgota, yn ôl pob tebyg) pan welodd garddwr Aber Iâ (Portmeirion heddiw) ef yn croesi’r traeth mewn lle drwg a thra roedd y llanw allan. O ganlyniad, gwaeddodd arno a’i rybuddio, ac i groesi mewn lle arall yn uwch i fyny’r traeth. Pa fodd bynnag, atebodd y gŵr bonheddig ei fod yn gyfarwydd â’r ardal ac os digwyddai fynd i drafferth y gallai nofio. Ond, wedi iddo ymlwybro ychydig ar hyd y traeth, gwelodd y garddwr ef yn suddo yn sydyn a’i glywed yn galw am help. Yn dilyn hyn rhedodd y garddwr i’r Penrhyn am gymorth y Rhingyll Lewis, ac aeth criw draw yno yn ddiymdroi.Yn ogystal, gyrrodd A.Osmond Williams, Castell Deudraeth rhagblaen i orsaf yr heddlu ym Mhorthmadog a chasglodd heddweision o’r orsaf i chwilio amdano, a gwnaed hynny am rai dyddiau, ond methwyd a chael hyd iddo o gwbl, a dyna ddiwedd y stori drist hon.
Bûm yn meddwl, tybed pam y penderfynodd fentro ar hyd lle mor beryglus? Dyma hanesyn arall, yn ddiau, na chawn esboniad na diweddglo hollol foddhaol yn ei gylch.
Steffan ab Owain
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon