9.12.25

PEN-BLWYDD HAPUS I LLAFAR BRO YN 50 OED!

Ym mis Hydref 1975 y cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro ac mae wedi gwasanaethu'r ardal yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd … 11 copi'r mis heb fethu'r un a hyd yn oed yn ystod Clo'r Covid fe gaed copïau digidol o’r papur. 

Dyma gyfle i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod ynghlwm â’r papur ers y dechreuad, y dosbarthwyr ffyddlon, y cyfranwyr achlysurol a’r colofnwyr parhaol, y rhai sy’n hysbysebu yn y papur ac yn talu am gael gwneud ac sy’n help mawr iawn i’r papur lwyddo yn ariannol. Hefyd rhaid diolch i’r darllenwyr wrth gwrs sydd wedi cadw'r papur ar ei draed am bum degawd trwy ei brynu yn gyson. Diolch i chi i gyd!

Ond, yn y paragraff cyntaf ar dudalen flaen y rhifyn cyntaf mae Cadeirydd Cymdeithas Papur Bro yn gofyn:

“A oes angen papur newydd sbon i gylch Ffestiniog? A fyddai gan y papur hwnnw gyfraniad pendant i fywyd a diwylliant yr ardal? Credaf fy mod yn siarad dros y mwyafrif wrth ateb yn ffafriol i’r ddau gwestiwn yma.”

Roedd yn iawn wrth gwrs ac mae’r darllenwyr wedi parhau i’w brynu. Aiff yn ei flaen:

“Yr atebion pendant yma yw’r symbyliad sydd tu ôl i’r fenter newydd bleserus hon – y teimlad fod yma le i bapur Cymraeg sydd yn ymwneud yn hollol a’r ardal; papur sydd yn cael ei gynhyrchu gan bobl yr ardal, a heb unrhyw gyswllt a chwmnïau a diddordebau oddi allan i’r plwyfi. Eich papur chi! Y nod yw gwasanaethu'r chwe rhanbarth yng nghylch Ffestiniog – Tanygrisiau, Blaenau, Y Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd.”

Ac mae hyn wedi parhau. Roedd gwaith y gwirfoddolwyr yn dra gwahanol i’r hyn ydi o rŵan. Roedd gosod y papur at ei gilydd yn waith anodd - nid fel heddiw pan fo technoleg ddiweddar yn medru gwneud gwaith fel hyn drosoch … papur a phâst a theipwyr yn teipio pob gair oedd i ddechrau … dim anfon e-byst neu wneud gwaith ar y cyfrifiadur fel heddiw. Mae’r 50 mlynedd diwethaf wedi gweld chwyldro yn y modd y caiff papurau bro eu cynhyrchu a bellach maent yn lliwgar ac wedi ei gosod yn broffesiynol. Chwarae teg i'r gwirfoddolwyr cyntaf mi ddaru nhw weithio'n galed i gael popeth i drefn ar ben bob mis.

Rhan o'r arddangosfa ddathlu, yn Oriel Llyfrgell y Blaenau

Roedd Llafar Bro yn rhan o fudiad cenedlaethol yng Nghymru yn y 1970au … cynhyrchwyd degau ohonynt ymhob rhan o’r wlad a theg dweud nad oedd ardal yng Nghymru heb Bapur Bro ac mae’r mwyafrif llethol yn dal i fynd heddiw mewn cyfnod lle mae pobl yn medru cael eu newyddion lleol o ffynonellau eraill ond tebyg fod y papurau bro yn dal i ffynnu oherwydd bod y darllenwyr yn ei hoffi a hir y pared hynny. Maent yn rhad er fod prisiau papurau dyddiol wedi cynyddu yn sylweddol. Ymdrech i roi gwasanaeth lleol yn Gymraeg oedd nod y papurau hyn ac ymdrech i gael pobl leol i uniaethu gyda newyddion eu bro a chael barn bro yn hytrach na barn Llundain a dinasoedd Lloegr lle cynhyrchir y mwyafrif llethol o bapurau dyddiol.

Mae tudalennau blaen y rhifynnau cynharaf yn codi dadl bob tro ac mae nifer o’r darllenwyr yn ateb gyda’i barn yn y rhifynnau canlynol … rhywbeth nad sydd yn digwydd yn aml yn ddiweddar. 


 

Yn y rhifyn cyntaf cawn groeso a bwriad y papur newydd hwn ac yna yn yr ail [chwith] cawn ddadansoddiad o’r Stryd Fawr a Heol yr Eglwys efo’r siopau sy’n cau. 

 

Yn y trydydd rhifyn ceir cwyn am yr holl lanast ar ochr y ffordd i lawr i Danygrisiau efo'r holl waith o dirlunio un ochr o’r ffordd … pobl yn flin iawn mae’n debyg! Ac roedd y pennawd ddim yn helpu i leddfu’r consýrn: 'O’r Nefoedd Dyma Le’

 

 

Yn rhifyn Ionawr 1976 cawn ddadansoddiad o’r manteision a’r anfanteision o gael cynnwys y Blaenau yn y Parc Cenedlaethol … ond penderfynu yn erbyn gwnaeth yr awdurdodau ar y pryd. Yn rhifyn Chwefror 1976 ceir ymateb chwilboeth i’r holl dai haf sy’n cael eu creu yn y fro … dyma’r cyfnod pan gofnodwyd fod ‘holl’ dai pentref Rhyd yn dai haf a bod Tanygrisiau yn dechrau mynd yn hafan i dai haf … beth oedd i’w wneud? Wel fawr ddim a deud y gwir, dim ond rhybuddio'r dref a'r trigolion i fod yn fwy gwyliadwrus o'u treftadaeth. ‘Trwy Ofer Esgeulustod’ oedd y pennawd bryd hynny yn 1976. Ceir sylwadau ymhob un o’r rhifynnau cynharaf

Mae consýrn yn dal i fodoli yn dref heddiw. Mae pobl yn dal i boeni am y Stryd Fawr a Heol yr Eglwys sy’n dal efo siopau gwag a tydi pethau wedi newid dim dros y 50 mlynedd diwethaf mae’n ymddangos ac felly gyda’r Parc Cenedlaethol a dan ni'n dal heb fentro i mewn er bod sôn parhaol am wneud hyn. Felly gyda thai haf sydd wedi cynyddu yn sylweddol mewn nifer dros y 50 mlynedd diwethaf ac mae'r Cyngor Sir wedi cyflwyno mesurau llym i leihau y broblem fel y mae’n cael ei gweld. Yn sicr mae mwy o Saesneg i’w glywed ar ein strydoedd heddiw nag oedd yn 1975 ac rydym yn dal i sôn am hyn. 

Ac er fod bomio yr IRA bellach wedi peidio ers rhai blynyddoedd rydym yn dal i resynu am y bomiau sy’n syrthio ar bobl Iwcrain a thrigolion Gaza ac mae’r dioddefaint ofnadwy yr hil-laddiad yn Gaza yn troi stumog rhywun. Ond rhaid cofio ni siaradwyr Cymraeg ein bod ni YMA O HYD ac yn dal i fynd ac mae Llafar Bro yn dal i fynd a dal i gyfrannu. Ond ‘byddwch wyliadwrus o’ch treftadaeth’ … mae sylwadau’r Cadeirydd yn y rhifyn cyntaf yr un mor briodol heddiw!

TVJ

- - - - - - - - -

Dyma rai o'r cyfarchion penblwydd yn rhifyn Hydref:

Llongyfarchiadau

Am hanner canrif, mae Llafar Bro wedi bod wrth galon cymunedau ardal Ffestiniog - yn rhannu ein straeon, yn dathlu ein diwylliant, ac yn cryfhau’r iaith Gymraeg. Rydym yn llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o gasglu, paratoi a dylunio’r papur, boed hynny yn y gorffennol neu y presennol, ac am eu hymroddiad a’u gwasanaeth. Boed i Llafar Bro barhau i ysbrydoli ac i hysbysu pobl yr ardal am flynyddoedd lawer i ddod.  Llongyfarchiadau oddi wrth Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor  (Aelodau Seneddol, San Steffan a Senedd Cymru)

-----

Dymuna Clwb Rygbi Bro Ffestiniog ddiolch am gefnogaeth Llafar Bro dros hanner canrif gan fod Llafar Bro yn wastad yn cynnwys adroddiadau Bro. Diolch eto!

-----

Mae Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn falch o longyfarch Llafar Bro ar ddathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Diolch hefyd i’r sawl sydd wedi cyfrannu cymaint tuag at sefydlu’r Gymdeithas Hanes. Bydd ein disgynyddion yn ddiolchgar ichi am rannu eich hanes ar eu cyfer. Braint i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yw cael rhannu’r wybodaeth am y dathliad arbennig i’n papur bro, mewn arddangosfa arbennig yn oriel Llyfrgell y Blaenau. Daliwch ati, a diolch am fod rhan mor bwysig a chefnogol i’ch hardal.

-----

Diolch am eich gwasanaeth! Hoffai pawb yn Seren a Gwesty Seren longyfarch Llafar Bro am wasanaethu'r gymuned dros y 50 mlynedd ddiwethaf!

----- 

Rydym mor falch o glywed bod Llafar Bro wedi cyrraedd ei 50oed , Pen-blwydd hapus mawr i chi. Rydwyf wedi bod ynghlwm â’r Dref Werdd ers 6 mlynedd a chyd-weithio gyda Llafar Bro ers hynny gyda gwybodaeth i’r cyhoedd am ein holl waith llesiant ac amgylcheddol mae’r Dref Werdd wedi ei greu dros y blynyddoedd. Roeddwn yn ymwybodol iawn o Llafar Bro pan oedd y gŵr yn olygydd 25 mlynedd yn ôl, ac ar ôl i mi symud i’r ardal, ac wedi bod yn ei ddarllen yn frwd ers hynny. Rydym erbyn hyn yn dosbarthu Llafar Bro ar draws yr ardal, ac wrth ein boddau yn gallu lledaenu newyddion y gymuned i’r gymuned. Ymlaen i’r 50 mlynedd nesaf. Rhian Williams a’r Tîm

----- 

Ymddangosodd yr uchod i gyd yn rhifyn Hydref 2025 




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon