19.12.25

Cofio 'Dyn yr Adar'

Ted Breeze Jones (1929-1997)

Ar safle Gweilch y Glaslyn ger Llanfrothen ym mis Mawrth 2025 penderfynwyd, mewn cyfarfod arbennig o aelodau Cymdeithas Ted Breeze Jones dod â gweithgareddau ffurfiol ac aelodaeth o’r Gymdeithas i ben.

Cymdeithas dilyn adar oedd hyn yn bennaf, yn trefnu ymweliadau i wahanol lefydd i weld adar ac i gael ambell i ddarlith. Roedd y Gymdeithas yn anrhydeddu Ted a’r gwaith a wnaeth ar hyd y blynyddoedd yn magu ymwybyddiaeth tuag at natur a bywyd gwyllt, a’i ddiddordeb pennaf oedd mewn adar a thyfodd yn awdurdod arnynt gan gyhoeddi llyfrau ar adar a chymryd rhan mewn rhaglenni radio i rannu gwybodaeth amdanynt. 

Ganwyd Ted yn ardal Cae Clyd, Manod. Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed a bu farw ei dad yn fuan wedyn. Symudodd rhyw filltir i fyny'r ffordd i'r Blaenau, lle cafodd ei fagu gan ei fodryb a'i ewythr, Martha a Humphrey Williams, yn 8 Stryd Dorfil. 

Wedi gadael coleg, cafodd swydd fel athro yn Nhrawsfynydd ym 1950, ac yna yn Ysgol Maenofferen, ym 1952 ac yna symudodd i Ysgol Manod ym 1962. Ac yn sicr bydd nifer o’r darllenwyr yn ei gofio yn un o’r ysgolion hyn. Pan sefydlwyd Clwb Camera Blaenau Ffestiniog codwyd Ted yn Gadeirydd arno. Daeth galw mawr am ei wasanaeth fel darlithydd a theithiodd hyd a lled gogledd Cymru yn arbennig yn dangos sleidiau i gymdeithasau lleol.

 

Rhwng 1966 a 1997 cyhoeddodd tua 30 o gyfrolau ac erthyglau di-ri mewn gwahanol gylchgronnau. Cynhaliai ddosbarthiadau WEA ac Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor ac ymhen amser daeth yn llais cyfarwydd iawn ar radio a theledu.

Cefais y fraint o’i gael yn athro arnaf yn Standard III, Ysgol y Bechgyn (bryd hynny) Maenofferen. Dyddiau braf oedd dyddiau Ysgol Maenofferen, lle mae llyfrgell y dref bellach… athrawon gwych gyda Frank Roberts, Manod yn Standard II, Mrs Roberts, Llwyngell yn Standard IV a Tom Evans Tŷ’r Ysgol y prifathro, yn Standard V.

Yn ogystal roedd cartref Ted Breeze yn groes i’r ffordd i’m cartref i yn 40 Heol Dorfil. Yng nghefn y tŷ roedd yn cadw caets mawr le'r oedd adar wedi eu clwyfo yn cael eu trin ganddo ac yn aml roeddem fel plant yn mynd draw yno i weld yr adarfa. Dod ar draws aderyn wedi brifo, yna at Ted Breeze Jones fyddan ni yn mynd a fo. Yn y dosbarth yn Ysgol Maenofferen roedd yn cynnal a chadw Bwrdd Natur yng nghornel yr ystafell ac roedd croeso i unrhyw un ddod a blodyn neu ddeiliach ac yn y blaen i ychwanegu at y casgliad. Caed gwersi natur yn reit gyson a hyn i gyd yn Gymraeg wrth gwrs. Gwell fyth fyddai’r teithiau cerdded i lawr i Gwm Bowydd i chwilio am nythod ond fyw i ni eu cyffwrdd … dim ond dysgu amdanynt … dysgu enwau blodau a choed … roeddem yn lwcus iawn i gael y fath athro yn yr ysgol gynradd.

Y Moelwynion o lan Afon Glaslyn. Llun Bywyd Gwyllt Glaslyn

Yn y cyfarfod uchod, penderfynwyd gwneud rhodd sylweddol o goffrau’r Gymdeithas tuag at ymgyrch Gweilch y Glaslyn i brynu darn o dir ar lannau'r Glaslyn er mwyn ymestyn maint safle gwylio’r gweilch a darparu llwybr cerdded ar hyn lannau’r afon. Penderfynwyd hefyd, i gadw peth arian wrth gefn er mwyn codi cofeb i Ted, gyda chydweithrediad cyfeillion Bywyd Gwyllt y Glaslyn, rhywle ar y darn tir newydd. Mae’r gofeb bellach yn y broses o gael ei chynllunio a’i gwireddu. Bydd hyn y deyrnged ardderchog i Ted ac i gofio amdano. Naturiaethwr o fri. Mae’n siŵr y daw mwy o wybodaeth maes o law ynglŷn â’r gofeb.

TVJ 

- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon