19.8.16

Stolpia -Clychau eto

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, yn parhau â'i drafodaeth am glychau.

Cloch  Botes
Ceir amryw o gyfeiriadau mewn hen ddogfennau at yr hyn a elwid yn ‘Gloch Botes’.  Dywed Bob Owen (Croesor) yn ei erthygl yn y Genedl Gymreig, Tachwedd 1930, ar glychau o bob math, y canlynol amdani hi:
‘Mewn amryw eglwysi cenid clychau fel yr ymadawai cynulleidfaoedd allan ar foreau Sul.  Ni wyddis beth roeddes fod i’r arfer hwn, os nad, meddai un ddigrifwraig, i roddi rhybudd i’r lladron i ymadael cyn i’r teuluoedd ddychwelyd o’r eglwys a’u drysu ar eu hanfadwaith.’

Nid yw pawb yn gytun ar yr amser y cenid y gloch hon.  Dywed rhai mai cyn mynd i’r gwasanaeth y gwneid hynny, tra dywed eraill mai ar ddiwedd y gwasanaeth y cenid hi. Yn ôl rhai cenid hi tua naw o’r gloch er mwyn i’r bobl gael digon o amser i fwyta eu potes, neu eu huwd cyn cychwyn am yr eglwys.  Ar un adeg byddid yn canu’r gloch hon ym Metws Gwerful Goch a dywedid mai ei diben yno oedd rhoi rhybudd i rai arhosai adref i baratoi cinio rhagblaen a chyn i’r meistri gyrraedd gartref.

Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog. Llun -Paul W
Cloch Crempog
Ar Fawrth Ynyd y cenid y gloch hon, a hynny am un-ar-ddeg, o’r gloch y bore.  Cloch i rybuddio’r mamau a’r morynion i roi crempogau ar y tân oedd hon yn ystod ei chyfnod diweddaraf.  Sut bynnag, cloch i alw ar y bobl i gyffesu oedd hi’n wreiddiol a chenid hi am wyth o’r gloch y bore mewn llawer eglwys, hyd yn oed pan nad oedd gwasanaeth yno.  Y rheswm am hyn oedd dangos fod gwasanaeth wedi arfer cael ei gadw yno ar yr awr honno ar un adeg.

Cloch y Dafarn
Dywedir mai cloch i wysio pobl o’r dafarn i Offrwm mewn claddedigaeth oedd hon yn wreiddiol.  Fel hyn y canodd Rowland Huw o’r Graienyn am yr arferiad yn Llanfor ger y Bala.
A’r Bugel heb gel sy’n galw – y defaid
O Dafarn y cwrw
Nid yw yn hel a’i dwyn nhw
I dy mawl ond am elw.


Chwithau aelodau goludog, - sain gwledd
Sy’n gladdest mor halog
Pa arwydd gras praidd y grog,
Clywch ganu Cloch y Geiniog.
Y Gloch Gnul
Byddid yn arferiad drwy Gymru gyfan ar un adeg i ganu y ‘Gloch Gnul’ neu’r 'Gloch Ymadawiad’ yn fuan ar ôl marwolaeth aelod o’r eglwys, neu ‘ar ôl i’r enaid ymadael o’r corff’, fel y dywedir.  Newidwyd hyn mewn llawer ardal yn ddiweddarach, mewn ambell le cenid hi ar y noson cyn yr angladd, neu ychydig cyn y cynhebrwng.  Gellid dweud ers talwm yn ôl nifer y tinciadau os mai dyn neu ddynes, hen lanc neu hen ferch, neu fachgen neu ferch a gleddid.

Mewn ambell fan arall, canai’r clochydd y clychau yn y fath fodd fel ag y gellid gweithio allan oedran y person a fu farw.  Gyda llaw, gelwid tâl y clochydd gynt yn ‘Ysgub y Gloch’, neu ‘Yd y Gloch’ neu ‘Blawd y Cloch’.  Mesur o geirch a gai’n daliad mewn ambell blwyf, - hanner mesur o wenith a hanner o haidd allan o’r Degwm.  Yn ystod y cynhaeaf âi’r clochydd i gasglu ysgubau o yd oddi wrth y plwyfolion.  Yn ôl cofrestr plwyf Betws Gwerful Goch am y flwyddyn 1774 yr oedd y person yn hawlio ‘Blawd y Gloch’.  Tybed a oes cyfeiriadau at y taliadau hyn yn ein plwyf ni a’r plwyfi cyfagos o gwbl?

O.N.  Cafodd y golofn ychydig sylw ar Raglen Hywel Gwynfryn y dydd o’r blaen, ac er na chlywais y rhan a ddilynodd y cyfweliad, deallaf i un o’m ymholiadau gael ei ateb mewn dim amser.  Holais os oedd yr hen ‘gloch cymun’ a fyddai yn Eglwys Llanrhyddlad, Ynys Môn ar gael heddiw, a chafwyd ateb cadarnhaol gan y Rheithor ei body n dal yno.  Diolch i bawb am eu diddordeb.


Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mawrth 1999.

-----------------------------------------------

Dilynwch erthyglau Steffan am GLYCHAU neu gyfres Stolpia efo'r dolenni isod.


1 comment:

  1. Difyr drios bem. Llawer o ddiolch i Steffan an ei ymchwil brwdfrydug. Pleser ei gyfarfod yn Eisteddfod Y Fenni eleni

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon