Eleni byddwn yn coffáu chwechanmlwyddiant marwolaeth y Cymro mwyaf eiconig yn hanes y genedl, Owain Glyndŵr. Ychydig a wyddom am flynyddoedd olaf Glyndŵr; serch hynny, mae ystod eang o ffynonellau yn cynnig mai ar Fedi 21, 1415 y bu farw.
Mae mwyafrif yr adroddiadau yn dewis Golden Valley yn swydd Henffordd fel y man lle treuliodd ei flynyddoedd olaf. Priododd dwy o'i ferched ŵyr o'r dyffryn. Priododd Alys (ei ferch hynaf) â John Scudamore o Kentchurch Court ac yn rhan o adeiladwaith y llys hwwnw mae Tŵr Glyndŵr.
Ym Monnington Straddel, tua 7 milltir o Kentchurch, mae mwnt sydd â thraddodiad cryf o fod y man lle claddwyd Owain.
Dafydd a Vivian yng Nghorwen, Mai 2014 |
Barn Dr Keith Ray, archeolegydd swydd Henffordd, oedd bod Owain bron yn sicr wedi'i gladdu mewn tir cysegredig, a bod o leiaf pedwar safle o fewn i'r sir lle y gallai fod yn gorwedd.
Mae Abaty Dore, Abaty Sistersaidd ynghanol y Golden Valley, yn safle tebygol, yn enwedig gan fod yr abaty yn meddu ar dir sylweddol yn y cwm. Yn ei lyfr 'The Mystery of Jack of Kent and the Fate of Owain Glyndŵr' mae Alex Gibbon yn hawlio bod corff Owain wedi'i gludo o swydd Henffordd a'i gladdu yn Eglwys Sant Gwrdaf, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin.
Mae'r offer dadansoddol ar gael i ddatgelu'r ateb i'r dirgelwch erbyn hyn; y cwestiwn llosg, wrth gwrs, yw a ddylid ceisio chwilio am yr ateb?!
Am wybodaeth bellach cysylltwch â: Dr John Hughes (Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth), Bryn Siriol, Heol Penygreen, Llanidloes, Powys SY18 6AJ.
Gwefan: http://www.owain-glyndwr.cymru/index.html (dim cysylltiad â Llafar Bro).
...ac wedyn yn Sycharth, flwyddyn yn ddiweddarach. (Wel, mae hi mor anodd ffeindio'r lle tydi!) Lluniau PW. |
------------------
Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2015.
Mae'r Gymdeithas yn trefnu gwibdaith i'r Golden Valley ar Fedi'r 5ed. Cysylltwch am fanylion.
Mae nifer o weithgareddau'n rhan o Ddathliadau Corwen ym Medi hefyd:
Dydd Owain Glyndŵr – Dydd Mercher, Medi 16eg
- Siaradwr : Gareth Vaughan Williams
Darlith Cymdeithas Hanesyddol Meirionnydd – Dydd Sadwrn, Medi 19eg
- Siaradwr : Gruffydd Aled Williams
- Lleoliad : Neuadd Goffa Owain Glyndŵr, Glyndyfrdwy
- Testun : Owain Glyndŵr yn ei gynefin
Bydd trenau Rheilffordd Llangollen yn darlledu hanes Glyndŵr
(Hefyd, Gŵyl Gerdded Corwen - Medi 5ed & 6ed)
Hefyd, mae Gŵyl Glyndŵr wedi'i drefnu ym Machynlleth ar y 19eg o Fedi, gan Ganolfan Owain Glyndŵr. Bydd cerddoriaeth a gweithgareddau plant yno o 1 o'r gloch ymlaen.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon