25.9.15

Llyfr Taith Nem -'crwydro oedd fy ngwendid'

Detholiad arall o Lyfr Taith Nem yn adrodd ei anturiaethau tra 'ar dramp' yng Ngogledd America ddechrau'r ganrif ddwytha'. 

Cyfnod y Symud Buan

O Ilion troais i Detroit, Michigan, rhyw 800 o filldiroedd i'r gorllewin, gerllaw Rhaiadr Niagara. Yr oedd digon o waith i'w gael yno, a chyflog da, ond yr oedd yr hen wanc crwydrol yn drech na mi unwaith yn rhagor, a phenderfynnodd cyfaill a minnau deithio i Dalaith Wyoming, tua mil o filldiroedd i'r gorllewin.

Cyrhaedasom le o'r enw Clearmont. Sôn am anialwch Berseba, nid oedd yno dŷ nac unrhyw adeilad, dim ond milltiroedd o wlad eang o bob tu. Ond o'r diwedd daeth Stage Coach dros y gorwel, ac ni fu dau erioed mor falch o glywed carnau meirch yn troedio. Mynodd y gyrrwr i ni dalu am ein taith cyn cychwyn, rhag i ddynion drwg ddal y cerbyd i fyny a'n lladd! Daeth ei eiriau a rhyw awel oer drosom, ond nid oedd dim i'w wneud ond esgyn i'r cerbyd.

Cawsom siwrne weddol gyfforddus ar wahan i ambell glais ar ran arbennig o'n cyrff. Cyrhaeddasom bentref o'r enw Buffalo a dyna'r tŷ cyntaf i ni weld.

Gan ei bod yn amser cneifio, cawsom waith ar ein hunion. Gwaith 'rangler' i mi a gwaith ‘fflonci’ i Wil Bach, Delefan, fy nghyfaill. Yr oedd tua 15 mil o ddefaid i'w gwylio, a deuai'r bugeiliaid a hwy i mewn yn ystod y nos, yn barod erbyn y bore. Yr oedd gan pob cneifiwr ei le ei hun, ac yr oeddwn i yn gweinyddu ar dri ohonynt. Gallasai cneifiwr da gneifio dau gant o ddefaid mewn diwrnod, a chawsant 4½d yr un am y gwaith. Yr oedd y cneifiwr araf yn gwneud 100 y dydd. Felly yr oeddwn yn bur brysur tra wrth y gwaith. Yr oedd hefyd tua 2000 o ŵyn bach i dorri arnynt, a'r hen drefn oedd defnyddio danedd i wneud y gwaith hwnnw. Gwerth croniclo bod y cyflogau yn gyflogau undebol, ac yr oedd yn rhaid ymuno â'r undeb ar unwaith neu buasai'r cneifwyr eraill yn gwrthod cario ymlaen. Y flwyddyn oedd 1910.

Wedi i'r gwaith ddarfod, rhaid oedd i fy nghyfaill a minnau symud i chwilio am waith arall. Cludwyd ni i orsaf rhyw 30 milldir i ffwrdd, drwy yr anialwch, ac aethom ar y trên i Denver, ac yna i Colorado Springs, ac oddi yno i le o'r enw Ouray. Pentref bychan oedd hwn ac yn atdyniad i fwyngloddwyr. Yr oedd yno weithydd haearn, plwm ac arian. Ar ôl cerdded o chwech y bore hyd hanner dydd, cawsom waith mewn mwynglawdd yn dwyn yr enw Revenue Ore Mine. Yr oedd amryw o Gymry yn gweithio yno: rhai o Brynrefail, Dolyddelen a Stiniog. Yr oedd y gwaith yn galed, a rhaid oedd gweithio saith diwrnod bob wythnos, am ddwy ddoler y dydd. Blinasom ar y gwaith caled ac aethom yn ôl i Denver. Yr oedd mis yn fwy na digon i ni ein dau.

Yn Denver cawsom waith i dorri sylfaeni i adeiladau newydd y ddinas. Ond nid oedd y gwaith hwn wrth ein bodd chwaith, felly symudais i Chicago i weithio gyda chwmni Marshall Field, ac er fod y gwaith yn ddymunol, a'r addewid yn dda, ychydig fu fy arhosiad yno, a chefais waith yn fuan fel 'Baggage Man' ar rei1ffordd y Burlington Quincy. Dylaswn fod yn hapus yn Chicago gan fod pedair eglwys Gymraeg yno ar y pryd, ond yn anffodus nid oeddwn fawr o grefyddwr. Pe taswn wedi bod, hwyrach buasai fy mywyd yn fwy sefydlog, ond fel y dywedais, yr hen wanc grwydrol oedd fy ngwendid.

Fel mater o ffaith cefais waith mewn 15 o wahanol ffatrioedd yn Detroit, ac wedyn yn Eddystone, a Chester, PA, ac hefyd mewn iard adeiladu llongau. Oddiyno i Wilmington Delaware, a llwyddo i gael gwaith fel ffitar mewn iard longau. Yr oedd hwn yn waith wrth fy modd, a bum uno am bum mlynedd, yr oedd y cyflog yn dda.

Pam mae ambell un yn methu setlo i lawr yn unman, ac eraill na symudant o fro eu geni?
Tybed mai rhyw drefn fawr sydd yn rheoli dyn? Fodd bynnag, plygu glin i'r llais wnes, a symud tua fy antur fwyaf yn fy holl deithiau.

Cyn dechrau ar y stori, rhaid rhybuddio y darllenydd bod yr antur wedi profi yn drychinebus i mi ac i eraill oedd gyda mi...

-------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon