Ymhlith y rhai diwylliedig a adawodd ein bro ac ymsefydlu yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia oedd John W. Jones, Tŷ Newydd, Tanygrisiau (tŷ sydd bellach o dan Lyn Ystradau). Fel amryw o'i gyd-ardalwyr, credaf mai yn ystod yr 1870au (1874 mi gredaf) yr hwyliodd ef a'i ddau frawd, Henry a Richard drosodd yno. Dywedir fod Tanygrisiau wedi colli gŵr dawnus yn ymadawiad J.W.J o'i fro enedigol.
Yn ôl D.O.Hughes yn 'Canrif o Hanes yr Achos Methodistaidd yn Nhanygrisiau' ef oedd arweinydd y gân yng Nghapel Carmel cyn i Cadwaladr Roberts gymryd drosodd. Do, bu J.W.J yn amlwg iawn gyda cherddoriaeth yn ei henfro, ac yn ôl beth ddywedir, roedd yn un o'r chwareuwyr offerynnau cyntaf o holl weithwyr y plwyf. Byddai hefyd yn wastad yn barod i gynorthwyo eraill yn y maes cerddorol.
Pa fodd bynnag, ar ôl iddo setlo ym Mhatagonia ni fu'n hir iawn cyn codi tŷ iddo'i hun a'i deulu. Gwnaeth hyn heb fawr o ymdrech gan ei fod yn saer celfydd ac yn gallu troi'i law at lawer gwaith. Galwodd y tyddyn yn 'Tŷ Newydd' er cof am ei hen gartref yn Nhanygrisiau. Bu'n amlwg hefyd gyda chodi adeiladau eraill yno, un ohonynt cedd Capel Moriah yn y Gaiman a adeiladwyd yn 1874.
Mae hanes J.W.Jones Tŷ Newydd yn ddiddorol iawn, ond dyma stori am ei fab rwan. Un tro pan oedd y dynion allan ar y paith yn hel gwartheg ymosododd 'piwma' (llew mynydd) ar ei gi, ac yn wir, byddai'r creadur ffyrnig wedi lladd y ci druan onibai i'r bachgen daflu ei 'laso' oddi ar gefn ei geffyl ac am wddw'r piwma .... a'i dagu. Gallai bywyd Cymry'r Wladfa fod yn dra pheryglus ar adegau a dim ond un stori o lawer yw hon.
Y Gaiman heddiw. Llun gan Beryl a Vivian Williams |
O.N. (1) Diolch i Mrs Gwenda Jones, Mr D.Hughes (Deio), Heol Wynne, a Mr Roy Jones, Cae Clyd am fy ngoleuo ynghylch hanes James Nichols. Deallaf fod J.N. wedi bod yn byw dros y ffordd i gartref Mrs Jones ar un adeg a'i fod yn gweithio yn Chwarel Maenofferen. Byddai chwarelwyr ifainc Maenofferen yn hoff iawn o'i glywed yn adrodd ei hanes fel 'gaucho' (cowboi) ar y paith ac yn defnyddio'r bolas a'r laso. Deallaf hefyd ei fod yn darlithio i wahanol gymdeithasau ar hanes y Wladfa a'r Cymry a arloesodd y wlad bellennig honno ar gyfer eu cyd-wladwyr.
(2) Diolch hefyd i Mr Roy Jones am ddweud wrthyf mai ym mynwent eglwys Betws y Coed y claddwyd Robert Jones (Ortro Law) yn ogystal a bod walet blu pysgota yr hen bererin wedi dod i’w feddiant.
------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1995, yn y golofn Stolpia.
I'w barhau..
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon