23.9.15

Peldroed. 1950-51

Chweched ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.

"O hyn ymlaen", meddai Vivian Parry Williams, wrth i'r bennod yma ymddangos yn Llafar Bro yn rhifyn Chwefror 2005, "bydd  adroddiadau manwl Ernest Jones o hanes timau pêl-droed y Blaenau [yn ymddangos fesul tymor] o 1950-51 hyd at dymor olaf y clwb yn 1985-86.  Dyfynnir yn gyfan, air-am-air o gofnodion Ernest".

1950-51: 
Tymor tîm Rod Gilmour oedd hwn.  Tymor Meirion Roberts, sgoriwr awchus o'r Rhyl.  Tymor y brodyr Eddie a Cyril Cole, Wrecsam.  Chwaraeodd Gilmour ymhob un o'r 46 gemau, a sgoriodd Meirion Roberts 52 o weithiau.  Yr oedd wrth ei fodd cyfarfod y bêl fel y deuai oddi wrth yr asgellwyr chwim, Bryn Jones a Billy Bagnell.  Sgoriwyd 122 gôl mewn 46 gêm.

Cyril Jones, Rod Gilmour ac Ellis Jones oedd yn rheoli canol y cae i'r Blaenau, a'r mewnwyr oedd Albert Shepherd a Paddy Cavanagh.  Alan Riley oedd yn y gôl, gyda Eddie Cole a Jack Griffiths yn gefnwyr.  Daeth Cyril Cole i'r tîm yn ddiweddarach.  Yn absenoldeb Riley bu David Neville Davies, Trawsfynydd, yn cadw gôl.  Bechgyn lleol eraill a fu yn y tîm o dro i dro oedd Ronnie Jones, Gwyn Morgans, David W.Thomas, William Jones, Robert Evan Jones, Eric Rough a Billy Parry.

Aeth y tîm dros Glawdd Offa yn Rhagfyr i wynebu Croesoswallt mewn gêm Cwpan Cymru.  Roedd hi'n dywydd gaeafol iawn ac ni allodd cefnogwyr selog fynd yno.  Galwyd am John Arthur Jones i chwarae, ac yr oedd un arall lleol yn y tîm hefyd, William Jones. Drwy groen eu dannedd yr enillodd Croesoswallt 3-2.

Yn syth ar ôl y gêm honno roedd yn amser i fynd i Borthmadog i chwarae ar Ddydd Nadolig ac yr oedd amryw o fylchau yn y tîm - digwyddai rhyw anffawd neu gilydd i'r tîm yn aml iawn pan fyddai angen fod gryfaf yn erbyn yr 'hen elynion', Porthmadog, ac ar Nadolig 1950 yr oedd Cyril Cole a Shepherd yn absennol ac fe alwyd am Robert Evan Jones ac Ernest Williams, ac wrth gwrs, Porthmadog a orfu, 3-0.

Byddai gemau Nadolig yn erbyn Porthmadog yn draddodiadol gynhyrfus ac yr oedd hi bron yn arferol i'r gemau fod yn hwyr yn cychwyn,  Cofiaf un achlysur pan oedd y dyrfa yn difyrru eu hunain drwy ganu dan arweiniad y tenor mwyn, Edgar Williams.  Tenor adnabyddus arall a fynychai y seiadau hynny ar y Traeth oedd Arthur Williams, Talsarnau, ac nid wyf yn siwr a ymgymrodd ef â'r arwain ar un achlysur pan oedd Stiniog yn hwyr yn cyrraedd.

Ronnie Jones, bachgen lleol a sgoriodd ganfed gôl y Blaenau yn 1950-51 mewn gêm yn ebyn Caernarfon yn Ebrill 1951.  Cyfarfu Blaenau a Phort wyth gwaith yn ystod 1950-51 gyda'r Blaenau yn ennill deirgwaith, Porthmadog ddwywaith, a thair yn gyfartal.  Roedd canlyniad felly yn amheuthun i'r Blaenau yn erbyn y Port ond fe gawn sylwi ar yr ystadegau yn nes ymlaen.

Ym 1950-51 cyfarfu'r timau mewn tair cystadleuaeth cwpan.  Er sgorio 79 mewn gemau Cynghrair Glannau y Gogledd ni allodd Stiniog ddringo yn uwch na'r bumed safle erbyn diwedd y tymor.  Yn erbyn Pwllheli y gwnaethant waelaf, ac yr oedd y Rhyl yn fwgan iddynt hefyd.

Mae'n werth nodi y clybiau oedd yn y Gynghrair ym 1950-51: Bangor, Bethesda, Caernarfon, Conwy, Bae Colwyn, Fflint, Caergybi, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Llandudno, Penmaenmawr, Porthmadog, Pwllheli, Rhyl, Treffynnon, Stiniog.

-------------------

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

 


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon