Fuodd hi fawr o haf naddo. Er nad yn braf a chynnes, mi gawson ni ddigon o ddyddiau sych i fedru crwydro rhai o lwybrau’r fro. Mi fues i’n ail-droedio rhai llwybrau, a dilyn ambell i drywydd newydd hefyd, a chael amser wrth fy modd bob tro. Mae’n hawdd meddwl bod angen neidio yn y car i fynd am dro i rywle arall, ond mae amrywiaeth anhygoel o deithiau hir a byr yn cychwyn o ddrws y tŷ.
Mae Cwmbowydd yn cynnig sawl dewis i’r cerddwr, ac wrth ddilyn fy nhrwyn efo dwy o’r genod ganol Awst, mi gawsom ni fwynhau cyfoeth o flodau gwyllt mewn ardaloedd gwlyb wrth droed Cefn Trwsgl: tegeirian y rhos a llafn y bladur yn creu carped brith o biws a melyn, efo tamaid y cythraul ac amrywiaeth o fwsoglau yn glytwaith o wyrdd, melyn a choch.
Ymlaen â ni i’r ffordd fawr yng ngwaelod allt Dolwen, croesi’r afon, a throi ‘nôl i gyfeiriad y Blaenau heibio Llennyrch Moch, a gweld planhigion rhyfeddol chwys yr haul –sundew yn Saesneg- ar gors fach Neuadd Ddu, efo’u dail gludiog i ddal pryfaid a chael cynhaliaeth mewn lle gwlyb, sur a di-faeth. Eistedd yno am ychydig i wylio gweision neidr, yn hedfan ‘nôl a ‘mlaen dros y siglen yn hela’u tamaid. Gwaëll ddu (black darter) oedd yr unig rai inni weld y diwrnod hwnnw, gwas neidr sy’n fodlon ei fyd mewn pyllau bach yn ucheldir Gwynedd. Mi fu’n haf sâl iawn am weision neidr ar y cyfan, gwaetha’r modd.
Y Fechan yn astudio gwäell ddu fenywaidd. Llun PW. |
bwrned 5 smotyn |
O’r fan hyn gall rywun ddewis llwybrau i gyfeiriad Tyddyn Gwyn, neu heibio’r Neuadd Ddu a dilyn y rheilffordd, i lawr i Ffordd Cwmbowydd, neu i Benygwndwn.
Wrth gornel isa’r fynwent, mi fuon ni’n gwylio pedwar math o löyn byw yn hel neithdar o’r blodau, yn ogystal â’r gwyfynnod bwrned hardd du-a-coch sy’n hedfan yn ystod y dydd, yn wahanol i gymaint o’n moths eraill ni.
Mae sgrechian a gwibio’r gwennoliaid duon wedi peidio ers iddynt adael am wres Affrica yn wythnos cyntaf Awst, ac mae’n rhyfedd meddwl na fydd cywion eleni’n cyffwrdd tir eto nes y don’ nhw’n ôl yma i fagu cywion eu hunain mewn dwy neu dair blynedd! Adar rhyfeddol; ymysg yr olaf o’r adar mudol i gyrraedd Cymru, a’r cyntaf i adael. Mae’r rhain yn byw bywyd cyflym iawn. Dwi’n edrych ymlaen at ddyddiau hirfelyn tesog y flwyddyn nesa i gael eu croesawu’n ôl.
Er gwaetha’r enw, tydi’r gwennoliaid duon ddim yn perthyn i’r wennol gyffredin o gwbl. Mae’r rhain yn dal i’w gweld ym mis Medi ond buan iawn yr ân’ nhw hefyd.
Tra’n crwydro ar ddiwrnod arall efo’r merched, roedd gwennoliaid yn gwmni i ni wrth iddynt hela’n isel dros domennydd chwarel Maenofferen. Roedd hi’n sych pan oedden ni’n cychwyn, gan gymryd y dyn tywydd wrth ei air.
Cerdded heibio’r Fuches Wen ac i ben allt Hafod Ruffydd. Oddi yno i ben y domen ac ymlaen i Faenofferen, a chyfarfod gwaelod y cwmwl wrth ddringo’n uwch, a chael ein hunain mewn niwl dopyn yn fuan iawn. Un funud yn gweld y dref oddi tanom, ac wedyn, gweld dim. Roedd hi fel cerdded trwy ddrws i ystafell arall a’r llenni wedi cau.
Ymhen dim daeth i dywallt y glaw, a fflachio mellt, ac mi fuon ni’n rhedeg a chwerthin bob yn ail, gan gyrraedd adref yn wlyb at ein crwyn. Ond wedi cael pnawn i’w gofio.
Waeth be fo’r tywydd, mae llwybrau Stiniog yn werth eu dilyn. Cewch weld archaeoleg a hanes, bywyd gwyllt, a chelf a diwylliant, i gyd mewn cwta awr o grwydro.
Mi ges i nifer o ddyddiau cofiadwy cyn gorfod dychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd haf na fu. Gwyn fy myd.
-------------------------------------------
Ôl-nodyn. Ar ôl i'r uchod ymddangos yn Llafar Bro, ges i neges gan y swyddog hysbysebion yn dweud y dylia pob naturiaethwr gwerth ei halen wybod bod tywydd gwael ar ei ffordd pan mae gwennoliaid yn hedfan yn isel, ac y dyliwn roi mwy o goel yn arwyddion natur yn hytrach na choelio dynion tywydd! Gwir y gair, diolch Gwil!
-------------------------------------------
Awdur cyfres Gwynfyd ydi Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon