Cyfnod prysur arall ym Mro Ffestiniog. Prynwch Llafar Bro i gael y manylion yn llawn.
Medi 16eg:
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Neuadd y WI, am 7.15
Sgwrs gan Ieuan Wyn am Dywysogion Gwynedd.
Medi 17eg
Cyfarfod Blynyddol LLAFAR BRO: 7.00 Neuadd y WI. Dewch i ddangos eich cefnogaeth i’ch papur bro.
Nos Lun, Medi 21ain.
Drama: Drych, gan Gwmni’r Frân Wen, Ysgol y Moelwyn.
Nos Fawrth Medi 22ain
Sefydliad y Merched. Steffan Ab Owain yn rhoi sgwrs gyda sleidiau.
Nos Lun, Medi'r 28ain,
Merched y Wawr, Blaenau. 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol. Drama gan gangen Chwilog.
Dydd Mawrth, Medi'r 29ain
Dysgwch bladurio. Lladd gwair ar gae Bryn Coed Llan, fel cam cyntaf i'w droi'n ddôl flodau gwyllt. Cawl cartref a phaned ar gael. 10yb - 1yh.
Nos Fercher, Medi'r 30ain
Llyfrgell y Blaenau am 7 o'r gloch. Guto Dafydd yn sgwrsio am "23 rheswm dros beidio sgwennu nofel"!
Hydref 1af .
Y Fainc Sglodion. y Ganolfan Gymdeithasol, am 7.30: Euryn Rhys Roberts,‘Bathodynnau ein caethiwed? Cestyll y Tywysogion Cymreig’
Hydref 5ed,
Cymdeithas y Gorlan. Festri Capel Carmel, 7.00 –Hanes Pyllau Aur.
Hydref 6ed
Fforwm Plas Tanybwlch
am 7.30 - Chwareli yr Ardennes, Dr Dafydd Gwyn
Hydref 7
Cymdeithas Hanes Bro Cynfal – Taith – Treftadaeth Cwm Penmachno – Capel Siloh
Hydref 20fed-
Fforwm Plas Tanybwlch
am 7.30 -Mapio Hanes, Gareth Roberts
Hydref 21ain:
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Neuadd y WI, am 7.15
Gareth T Jones; Lleisiau Ddoe
--------------------------
Gadewch inni wybod os oes rhywbeth ar goll o'r rhestr -gyrrwch fanylion atom!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon