21.9.15

Pobl y Cwm- bywyd a bwyd

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.   Rhan 5 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.

Cyn i mi gyrhaedd llawn fy neng mlwydd oed rwyn cofio gweld tair arch yn mynd o aelwyd Bron Goronwy. Y cyntaf oedd yr ieuengaf o'r plant, geneth fach dri mis oed. Cofiaf yn iawn i mi ei gweld  yn ei harch fach a gown gwyn amdani, ac adnod ar gerdyn yn ei llaw 'Gadewch i blant bychain ddyfod ataf Fi'. Un arall oedd John fy mrawd, bu farw trwy ddamwain pan yn un-ar-ddeg oed. Cofiaf y geiriau oedd ar caead ei arch:
'O dof yn waglaw at y Groes
Glynaf wrthi trwy fy oes
'.
A'r drydydd oedd fy anwyl Fam fy hunan. Ffarweliodd â ni yn wraig ifanc 43 mlwydd oed, gan adael priod ac wyth o blant ar ei hôl, a pedwar wedi ei rhagflaenu. Diwrnod du a thrist a digalon oedd y diwrnod hwnw a'r colled yn fawr, er nad oeddwn i ar y pryd yn sylweddoli hyny, ond gwelais ei heisiau laweroedd o weithiau ar ôl hyny.

Ie, 'cledd â min yw claddu mam'. Er hyn i gid, lle i ddiolch sydd genyf. Gofalodd Tad yr amddifad 'am un i fod yn Dad a Mam i ni', ac mi fu fy nhad felly, yn wir ystyr y gair yn dad ac yn fam i'w blant. Wrth edrych yn ôl heddyw i'r blynyddoedd pell hyny, rwyf yn sylweddoli y fath gyfrifoldeb ddaeth i ran fy nhad yn ddyn ifanc 44 oedd, yr aberth, a'r cysgod, a'r gofal a fu ganddo drosom fel plant ieuanc. Do cafodd fy nhad nerth y Nef i fynd yn mlaen trwy ras a chariad Duw yn Iesu Grist.

Ffermio oedd fy nhad y pryd hyny, ac yn gweithio yn y chwarel er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd i fagu ei griw. Fy chwaer hynaf 21 oed gymerodd y cyfrifoldeb cynta i gadw ty i nhad, ac edrych ar ein holau ni fel plant, ond bwlch go anodd i'w lenwi oedd lle mam i ni i gid. Ond oedd rhaid mynd yn mlaen i'r tywyllwch eithaf.

Yr oeddem yn byw ar ffarm, felly cawsom ein magu ar ddigon o fwyd plaen, a digon o awyr iach. Dim moethau, ond dillad cynes, a rhai wedi ei patchio rhan amla. Gan ein bod yn corddi, byddai digon o fenyn fresh, llaeth a llefrith ac wyau i ni, a cig mochyn wrth ben y llawr, a beef wedi ei biclo i wneyd potes a lopscows. Ambell i iâr, sgwarnog a gwningen, ac ambell i growsyn a hwyaden wyllt.

Ar ddiwedd yr wythnos y byddem yn cael cig ffresh o le cigydd, a phen dafad ar Iau, a'r galon. Dyna wledd i ni. Gwneyd y bara cartre a bara ceirch a torth felen ac ambell i torth frith. Digon o datws a moron a sweeds trwy'r flwyddyn - yn aml berwi tatws trwy crwyn, a'i tywallt i ddesgl ar ganol y bwrdd, am y cynta i ruthro iddynt, hefo dwylaw a rheini yn boeth a cig mochyn a llaeth enwyn hefo nhw.

Y Cyfnod Rhwng Deg ac Ugain Oed

Cyfnod pwysig a phryderus, ie, a pheryglus hefyd i bob bachgen a geneth yw'r arddegau. Roedd yn rhaid i mi fel llawer un arall deithio ffordd hon, heb gyngor mam, ei gofal a'i chysgod a'i chariad yn fwy na dim. Ac er i mi yn aml syrthio i laid a baw temtasiwn, cefais Dad yr amddifad yn noddfa ac yn borth i mi yn mhob cyfyngder, ac ni bu arnaf eisiau dim.

Roedd crwydro mynyddoedd a'r ffriddoedd a'r caeau wrth fy modd ac yr oeddwn yn gwybod am bob llyn, afon a nant a pistyll yn y gylch. Byddem fel plant i gid yn hoff o anifeiliaid. Roedd gan bob un o honom ei hoff anifail, y ci, y gath, y gaseg winia, y fuwch lonydd a'r oen swgi, ac ambell i iar mor ddof, os gwelai ddrws y bwtri yn agored doi i'r fasged ddillad i ddodwy wy, a dyna hefyd gyfle yr hen ddafad ddrwg i weld y ddesgl datws o dan y fainc, a dyna i chwi llanast a difrod. Ond chware teg iddynt, yr oeddynt yn gyfeillion mawr i ni plant.

Yr oeddem hefyd yn ffrindiau mawr hefo mochyn. Lawer i bnawn poeth pan fydda mochyn yn y lawnt byddem ni yn ei grafu a'i gosi nes y gorweddai yn swp ar lawr ac yn estyn ei goesau ir haul a ninau ar ol hyny yn ei olchi hefo dwr sebon. Yntau yn rhochian ac yn rhochian, ac yn gwneyd rhyw lygad bach hanner cau arnom i ddiolch yn fawr i ni. Rhyfedd fel mae dyn ac anifail yn gallu cymeryd at eu gilydd os byddwch garedig wrth y creadur.
--------------------------


Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


[Celf gan Lleucu Gwenllian]

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon