29.9.15

Rhod y Rhigymwr -Mwynder Maldwyn

Yn ogystal ag eleni a 2003, bu'r eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn hanner can mlynedd yn ôl hefyd. Yn rhifyn Gorffennaf, roedd Iwan Morgan yn trafod rhai o gyfansoddiadau'r ŵyl honno.

Wrth baratoi’r golofn, mae ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn 1965’ o’m blaen. Testun awdl y gadair oedd ‘Yr Ymchwil’, a’r beirniaid oedd y ddau frawd - Geraint ac Euros Bowen, a Gwilym R. Tilsley. Roedd y tri o’r farn fod tair awdl o’r  un-ar-bymtheg a anfonwyd i’r gystadleuaeth yn cyrraedd y brig o ran ‘addewid.’ Roedd Geraint yn ‘siomedig’ nad oedd yr un o’r awdlau addawol hynny’n ei argyhoeddi’n llwyr o’r safon a ddisgwylid yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond ‘wedi ystyried yn fanwl holl agweddau’r grefft o farddoni’n gynganeddol i lunio cerdd ar destun gosodedig,’ ffafriodd awdl ‘Cil Dydd.’

Yn awdl ‘Manya’ y gwelodd Euros ‘y profiad o ymchwil,’ ynghyd â’i ‘seicoleg, ei foesoldeb, ei angerdd a’i amrywiaeth.

Noda Tilsli mai ‘Cilmorcwm’ ydy’r ‘bardd mwyaf hudolus ei ddawn yn y gystadleuaeth’ a’r ‘cynganeddwr hyfrytaf ei drawiad.’ Wedi dweud hynny, teimla fod ‘awyrgylch dieithr hud a lledrith’ awdl ‘Cil Dydd’ yn ymdrin ag ymchwil dyn am ‘ystyr bywyd.’

Y bardd a gadeiriwyd oedd ‘Cil Dydd’ – sef, W.D.Williams, Y Bermo (1900-85). Ymchwil gwyddonwyr i ddirgelwch ogofau Lascaux, yn y Dordogne yng nghanolbarth Ffrainc oedd pwnc ei awdl. Roedd ‘W.D.’ yn 65 oed, ac wedi dod yn agos i’r gadair ar fwy nag un achlysur cyn hynny.

Dau fardd tipyn iau oedd y rhai eraill yr ystyriwyd eu hawdlau ar frig y gystadleuaeth. Roedd un ohonynt i ennill y gadair yn y flwyddyn ganlynol yn Aberafan, a’r llall ymhen blwyddyn wedyn, yn Y Bala. Emrys Roberts – ‘Emrys Deudraeth’ (1929-2012) oedd ‘Manya’ – a ffafriwyd gan Euros. Dilyn cofiant Marie Curie, a dreuliodd ei hoes mewn ymchwil wyddonol i briodoleddau radiwm a wnaeth. Yn Y Bala ym 1967, ei awdl i’r ‘Gwyddonydd’ gipiodd y wobr.

‘Cilmorcwm’ oedd Dic Jones – ‘Dic yr Hendre’ (1934-2009). Effaith yr ymchwil wyddonol ar gyrion Bae Ceredigion oedd y pwnc – ‘fel y mae’n creu arwswyd a dinistr yn Aber-porth’ ac yn ‘creu gobaith a bywyd newydd yng Ngogerddan.’ Ymhen y flwyddyn, ym Mhrifwyl Aberafan, lluniodd yr un bardd gampwaith a ystyrir yn un o awdlau mwyaf cofiadwy’r ganrif, sef, ‘Cynhaeaf.’

Wrth bori ymhellach yn y gyfrol o weithiau buddugol Maldwyn hanner canrif union yn ôl, sylwais mai’r un a ddaeth i’r brig am gyfansoddi ‘Darn i Gôr Adrodd’ oedd E. Wilson Jones, Dinbych. ‘Yn Rhydd’ oedd testun ei gerdd benrhydd, a cheir ynddi ddisgrifiad dramatig o yrru roced i’r gofod yn America, ac yna darlun byw o’r helynt rhwng y du a’r gwyn yn yr un wlad. Yn ôl y beirniad, Gwilym R. Jones, ceir yma ‘ddychanwr medrus’ a all ‘liwio’n greulon â geiriau.’ Barnodd y gellid cyflwyno’r gerdd yn rymus gan gôr adrodd, ac y gellid peri ‘i gynulleidfa deimlo i’r byw ias y gwewyr’ a gynhyrfai filiynau o bobl ledled y byd yn yr oes oedd ohoni.

Un o blant y Manod oedd y bardd a gipiodd y wobr - Elwyn Wilson Jones. Yn Haf 1965, symudodd o Dan-y-fron i fod yn brifathro Ysgol Rhewl, Rhuthun, a chafodd Alwena’r wraig y fraint o’i gael yn athro arni’n ystod ei blwyddyn olaf yno. Ymhen rhai blynyddoedd, apwyntiwyd ef yn brifathro Ysgol Frongoch, Dinbych.
Trist yw cofnodi marwolaeth Elwyn Wilson Jones ar y 13eg o Fehefin eleni, yn 86 mlwydd oed. Bu farw’n ei gartref yn Rhuthun. Mae llawer o drigolion dalgylch ‘Llafar Bro’ yn ei gofio, a’n dymuniad ydy anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Bronwen, ei briod, ac at ei bedwar mab a’u teuluoedd.

------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Celf gan Lleucu Gwenllian
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon