3.9.15

O Lech i Lwyn- Yn y mynydd mae'r gerddinen

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog. Erthygl gan y diweddar Emrys Evans y tro hwn. 

Wrth y clawdd sy' n gwahanu Cae Garnedd, y Neuadd Ddu oddi wrth un o gaeau Tyddyn Gwyn, y Manod, mae coeden griafol, neu y gerddinen i roi ei henw cywir iddi.

Pan ddaeth yn fis Medi eleni roedd yn drwm o griafol, neu aeron fel y gelwir hwy, a'r rheini cyn goched â gwaed. Edrychai'n hynod o hardd, yn denu'r llygaid oddi ar bethau mwy unlliw, fel y coed derw sydd yn ei hymyl.

Criafol. Llun gan PW
Yna, fel y daeth yn ddyddiau olaf Medi ac yn ddechrau mis Hydref, dechreuodd cochni llachar y goeden leihau o dipyn i beth. Roedd hi fel tân yn araf farw yn y grât wedi iddo fod yn llosgi'n gynnes a braf, a'r gerddinen yn mynd mor unlliw ag unrhyw beth arall oedd o gwmpas.

Ddiwrnod ar ôl diwrnod gwelwyd ymhlith ei changhennau haid o adar yn gweledda'n hael ac yn rhad ar yr aeron. Haid o socan eira oeddent, wedi dod i lawr i'n gwlad o rywle yn y gogledd. Ryda ni yn ddigon cyfarwydd â'r wennol ac adar eraill sydd yn dod atom yn y gwanwyn fel mae ein tywydd ni yn gwella ar ôl y gaeaf, ac yna yn ymfudo oddi yma i wledydd cynhesach fel mae ein tywydd ni' n oeri yn yr hydref.

Yn wahanol i'r wennol a'r adar eraill, un o'r rhai yw y socan eira sy'n dod atom ni i dreulio y gaeaf, gan fod y gaeaf yn gymaint mwy gerwin yn eu rhan hwy o'r byd, sef gwledydd Llychlyn ac eraill fwy i'r gogledd.

Aderyn o deulu y fronfraith ydyw, ychydig yn fwy na'r fronfraith gyffredin sy'n dod i'n gerddi i chwilio am damaid. Mae y socan eira cymaint a'r math arall o fronfraith sydd yn ein gwlad, sef brych y coed. Pan oeddent yn gwledda ar yr aeron ac yn symud o gangen i gangen gan ledu eu hadennydd, ffiachiai eu ceseiliau yn olau.

Aderyn arall o deulu'r fronfraith sy'n ymfudo atom dros y gaeaf yw y coch-dan-adain. Mae hwn, hefyd yn hoff o aeron, boed yn rhai y gerddinen neu rai y ddraenen wen.

Roedd y gerddinen, yn yr amser a fu, yn cael ei hystyried yn bren lwcus, ac yn wir yn gysygredig. Dyma beth mae William Davies yn ei draethawd, sef  'Casgliad o len-gwerin Meirion' , yn ei ddweud:
Ystyrid hwn (y gerddinen) yn gysygredig, oblegid dywedid mai ohono ef y gwnaed y Groes Fendigaid, ac rnai hyn yw y rheswm fod ei ffrwythau mor debyg i ddefnynnau o waed. '
Byddai canghennau o'r gerddinen yn cael eu rhoi uwchben drysau y tŷ, y beudai, a'r stablau er mwyn cadw y drwg draw. Mewn rhai mannau yn yr Iwerddon byddai canghennau o'r gerddinen yn cael eu gwthio i'r domen dail ar noson Calan Mai er mwyn amddiffyn y ffarm. Y porthmyn, wedyn, pan fyddent yn cychwyn ar eu siwrnai hefo gyr o wartheg i Loegr, byddent yn gwisgo sbrigyn o'r gerddinen i geisio sicrhau taith dda, ddidrafferth, a llwyddiant ar y bargeinio a'r gwerthu ar ei diwedd.
Mae yna lawer mwy am y gerddinen, neu'r goeden griafol, ond dyna flas i chi o un o goed mwyaf lliwgar Cymru.


---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Yn y mynydd mae'r gerddinen- geiriau T.Gwynn Jones.

Erthygl am wneud jeli criafol ar wefan Ar Asgwrn y Graig. Ydych chi wedi gwneud schnapps, neu bwdin neu unrhyw beth efo'r ffrwyth yma? Gadewch inni wybod. [Gol.]




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon