3.6.15

Y Pigwr- Ras y Moelwyn

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm yn rhifyn Mai, ac yn canmol weithiau hefyd.

Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn ymwneud â threfnu Râs y Moelwyn eleni. Roedd y trefniadau manwl i groesawu'r 316 o redwyr o bob rhan o Brydain wedi talu ar ei ganfed. Mae'r ras hon yn cael ei chydnabod yn un bwysig yng nghalendr rasio mynyddoedd, ac yr un gyntaf mewn cyfres o rasys a gynhelir drwy'r wlad. Mae'n rhoi Blaenau Ffestiniog ar y map, yn ddi-os. Wrth reswm, roedd y tywydd ardderchog ar y diwrnod yn cyfrannu tuag at lwyddiant yr achlysur arbennig, ond roedd ysbryd hollol wahanol i'r blynyddoedd cynt y tro hwn.


Ond yn bennaf oll, wedi ymgyrchu maith gan y trefnwyr, penderfynodd Heddlu Gogledd Cymru ganiatáu i'r ras gael ei chychwyn yng nghanol y dref, am y tro cyntaf yn ei hanes. Nid yn unig oedd hyn yn golygu bod llawer mwy yn cael gweld yr olygfa arbennig o'r rhedwyr yn cychwyn yn un fflyd gyda'i gilydd, roedd bwrlwm mawr yn Sgwâr Diffwys. Roedd yno stondinau o bob math, digon o gampau i'r plant eu mwynhau, grŵp pop lleol yn ein diddanu, ac yn bennaf, cannoedd o bobl leol, ac ymwelwyr yn mwynhau'r achlysur. Rhoddodd hynny reswm i'r siopau a chaffis lleol aros ar agor drwy'r pnawn, yn hytrach na chau wedi cinio, fel arfer. Byddai hyn yn hwb i economi'r ardal mewn awr o angen, rhywbeth i'w groesawu.


Ac i gloi'r sylwadau hyn, onid oedd yn hen bryd i'r heddlu sylweddoli pa mor hanfodol yw hi i gael gweld y ras hollbwysig hon yn cychwyn o Ddiffwys? Er mwyn synnwyr cyffredin, dyma gyfle i sicrhau mai fel hyn fydd hi o hyn ymlaen.  Chwara' teg i'r heddlu, yn wir, yn atal y 'traffic' am ddeng munud tra oedd y rhedwyr yn cychwyn ar y ffordd tua'r Moelwynion. Ia, DEG MUNUD o anhwylustod honedig i yrwyr lleol er mwyn sicrhau llwyddiant un o achlysuron pwysicaf y flwyddyn yn y Blaenau.

Ond, dywedodd deryn bach wrth y Pigwr bod y 'gymwynas' hon o du'r heddlu wedi costio'n ddrud i drefnwyr ffyddlon y râs. Rhaid oedd talu £500 i goffrau'r polîs cyn i ganiatâd gael ei roi i gau'r ffordd am ‘ddeng munud.’ Dyna ichi 'ewyllys da' ynte?

Rhaid gofyn ambell gwestiwn yma. A fu hi'n ofynnol ar y Lleng Prydeinig/Seindorf yr Oakeley dalu am orymdeithio trwy strydoedd y dre ar Sul y Cofio, a stopio traffic am gyfnod? A beth am  y carnifals hynod rheiny, a’r orymdaith yn cychwyn o’r Forum i Gae Clyd yn flynyddol, yn dal rhesi o geir y tu ôl am dri-chwarter awr a mwy? Felly hefyd y nifer o orymdeithio’r cymanfaoedd niferus, o barchus goffadwriaeth, bob blwyddyn. Oedd hi’n rhaid i swyddogion y capeli fynd i’w coffrau prin i dalu am y fraint o fartsio drwy’r strydoedd? Nagoedd siŵr! ‘Doedd dim galw am dâl ar gyfer achlysuron y dyddiau fu.

Felly, beth yw’r rheswm fod rhaid talu ‘nawr, ac i ble mae’r arian yn mynd? Nid ugeiniau o blismyn ar ddyletswydd fel mewn gemau pêl-droed, dim ond dau neu dri, cofiwch.
 
Diolch i Heddlu Gogledd Cymru am luchio dŵr oer ar ddiwrnod llwyddiannus iawn yn hanes Râs y Moelwyn. Felly, pwy sydd am geisio cael yr atebion i’r cwestiynau hyn?

[Lluniau gan VPW]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon