5.6.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- Bedydd tân

Parhau cyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf:

Fel y cynyddai'r brwydro ar feysydd y gad, cynyddu byddai effeithiau'r rhyfel, mewn gwahanol ffyrdd, ar fywyd pob-dydd yn ein cymunedau. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus yn Neuadd y Farchnad, Blaenau Ffestiniog, gyda siaradwyr cyhoeddus adnabyddus yno i annog bechgyn ieuainc yr ardal i ymuno â'r fyddin. Yn un o'r cyfarfodydd hynny, ar 21ain Ionawr, 1915, dywedodd llywydd y noson, R.T.Jones, Penrhyndeudraeth, cadeirydd y Cyngor Sir, ei fod yn erbyn gorfodaeth filwrol, ac yr oedd ganddo ffydd fawr ym mechgyn Blaenau Ffestiniog i wirfoddoli, fel na fyddai angen gorfodaeth, meddai.

Un arall o ddynion blaenllaw'r fro a fu'n cario baner y fyddin fel recriwtiwr, ac yn ddiweddarach fel cynrychiolydd milwrol ar dribiwnlysoedd Meirionnydd oedd Pierce Jones, Pengwern Villa, Llan Ffestiniog. Ceir tystiolaeth o'i weithgaredd yn y cyfeiriad hwnnw ymysg casgliad o lythyrau a dogfennau cyfnod y Rhyfel Mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Roedd Pierce hefyd yn ysgrifennydd i'r 'Merioneth Unionist Association', ac ar bapur y mudiad hwnnw yr ysgrifennodd lythyr, ar ran y Pwyllgor Recriwtio Seneddol. Dyddiad y llythyr yw 3ydd Ionawr, 1915, sydd wedi ei gyfeirio at D.H.Owen esq. Merioneth, gyda'r neges ei fod yn gwahodd cynrychiolwyr dylanwadol i ddod i gyfarfod recriwtio yn y Blaenau. Un o'r bobl flaenllaw a enwir yn y llythyr yw'r Parchedig R.Silyn Roberts, Caerdydd, gweinidog yn Nhanygrisiau ar un adeg.

Ddechrau Ionawr, 1915, achoswyd cyffro mawr yng nghapel Garregddu, yn Heol yr Eglwys yn y Blaenau, pryd y ffrwydrodd boiler mewn adeilad cysylltiol. Chwalwyd yr adeilad gan y ffrwydrad, ac yn ffodus, ni niweidiwyd neb. Achosodd y ffrwydrad fraw mawr yn y cyffiniau, gyda nifer yn meddwl mai un o fomiau'r gelyn oedd wedi cael ei gollwng ar y lle o'r awyr. 

I ychwanegu at bryderon y plwyfolion, daeth newyddion fod chwarel Maenofferen wedi cwtogi ar ei oriau gwaith, i lawr i dridiau'r wythnos. Er mai chwarel Graigddu oedd yr unig un yn y cylch oedd yn dal i weithio chwe diwrnod yr wythnos, roedd honno wedi gorfod cau am wythnos hefyd.

Cafwyd adroddiad yn Y Rhedegydd ar 9fed Ionawr, 1915, dan bennawd 'Cymru a'r Fyddin' oedd yn datgan fod y wasg Seisnig yn feirniadol o ddiffyg ymroddiad y Cymry i gefnogi'r ymgyrch ymrestru. Ond daeth y Cadfridog Owen Thomas, Cymro Cymraeg o Sir Fôn ymlaen i amddiffyn bechgyn 'gwlad y bryniau'. Dywedodd fod bechgyn Cymru ymhell ar y blaen i Loegr, yr Alban ac Iwerddon erbyn hynny. Ond rhan o dactegau swyddogion y Swyddfa Rhyfel oedd hyn i gyd, a chafwyd prawf o hynny wrth i'r adroddiad ychwanegu:

‘Ond nid yw y Cadfridog yn fodlon, er hynny; ac y mae wedi trefnu moddion a fyddent, mae'n ddiameu gennym, yn fwy effeithiol na'r moddion sydd wedi eu harfer hyd yn hyn i chwanegu at nifer gwyr arfog ein gwlad. Ar yr 18fed o'r mis hwn, dechreua 200 o filwyr, yn cael eu blaenori gan Seindorf, ymdaith drwy Feirion...o Flaenau Ffestiniog y cychwyn y corphlu...’

Ymddangosodd y llythyr cyntaf i gyrraedd Y Rhedegydd gan lygad-dyst i'r brwydro tua'r un adeg. Oherwydd sensoriaeth, llythyr Saesneg oedd hwn, gan filwr o'r Blaenau, y Preifat R.Parry, oedd ar y pryd mewn ysbyty yn Llundain. Datgelodd y llythyr ei hanes yn cyrraedd Zeebruge, Gwlad Belg, ac yn gorfod martsio i Ghent, tua phedair milltir o linell yr Almaenwyr yno. Y bore canlynol yn gorfod mynd i'r ffosydd, ac yn wynebu realiti'r rhyfel yn ei hanterth. Byddai disgrifiad y Preifat Parry o'i brofiadau yn agoriad llygaid i'w gyd-ddinasyddion yn y Blaenau. Rhoddaf gyfieithiad o ran o’r llythyr isod:

‘Bore Sul oedd hi, cawsom ein bedydd tân cyntaf. Teimlad rhyfedd oedd o, a ninnau i gyd yn ofnus ar y dechrau, ond daethom i arfer…daeth ein ammunition i ben, a methu cael mwy, oherwydd y saethu. Roeddynt i’w gweld yn ein hamgylchynu, a fedrem ni wneud dim. Fel y daeth y tywyllwch, cawsom ordors “pob dyn drosto’i hun”, a gallaf ddeud wrthoch mai’r 300 llath cyflymaf imi ei redeg erioed…wel, mi lwyddais i fynd drwodd rywsut. Roedd gan y gelyn 8 machine-gun arnom. Erbyn inni gyd-gasglu gwelsom mai 28 ohonom oedd ar ôl, allan o ryw 165 dyn a 9 swyddog. Lladdwyd nifer o’r swyddogion yn y ffosydd…’

----------------


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod.

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]
                         

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon