J648663.
Tydi o ddim yn edrych yn fawr o ddim nac ydi, ond efo rhywfaint o lwc mi fydd y rhif unigryw yma yn ein galluogi i ddilyn hynt a helynt, a dysgu mwy am fywyd un o gywion gwybedog brith diweddaraf y fro. Erbyn i’r Llafar eich cyrraedd, mi fydd y cyw a’i saith brawd a chwaer wedi hen adael y nyth, gan eu bod eisioes tua 12 diwrnod oed pan rhoddwyd modrwy am eu coesau ar y 4ydd o Fehefin. Tydi’r cywion ddim y pethau delia welsoch chi erioed a bod yn onest, ac ni fydd eu plu mor drawiadol a’u rhieni am tua blwyddyn.
Fel bron ymhob achos, y ceiliog yw’r tlysaf gyda phen a chefn du a thalcen, brest a streipen adenydd claerwyn, tra bod yr iar yn frown a gwyn, ond yr un mor amlwg a hawdd i’w ‘nabod.
Ceiliog gwybedog brith- oddi ar Wikimedia Commons |
Dwi wedi cael y fraint eleni o fedru dilyn datblygiad y boblogaeth leol o’r aderyn arbennig yma. Gwelais geiliog cyntaf y tymor yn weddol gynnar, a hynny ar y 10fed o Ebrill wrth droed deheuol Cadair Idris; ‘roedd ymysg y cyntaf i gyrraedd mi dybiwn. Mae’r ieir yn dilyn o’r Affrig ychydig wedyn, ac ar yr 2il o Fai mi fu’m ar y cyntaf o hanner dwsin ymweliad â gwarchodfa Coedydd Maentwrog, gyda Wil Jones, Croesor, i wneud arolwg o flychau nythu yno.
Yr oedd sawl nyth wedi ei godi, yn gwpan twt o wair, dail, a mwsog, ag ambell iar wedi dechrau dodwy. Erbyn y drydedd ymweliad roedd dros ddwsin nythiad o saith neu wyth o wyau hyfryd glas, -yr union olygfa a ysgogodd ddiddordeb ym myd natur ynof yn wreiddiol yn fy ieuenctid, wrth fynd efo 'nhad i Bandy Coch, Ysbyty Ifan, gyda cholofnydd natur Yr Odyn, Griff Elis.
Ar yr ymweliad olaf -diwrnod braf gyda theloriaid yn canu uwch ein pennau, a’r gnocell fraith fwyaf yn chwibanu yn ddyfn yn y goedwig- cafwyd bod 18 blwch allan o 50 wedi eu defnyddio gan y gwybedog, a 10 gan ditws, a’r gweddill yn wag, sydd yn debyg iawn i’r patrwm a gafwyd yno ers gosod y blychau ddechrau’r saithdegau.
Coedydd Maentwrog, yn dal i ddenu gwybedogion. Mehefin 2015, llun PW |
Tyllau naturiol mewn coed, fel twll cainc neu dwll cnocell yw dewis traddodiadol yr adar yma i godi nyth, ac er mai coedydd derw gorllewin Cymru yw eu cadarnle ar Ynys Prydain, credir i’w niferoedd gynyddu yn ail hanner y ganrif hon oherwydd defnydd eang o flychau nythu. Mae un blwch ar wal cwt ym Mhenygwndwn wedi llwyddo i ddenu pâr i nythu ynddo er enghraifft, cryn bellter o’r coed agosaf.
Rhoddwyd modrwyon ar 68 o gywion gan Dafydd Thomas, modrwywr trwyddedig, ar y 4ydd, a dwy ar ieir oedd yn gori; ‘roedd 28 cyw yn rhy ifanc i’w modrwyo a 23 ŵy eto i ddeor. Amrywia oed y cywion o tua deuddydd i ddeuddeng niwrnod oed. Gadawant y nyth ar ôl bythefnos, ac erbyn yr hydref mi fydd y rhan fwyaf ohonynt yn ddigon cryf i ddychwelyd i wres deheudir Affrica am y gaeaf, cyn dychwelyd i fagu cywion eu hunain.
Efallai y byddaf yn ddigon lwcus i weld J648663 yn gori wyth o wyau prydferth glas yn y flwyddyn 2000 ar ôl hedfan i’r Affrig a dychwelyd i Gymru fach dair gwaith.
Dyna ryfeddod natur. Dyma wynfyd.
Paul Williams
------------------------------
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Gwynfyd' isod.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon