21.6.15

Urddo a gwobrwyo

Pytiau o dudalen flaen rhifyn Mehefin. Os na welsoch gopi bellach, ewch allan i brynu un, neu cysylltwch â'r dosbarthwyr i gael y straeon yn llawn, a llawer iawn mwy.

ANRHYDEDDU BRYN TŶ COCH

Daeth Bryn Williams, Tŷ Coch, Cwm Cynfal ar restr fer ‘Pencampwr Cymuned Cymru Wledig’ a noddir gan ‘NFU Cymru’ a Chymdeithas Adeiladu’r ‘Principality’. Derbyniodd dystysgrif a gwobr ariannol o £100 yn yr Ŵyl Wanwyn, a gynhaliwyd ar faes y Sioe yn Llanelwedd yn ddiweddar.
Cyflwynir yr anrhydedd i ffermwyr a wnaeth gyfraniad amlwg i’w cymuned leol.

Disgrifiwyd Bryn fel ‘un sy’n barod i gerdded yr ail filltir er lles ei gyfoedion yn y gymuned’ ac fel un ‘a gyfrannodd yn ddiflino i’r gymuned honno ers degawdau.’

Hanner can mlynedd yn ôl, dechreuodd ddosbarthu wyau yn lleol. Mae’r orchwyl honno’n parhau hyd heddiw. Boed law neu hindda, mae’n parhau i ddosbarthu papurau newydd. Mae’n mynd â’r rhain i Gartref Bryn Blodau’n ddyddiol. Mae’r trigolion yn aros yn eiddgar amdano, ac mae’n canfod amser i gael sgwrs fach gyda nhw.

Mae Bryn yn 81 oed ym mis Gorffennaf, ac wedi hanner ymddeol o ffermio bellach. Mae’n rhentu allan y rhan fwyaf o’i dir. Er hyn, mae’n parhau i fynd o gwmpas y tir hwnnw ar ei feic modur ‘quad’, a phan fydd yng nghyffiniau Ty’n Ffridd, a minnau allan yn piltran o gwmpas yr ardd, bydd yn rhaid aros am sgwrs i roi’r byd yn ei le. Ond mae’r hyn a wna’n y gymuned yn ei gadw i fynd, yn ei gael allan o’r tŷ’n hytrach na bod o dan draed Eurwen, ac yn sicr, yn ei gadw’n ifanc.

Mae’r ardal gyfan yn gwerthfawrogi’r hyn a wna, ac yn dymuno iechyd a hir oes iddo i ddal ati.
Llongyfarchiadau calonnog, Bryn, a diolch am bob cymwynas!   IM

-------------------

CAMP TOMOS HEDDWYN

Daeth Tomos Heddwyn Griffiths, sy’n ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol y Moelwyn â chlod i’r ardal pan ddyfarnwyd iddo’r wobr gyntaf ar yr Unawd i Fechgyn (Blynyddoedd 7 i 9) ym Mhrifwyl yr Urdd, Caerffili.


Swynodd ei gyflwyniad o ‘F’annwyl wyt ti’ [Caro mio ben] gan Giordani y beirniad yn fawr. Llongyfarchiadau gwresog i ti, Tom, a dymuniadau gorau i’r dyfodol.

-------------------

Hefyd, darn o newyddion da a ddaeth o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol:

Fis yn ôl cyhoeddwyd enwau'r rheini o’r gogledd a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau eleni, fore Gwener 7 Awst.

Iwan Morgan
Mae cyfraniad Iwan Morgan, i fywyd diwylliannol y fro yn
sylweddol dros y blynyddoedd, gyda’r cyn-brifathro’n troi’i law at nifer fawr o feysydd gan gynnwys canu corawl, barddoni, beirniadu ac yn fwyaf nodedig ac amlwg, efallai, ei gyfraniad helaeth i gerdd dant, nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol.


Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ers blynyddoedd, mae Iwan hefyd wedi bod yn lladmerydd pwysig i gerdd dant, gan gymryd rhan flaenllaw yng ngwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, yr Ŵyl Gerdd Dant, a llu o sefydliadau a chymdeithasau eraill.

Yn gyn-aelod o dimau Talwrn Ardudwy a’r Moelwyn, bu hefyd yn olygydd papur bro lleol ei ardal, Llafar Bro am flynyddoedd, ac yn gweithredu eto fel cyd-olygydd ers 2008. 

Llongyfarchiadau gwresog i Iwan.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon