15.6.15

Trem yn ôl -Yn ôl i'r Gloddfa

Mae’r ysgrif afaelgar, ddarllenadwy yma, gan Rhiannon Jones yn sôn am brofiad un a ddychwelodd i le oedd mor wahanol pan oedd yn blentyn. Cyhoeddwyd hi gyntaf yn rhifyn Gorffennaf 1979.

AIL-YMWELD Â CHWAREL
Bore braf ym mis Mehefin, ac awel ysgafn yn ymdeithio’n hamddenol i fyny’r Llwybr Cam. Mae hi’n dawel iawn yma; neb o gwmpas. Pam tybed?

Llun- Comin Wikimedia
Cyrraedd y copa. Wel, dyma le dieithr. Ble mae’r hen adeiladau wedi mynd; yr hen injan bach, a’r wagenni?

Crwydro i ben y Domen Fawr, syllu ar y dref islaw yn araf-ddeffro, ac yna ymlaen at geg yr ‘agor’. Mae rhyw newid mawr yma hefyd –golau trydan, a – beth yw’r rhain? Dynion bach tegan yn eistedd yn siriol yng nghanol pwll o oleuni. Un arall yn pysgota mewn llyn bychan! Ymlaen mewn syndod ar hyd y lefel. Does neb yn crogi ar y graig; tawelwch ym mhobman, a’r graig wedi’i goleuo i gyd â thrydan, heb unrhyw sôn am gannwyll.

Mae sŵn yn dod o rywle; iaith ddieithr hefyd. Pwy sydd yna tybed?

Ymlwybro’n ôl ar hyd y lefel, a dod at dwr o bobol a phlant yn dotio at yr olygfa danddaearol. Does dim golwg gweithio yn y chwarel ar yr un o rhain!

Mynd allan i’r haul eto, a theithio tua’r Gloddfa Ganol*. Beth sy’n mynd ymlaen yn y felin? Bachgen ifanc yn eistedd ar darw dur mawr, ac yn symud y darnau o’r graig mor rhwydd â bocs matsys. Un arall yn eu codi ar y bwrdd llifio a dim ond rhoi ei fys ar fotwm. Dim ymlafnio a cholli gwynt yma heddiw fel yn y dyddiau gynt. Ymhellach draw mae peiriant newydd arall eto yn grindian yn ôl a blaen ar lechen lefn. Beth wneir â hi tybed? Bwrdd neu sil ffenestr?

Ond dyma un sŵn cyfarwydd, beth bynnag – yr injan naddu, - a llu o bobol ddieithr yma eto’n syllu ar y bachgen yn torri’r llechi. Dacw un arall - ia, wir - yn hollti, ond dim ond dau sydd wrthi. Od iawn! ‘Sgwn i  ble mae’r cei fyddai’n llawn o lechi yn disgwyl am y llwythwr a’i wagenni?

Wel, dyma ryfeddod eto - merched! Ia, merched yn gweithio yn y chwarel! Maent yn trin y nwyddau llechi yn bur gywrain, chwara’ teg. Mae’n rhaid mai dyma’r steil y dyddiau yma, sef gwneud gwaith i bobol ddiarth ei weld a’i brynu.

Beth sydd drwy’r drws mawr yma tybed? Siop? Does bosib – wel, ia wir, ac mae’n llawn o nwyddau a wnaed yn y felin gan y bechgyn a’r merched. Mae yma lawer o bethau tlws eraill, a’r bobol yn gwau drwodd a thro yn ceisio dewis beth i’w brynu.

Allan i’r awyr agored eto, ac erbyn hyn mae ceir ym mhobman ynghyd ag ambell fws; plant yn rhedeg yma ac acw, ond eto, dim sôn am yr hen injan bach. Mae’r bobol yn disgwyl am gael mynd i rywle mewn cerbyd. Rhaid mynd i weld!

Dyma gychwyn i fyny’r llwybr serth ac i Holland*. Beth yn y byd sydd yn y fan honno? Pawb yn dod o gerbyd a hetiau coch ganddyn nhw - i gyd yn llawn golau. I mewn â nhw dan y ddaear i weld yr ‘agorydd’ ac i gael sgwrs ar y dull o weithio ers talwm - yng ngolau cannwyll yn crogi ar y graig.

Mae rhywbeth i’w ddweud am gynnydd, ond does neb i’w weld yn lladd ei hunan yma heddiw nac yn gorfod aros am egwyl i gael ei wynt.

Beth arall sydd yma tybed yn yr hen chwarel ddieithr yma?

Mynd am dro at y bythynnod, - neb yn byw ynddyn nhw rwan, ond maent yn cael eu cadw’n lân a thaclus, diolch am hynny. Y dodrefn yn eu lle fel yn y dyddiau gynt.

Mynd i weld adeilad yn llawn o injans bach - rhai hen, hen a rhai fyddai’n gweithio yma ers talwm. Bechgyn bach yn dringo drostynt ac yn gwirioni wrth gael smalio dreifio.

Mae’r geiniog yn disgyn rwan! Mae rhywrai wedi cymryd yr hen chwarel ddiwerth yma i ddangos i bobol ddiarth beth oedd yn digwydd ers talwm. Dysgu rhywbeth wrth fynd o gwmpas yr amgueddfa, ac edrych ar yr hen greiriau a’r hen luniau. Dyma’r hen William Jôs a Robat Huws. Beth ddyweden nhw pe gwelent y lle yma heddiw?

Clywed corn rhyw chwarel arall yn canu; amser cinio! Mae’r bobol yn ymlwybro am dŷ bwyta crand. Chware teg iddynt - mae pawb yn mwynhau eu hunain yn yr haul braf.

Pe gwelai William Jôs a Robat Huws y plant yma’n gwario mewn bore cymaint â’u henillion hwy mewn wythnos, neu hyd yn oed fis - wel dyna gynnydd mae’n siŵr!

Roedd yn b’nawn tesog ym mis Mehefin, a llithrodd awel ysgafn dros ymyl y Domen Fawr cyn i’r nos gau’n dynn dros y Gloddfa, a’i dychwelyd i’r tawelwch hen a fu. Fe wyddai William a Robat yn iawn am rheiny.

*Enw ar ddwy bonc yn y Chwarel.

-----------------------------
Wrth ail-gyhoeddi'r uchod yn rhifyn Mai 2015, ychwanegodd Iwan Morgan:

Mae’r diweddar J. Ieuan Jones, Talsarnau’n disgrifio menter ‘Llechwedd’ fel hyn mewn awdl a gyfansoddodd tua’r un cyfnod â’r ysgrif:

Heddiw’r chwarel sy’n elwa
Ar farsiant diwydiant ha’,
Chwarae chwarel â delwau
A heidia’r myrdd i’w dramâu;
Creigiwr eiddil wrth biler
A’i gŷn yn ei ddwylo gwêr.

A naddwr ni heneiddia
Wrth ei dwr o lechi da;
Carpedau drwy’r lloriau llaid,
Trostynt cerdda twristiaid;
Mwynhau’r wledd a rhyfeddu
Ennyd awr uwch dwnsiwn du.

(Gol.)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon