Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ym Mlaenau Ffestiniog, roedd presenoldeb tua 80 o filwyr o adran o'r fyddin wedi tarfu ar dawelwch y bore Sul cyntaf yn Ionawr 1915, wrth iddynt orymdeithio y tu ôl i'r seindorf leol i gapel Dolgarregddu, lle y traddodwyd pregeth iddynt gan y Parchedig Silyn Roberts, a fu'n weinidog ar Gapel Bethel, Tanygrisiau rhwng 1905 a 1913.
Pythefnos yn ddiweddarach cyrhaeddodd catrawd o 250 o filwyr y Blaenau, a threfnwyd cyngerdd ar eu cyfer yn y Neuadd Gyhoeddus. Wedi mwynhau'r arlwy, aeth y gatrawd ymlaen i gyfeiriad Bala a Chorwen.
Tua'r un adeg cyhoeddodd ‘
Y Rhedegydd’ lythyr gan Dick, mab y Dr. Vaughan Roberts, a oedd yn gwasanaethu rhywle yn Ffrainc. Disgrifiodd beth oedd wedi ei weld ar y ffrynt (cyfieithiad o’r llythyr Saesneg):
‘…cawsom olwg cyflawn o’r ymosodiad, a gwelsom y bechgyn druan yn syrthio fesul un, a’r rhai oedd yn aros ar ôl a saethwyd…’
Cafwyd cadarnhad fod y milwyr yn ysgrifennu adre' yn amlach erbyn hynny, wrth weld y canlynol, dan '
O’r Ffrynt', yng ngholofn newyddion Trawsfynydd yn y papur:
'...parhau i ddod i mewn y mae llythyrau o faes y frwydr, yn wythnosol. Deallwn fod Mr Jones, y Gorsaf-feistr wedi derbyn amryw.'
Cafwyd rhybudd, mewn Saesneg, yn rhifyn 16 Ionawr 1915 i rai oedd wedi gwasanaethu gyda ‘
His Majesty's Forces, Regular and Auxilliary’, ym Meirionnydd a Threfaldwyn i ymaelodi ar unwaith fel aelodau wrth gefn. Roedd y rhain i fod dan ofal y ‘
District Commandant’, y Dr. Richard Thomas, Isallt.
Roedd sensoriaeth y Swyddfa Rhyfel wedi sicrhau na fyddai newyddion drwg o’r ffrynt yn cyrraedd adre’, am resymau amlwg. Ond ar y 23ain o Ionawr 1915, cyhoeddwyd adroddiad, byr iawn, o hanes y clwyfedig cyntaf y rhyfel o'r fro i gyrraedd tudalennau'r ‘Rhedegydd’. Cafwyd gwybodaeth fod Mrs Anne Lloyd, Bryngwyn, Tanygrisiau wedi derbyn llythyr yn ei hysbysu fod ei mab, David, wedi ei glwyfo.
Cynhaliwyd Eisteddfod y Milwyr yn Llandudno yn ystod mis Ionawr 1915, lle y bu i Alun Mabon Jones, o Riwbryfdir ddod yn fuddugol, allan o bedwar-ar-ddeg, ar gyfansoddi englyn i'r Cadfridog Owen Thomas. Mae naws jingoistaidd ar yr englyn hwn hefyd, fel nifer o gerddi gwladgarol-Brydeinig, frenhinol yr oes honno:
Gŵr hoenus, hawddgar, hynod - yw y doeth
Frigadier hyglod,
Gŵr pur, a geiriau parod,
Mal ei gledd yn loywa' i glod.
Cafwyd hefyd wybodaeth fod Alun Mabon yn aelod o'r 13eg Fataliwn o Gatrawd y Pals Gogledd Cymru, ac yn athro ysgol Sul ar 29 o filwyr. Roedd ymgyrch recriwtio rhai fel Lewis Davies, Y Gloch, yn dangos ei farc yn y Blaenau wrth weld adroddiad ar y 30 o Ionawr 1915 yn dweud :
'Yn y Tabernacl yr oedd ein milwyr lleol y Sul diweddaf, a'r Parch Thomas Hughes, B.A., Rhiw yno yn pregethu iddynt, Mae y niferoedd wedi cyrraedd cant a thri.'
Gwelodd darllenwyr ‘Y Rhedegydd’ ddarn o farddoniaeth yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr, gan Hedd Wyn, am y tro cyntaf ar 30 Ionawr 1915, dan y testun ‘
Tua’r Frwydr’. Roedd y gerdd wedi’i chyflwyno...‘
i fechgyn Trawsfynydd, y rhai sydd a’u hwynebau tua maes y gwaed’. Erbyn y cyfnod hwn, roedd cynnydd ym marddoniaeth, gan feirdd, o amrywiol safon, a ymddengys ar dudalennau’r papurau Cymraeg wythnosol. Yn ychwanegol i’r cynnydd mewn barddoniaeth, yr oedd adroddiadau’n cynyddu’n rheolaidd am amryw yn mynd ‘
i wasanaethu eu gwlad.'
Yng ngholofn newyddion Trawsfynydd yn ‘
Y Rhedegydd’ ar 13 Chwefror 1915 cafwyd hanes cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y pentref i hybu recriwtio yno. Lewis Davies, y swyddog recriwtio oedd yn annerch, ond fel y dywedodd y gohebydd lleol, ‘...tipyn yn deneu oedd y cynulliad...’
Yn yr un rhifyn, dywedwyd, dan bennawd ‘
Cael Gynau’r Gelyn i’r Blaenau’ yn ieithwedd y cyfnod:
“Mae’n wybyddys fod y Swyddfa Rhyfel yn anrhegu y lleoedd hynny sy’n rhestru mwyaf o filwyr i’r fyddin, â gynau wedi eu dal a’u dwyn oddiar y Germaniaid. Carem wybod lle y saif Ffestiniog arni yn y mater yma. Mae’r ardal wedi gwneyd cystal a’r un ardal trwy y sir, a dylai rhywun gymeryd y gwaith mewn llaw i edrych a oes gennym le i wneyd cais at y Swyddfa Rhyfel am y cyfryw anrheg. Awgrymwn y priodoldeb i’r Cynghorwyr gymeryd hyn o orchwyl mewn llaw.”
Llwyddwyd i sicrhau’r gynnau hynny, a chawsent eu harddangos yn y Parc yn y Blaenau am beth amser.
---------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
[Pabi gan Lleucu Gwenllian]