Tecwyn Vaughan Jones -cadeirydd y beirniaid- yn trafod enillydd diweddaraf gwobr flynyddol Cyngor Tref Ffestiniog
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth 2019 ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn Siambr y Cyngor ac roedd teilyngdod sicr eleni eto. Enillydd Ysgoloriaeth 2109 yw Mark Wyn Evans. Brodor o Sgwâr Oakeley a chyn ddisgybl yn Ysgol y Moelwyn ac yna Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Menai. Mae ar hyn o bryd yn gweithio i Dŵr Cymru ac yn gweithio fel ffotograffydd amatur gyda chryn ddiddordeb mewn creu fideos ac ymhél a sinematograffeg
Unwaith eto eleni, braint i mi ac i’r ddau feirniad arall, Ceinwen Humphreys ac Anwen Jones oedd cael bod yn rhan o’r broses o ddyfarnu’r ysgoloriaeth yma. Y llynedd dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth hon i Lleucu Gwenllian Williams a deithiodd i Batagonia ym mis Hydref, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ei hadroddiad am ei phrofiad a byddwn yn rhannu hwn gyda darllenwyr Llafar Bro yn y man.
Pwrpas yr Ysgoloriaeth ydy cryfhau’r berthynas sy’n bodoli rhwng y dref hon a thref Rawson ym Mhatagonia a thrwy hynny gryfhau'r cysylltiad a Phatagonia yn ei chyfanrwydd, a rhwng Patagonia a Chymru. Mae’r Ysgoloriaeth yn ganlyniad, mewn gwirionedd, i’r trefeillio rhwng y Blaenau a Rawson a ddigwyddodd bum mlynedd yn ôl. Mae’r Ysgoloriaeth yn gyfyngedig i rai sy’n byw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog, neu sydd a’u cyfeiriad cartref yma, ac sydd hefyd rhwng 16 a 30 oed - pobl ifanc yr ardal felly.
Unwaith eto eleni dwi am longyfarch Cyngor y Dref am eu gweledigaeth a’i buddsoddiad yn nyfodol y berthynas hon rhwng y ddryw dref. Mae’r Ysgoloriaeth bellach yn werth £2000 sydd yn swm anrhydeddus wrth gwrs ac sy’n galluogi’r enillydd i ymweld â Phatagonia a chyflawni gofynion yr Ysgoloriaeth … neu mae’n mynd yn bell iawn i helpu i wneud hynny! Mae ysgoloriaeth fel hon, sy’n unigryw, dwi’n tybio ymysg cynghorau cymuned a thref Cymru yn rhywbeth ardderchog ac yn tystio fod y cyngor yn buddsoddi yn y berthynas sy’n dechrau blodeuo rhwng y ddwy dref. Mae’n amlwg fod y Cyngor o ddifrif ac yn gweithredu’n ymarferol i ddatblygu'r berthynas hon.
Mae tri enillydd eisoes wedi ymweld â Rawson a’r Wladfa, tair merch fel mae’n digwydd, ac roedd pob un o’r rhain gyda sgiliau penodol ac yn llysgenhadon gwych i’r dref hon. Mae’r Ysgoloriaeth yn gobeithio annog pobl ifanc i feithrin perthynas dros hir dymor gyda’r Wladfa ac i sicrhau fod ein cymuned ni yma yn elwa o’r berthynas hon … elwa’n ddiwylliannol os nad yn y pendraw ar lefel busnes … pwy a ŵyr be fydd posibiliadau'r dyfodol.
Dan ni’n teimlo fel beirniaid fod angen i bob enillydd sicrhau budd amlwg o’r Ysgoloriaeth hon, boed hynny yn gyflwyniadau i ysgolion lleol a chodi diddordeb plant ifanc yn y cysylltiad hwn gyda’r Wladfa ond hefyd mae modd i godi ymwybyddiaeth y dref ac rydym yn dibynnu ar enillwyr yr Ysgoloriaeth hon i weithredu yn greadigol a chymryd diddordeb yn y gefeillio hwn a meddwl o ddifrif sut y bydd hyn o fantais i Blaenau a Llan ac i’r perwyl hwn mae’r cyngor yn buddsoddi yn y gefeillio hwn.
Cymerwyd y cam cyntaf gan Gyngor y Dref bum mlynedd yn ôl … enwi sgwâr yn enw Rawson; derbyn rhai o drigolion Patagonia yma yn Stiniog a pharhau i wneud hynny; cyhwfan baner yr Ariannin ar Sgwâr Diffwys gyda’r ddraig goch yn ei chanol - gweithred symbolaidd a hawdd ei gwneud siŵr o fod, ond gweithred oedd yn golygu llawer iawn i drigolion Y Wladfa. Diolch i’r rhai fu ynghlwm â’r gweithgareddau hyn, maent wedi braenaru’r tir yn rhagorol a bellach mae’r Ysgoloriaeth yn ymdrech deg iawn i gryfhau ein perthynas gyda’r Wladfa. Braf yw deall wrth gwrs fod yr Ysgoloriaeth hon yn cael ei chynnig yn flynyddol.
Mae cais Mark eleni yn plygu i ofynion yr ysgoloriaeth yn berffaith. Mae Mark yn disgrifio ei hun fel ffotograffydd amatur a dyma’r ymgeisydd cyntaf i roi blaenoriaeth i ffotograffiaeth a fideograffeg fel rhan o’i brosiect.
Un peth sy’n disgleirio trwy’r cais ydy brogarwch … mae wrth ei fodd yn astudio tirwedd yr ardal. Mae’n sôn am greu fideo cynhwysfawr am Stiniog cyn mynd i Batagonia a mynd a hon efo fo. Mae’r lluniau yn dangos cariad tuag at ei fro ac mae’n ymgeisio i gael pobl, trwy ei luniau, i feddwl ac i weld y gorau am yr ardal hon.
Mae’r prosiect wedi ei gynllunio yn ofalus a bydd yn cynnwys lluniau o’r ardal wedi eu tynnu gan yr ymgeisydd. Mae’n cynnwys dwy fideo - un wedi ei greu yn y Blaenau gyda chaniatâd athrawon, i gyfweld plant ysgol ynglŷn â’u profiadau o fyw yn yr ardal.
Bydd lluniau o’r Wladfa yn dod yn ôl i’r ardal a hefyd fideo fydd yn pwysleisio profiad plant a phobl o fyw yn Rawson a’r Wladfa. Bydd y fideo yma ar gael i’w dangos mewn sawl lle yn yr ardal.
Mae’r cais yn estyn allan i drigolion y fro ac mae’n awyddus iawn i’w cynnwys yn ei baratoadau. Bydd yn dibynnu ar ewyllys da trigolion yr ardal, i’w helpu i wireddu y rhan gyntaf o’i brosiect.
Mae’r ymgeisydd yn medru plethu ei holl syniadau i un cynllun sy’n greadigol ac yn gynaliadwy yng nghyd-destun yr Ysgoloriaeth. Mae potensial sylweddol yn y cais hwn a chawsom ein gwefreiddio gan fwriad yr ymgeisydd.
Tecwyn Vaughan Jones
----------------------------------------
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2019.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon