6.5.19

Rhod y Rhigymwr -cawl odiaeth

Colofn reolaidd Iwan Morgan

Bum yn meddwl am bennill agoriadol Morgan Llwyd o Wynedd o’i gerdd ‘Hanes rhyw Gymro’:
Ym Meirionnydd gynt ym ganwyd, 
Yn Sir Ddimbech ym newidiwyd,  
Yn Sir y Mwythig mi wasnaethais, 
Yn Sir Fynwy mi briodais. 
Roedd Morgan Llwyd yn un o fawrion y ffydd Gristnogol yng Nghymru. Fe’i ganed union bedair canrif yn ôl i eleni -1619- ym mhlasty gwledig Cynfal Fawr, plwyf Maentwrog, a chafodd fagwraeth oedd yn nodweddiadol o fân uchelwyr Cantref Ardudwy yn yr oes honno -  teuluoedd a gafodd eu trwytho yn y traddodiad llenyddol Cymraeg a gwerthoedd crefyddol a chymdeithasol yr Eglwys Sefydledig.

Afon Gynfal, Pulpud Huw Llwyd. Llun- Tecwyn V.Jones

Un o hil Huw Llwyd ydoedd – a fu’n anturiaethwr a milwr dewr ar faes y gad yn Ffrainc a’r Iseldiroedd. Fe luniodd englyn i ddisgrifio’i hun ar ei fynych grwydradau yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg:
Yn Ffrainc yr yfais yn ffraeth – win lliwgar,
Yn Lloegr cawl odiaeth;
Yn Holand, menyn helaeth,
Yng Nghymru, llymru a llaeth.
Ond roedd Morgan Llwyd yn dra gwahanol i Huw Llwyd. Nid milwr yn lifrai’r brenin fuodd o, ond gwas ffyddlon i’r Arglwydd Iesu.

Yn bymtheg oed, symudodd Morgan, y llanc ifanc galluog, i ysgol yn nhref Wrecsam, ac yno y daliwyd ef yn rhwyd yr Efengyl dan bregethu’r piwritan gwresog, Walter Craddock. Oherwydd ei danbeidrwydd, erlidiwyd Craddock o’r dref.

Dilynodd Morgan Llwyd ei dad yn y ffydd i Brampton Bryan, plasty a chyrchfan y piwritaniaid yn Llanfair Waterdine - pentref ar y ffin â Chymru ac ar ffiniau siroedd Amwythig a Henffordd. Oddi yno, aeth i Lanfaches, nepell o Gasgwent yn Sir Fynwy, lle rhoddodd William Wroth y gorau i fod yn rheithor, a dod yn weinidog annibynwyr cyntaf Cymru ym 1639.

Yn Llanfaches y priododd Morgan ag Ann ym 1641. Bu’n rhaid ymwahanu dros dro, gan i’r Rhyfel Cartref dorri allan yn Awst 1642. Fe drefnodd Morgan i’w briod deithio i Gynfal at ei fam, ac aeth yntau fel caplan i Oliver Cromwell i genhadu a chefnogi’r milwyr oedd am weld ‘gweriniaeth’ a ‘democratiaeth’ yn y wlad.

Cyfrinydd (mystic) oedd Morgan Llwyd i lawer – un a gredai y gellir cysylltu’n uniongyrchol â Duw drwy weddi, myfyrdod neu ymarferion arbennig, a thrwy hynny, dreiddio i ddirgelion sydd tu hwnt i ddeall dyn. Ond i eraill, pregethwr ar dân dros ennill cenedl y Cymry i Grist ydoedd – un o radicaliaid cynnar yr Annibynwyr Cymraeg a geisiai ddeffro cenedl i’w chyfrifoldeb.

Mae arddull y pregethwr huawdl, grymus i’w weld yn ei gyfrolau. Y mwyaf adnabyddus ohonyn nhw ydy ‘Llyfr y Tri Aderyn’.
---------------------------

Addasiad o'r erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Mawrth 2019.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon