3.5.19

Stolpia -diwedd pennod

Pennod olaf cyfres Steffan ab Owain am Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au

Credaf ei bod hi’n amser imi gloi’r drws ar helyntion hogiau’r Rhiw yn ystod y 50au, bellach, neu mi fydd pawb wedi syrffedu’n lân ar y testun. Credwch fi, y mae wedi bod yn dipyn o straen ar adegau cofio digwyddiadau yn ein hanes tros 60 mlynedd yn ôl. Eto i gyd, y mae llawer ohono wedi bod yn bleserus, ac y mae’r ymateb wedi bod yn bur dda ar y cyfan.

Dolawel
Yn dilyn fy mhwt yn rhifyn Chwefror am y cathod annof a fyddai’n cartrefu yng ngodre Tomen Fawr Chwarel Oakeley, atgoffwyd fi gan Raymond Cunnington, a fyddai yn byw yn Blaenddôl, Glan-y-Pwll yn y 50au, wrth gwrs, mai cathod brech oeddynt gan fwyaf. Y mae ganddo yntau gof o’u  gweld nhw yno droeon pan oedd yn hogyn. Atgoffwyd fi hefyd y dydd o’r blaen wrth imi weld y timau rygbi yn chwarae yn ‘Cae Joni’, neu Cae Dolawel am yr amser a fyddem ninnau yn chwarae yno, ac yn cystadlu yn y gemau a gynhelid gan gwmni Chwarel Oakeley.

Cofier, y pryd hynny, ceid cae gwair yno gan Ned Owen, Lodge Plas Weunydd ar gyfer porthiant anifeiliaid. Dilynwyd ef gan Gruffydd Williams, Talyweunydd, sef tad Rowenna a’r diweddar Dafydd (NCL). Roedd hi’n braf edrych ar y teulu yn hel y gwair yn ystod y cynhaeaf a gweld y ceffyl a’r drol gyda gwair arni hi yn ymlwybro ei ffordd i fyny’r rhiw am Dalyweunydd.

Diolch i Sharon, chwaer Michael a Wayne (Paentiwr), am y llun ohoni hi yn ferch fach a’r hen anfarwol Mic y ci bach, a achubodd bywydau Brei, Ses (Cecil) a finnau tra roeddym yn nhywyllwch tanddaearol Chwarel Holland.

Bydd Stolpia o’m heiddo fi yn cymryd seibiant am sbelan. Diolch i bawb am eu help tra bues i yn ysgrifennu ychydig o hanes hogiau’r Rhiw yn y 50au. 
------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2019. Diolch i Steffan am gyfranu'n rheolaidd at ddeunydd difyr Llafar Bro. Mae casgliad o erthyglau'r gyfres ar gael trwy wthio'r ddolen STOLPIA.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon