29.4.19

Esgid newydd ar bob troed

Siop Esi, Siop Beryl, Cambrian Boot – pa bynnag enw yr ydych chi yn ddefnyddio ar gyfer y siop yma, fe welwyd sawl tlws yn cael ei arddangos yn ffenest y siop yn ddiweddar. 

Mae hyn felly yn destun i ni longyfarch y perchennog presennol, Mrs Delyth Jones-Evans ar ei llwyddiant. Cafodd ei henwi yn ‘Fyfyrwraig y Flwyddyn’ 2018 gan ‘The Society of Shoe Fitters’. Mae’r gymdeithas hon yn gweithio nid er elw i ddysgu ac i hybu'r grefft o ffitio esgidiau fel gyrfa.


Bu Delyth yn fyfyrwraig ar yr unig gwrs proffesiynol mewn bodolaeth sydd yn canolbwyntio ar ‘iechyd y droed’ a’i datblygiad. Ar y prynhawn penodol hwn, pan wnes i ymweld â’r siop i gywain gwybodaeth ar y wobr arbennig hon, daeth mam o Dywyn a’i mab bychan i’r siop, i brynu ei bâr o sgidia cyntaf. Felly, mi gymerais i sedd a gwylio’r feistres wrth ei gwaith. Dwi’n ymwybodol fod Delyth yn arfer gweithio o fewn y byd gofal plant, ac felly mae’n amlwg fod ganddi'r profiad a’r gallu.

Ond, wir i chi, welish i ‘rioed mo unrhyw berson mewn siop yn rhoi gwasanaeth mor amhrisiadwy i’w chwsmeriaid! Mae pob un ohonoch sydd wedi magu plant yn gwybod nad yw cadw nhw’n ddigon llonydd i gael mesur eu traed nhw yn dasg hawdd, o’r anesmwytho a’r gwingo i’r crio a’r sgrechian, gall edrych yn dasg amhosib ar adegau....oni bai eich bod yn rhywun sydd a phrofiad fel Delyth, ac yn defnyddio bob tric yn y llyfr i sicrhau llwyddiant!

Mae hi hefyd yn mynd o gwmpas gwahanol ganghennau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched i hyrwyddo’r busnes ac mae hynny yn amlwg wedi talu ar ei ganfed gyda chwsmeriaid o bob cwr o’r gogledd, o Benllyn i Ben Llŷn a chyn belled a Chaernarfon, wrth i bobl ddod i wybod am ei gwasanaeth clodwiw, yn enwedig efo’r plant.

Dywedodd Delyth wrtha'i fod ganddi bellach y gallu i arbenigo mewn ffitio cwsmeriaid sydd â phroblemau iechyd neu sy’n cael trafferth ffeindio esgidiau oherwydd problemau iechyd. Fel rhywun sydd wedi dioddef a phroblemau traed ers pan yn blentyn bach, dwi’n falch iawn fod y gwasanaeth yma ar gael yn lleol bellach, achos mi oedd o’n broblem wirioneddol i Mam tra roeddwn yn blentyn!

Mae cwmni DB Shoes yn gwmni sydd yn arbenigo mewn esgidiau ‘wide-fit’ – rhywbeth y mae unrhyw berson sy’n dioddef gyda’i draed yn gorfod meddwl amdano wrth brynu esgidiau. Cwmni arall sydd newydd lanio ar silffoedd y siop hynod yma yw’r enw mawr y myd yr esgidiau: Hotter Shoes ac mae angen i chi gadw llygaid allan am gystadleuaeth ar y cyd rhwng y siop sgidia a Chaffi’r Gorlan – bydd manylion y gystadleuaeth i’w gweld ar dudalennau cymdeithasol y ddau gwmni, ond o’r hyn dwi wedi glywed yn barod, mae hi yn mynd i fod yn gystadleuaeth gwerth i’w hennill!
Llongyfarchiadau i Delyth ar ei llwyddiant, a hir oes i’r Cambrian Boot, sydd mae’n debyg wedi bod mewn bodolaeth yn y Blaenau ers dros ganrif bellach.
--------------------------------


Erthygl gan Rhydian Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Mawrth 2019. 


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon