Erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019
Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru; sef rhwydwaith o fentrau a busnesau cymdeithasol sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un Cwmni Bro. Mae'n gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth a’r pentrefi cyfagos sydd, rhyngddynt, gyda phoblogaeth o tua 8,000.
Fel y gwyddoch Blaenau oedd yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900 gyda phoblogaeth o tua 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino, gostyngodd y boblogaeth i lai na hanner hynny. Erbyn heddiw mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn gynsail i’r model cyfannol o ddatblygu cymunedol a arloesir yn yr ardal heddiw.
Amcanion y Cwmni yw hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd a hefyd gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned. Hyn i gyd er mwyn datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.
Yn ôl pob tebyg mae mwy o fentrau cymdeithasol y pen yn yr ardal nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Yn ystod 2018 daeth mentrau'r ardal at ei gilydd dan faner Cwmni Bro. Rhestrir isod y mentrau sy’n ymwneud â rhwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog:
Antur Stiniog, Y Dref Werdd, Tan y Maen , Barnardos, Cyfeillion Croesor, CellB/Gwallgofiaid, Cwmni Opra Cymru, Deudraeth Cyf, GISDA, Seren a Gwesty Seren, Pengwern Cymunedol, Trawsnewid, Menter Llanfrothen, Ynni Cymunedol Twrog, Ysgol Y Moelwyn/y Ganolfan Hamdden.
Mae gweithgareddau amrywiol y mentrau hyn yn cynnwys rhedeg gwestai, siopau, bwytai, canolfan twristiaeth, canolfan hamdden, canolfan celf a chrefft, beicio mynydd, manwerthu, garddwriaeth, darparu rhandiroedd, gwaith addysgol a diwylliannol, opra, gwaith amgylcheddol, cynhyrchu trydan, hybu arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, glanhau afonydd, gwaith gydag oedolion gydag anghenion ychwanegol, gwaith gydag ieuenctid yn cynnwys ynglŷn â digartrefedd a dysgu sgiliau amgylcheddol a chyfryngol.
Rhyngddynt mae aelodau Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobl. Dengys dadansoddiad diweddar o effeithiau economaidd y mentrau bod canran uchel o’u hincwm yn dod o fasnachu. Ymhellach, dangoswyd bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi o fewn yr ardal. Am bob punt a dderbynnir fel grantiau neu fenthyciadau mae 98 ceiniog yn cael eu gwario’n lleol, yn bennaf ar gyflogau. Mae £1.5 miliwn o bunnau yn cylchdroi yn lleol oherwydd gweithgaredd y mentrau yma.
Mae bron hanner y gwariant ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol ac felly’n ailgylchu arian yn yr ardal.
Ym mis Awst 2018 cychwynnwyd menter newydd, BROcast Ffestiniog, sef cychwyn ar ddarlledu cymunedol digidol, gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfathrebu rhwng mentrau cymunedol yr ardal a’r gymuned ac oddi mewn i’r gymuned.
(Gweler BROcast Ffestiniog-YOUTube a facebook.com/BROcastFfestiniog ).
Credir bydd y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol ac economaidd y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei arloesi yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu gan gymunedau eraill.
Y nod ydi bydd ein llwyddiant yn gosod sialens i lywodraeth yng Nghymru i ddatblygu polisïau a chefnogaeth briodol er mwyn hyrwyddo’r model hwn o ddatblygiad cymunedol yn ehangach ledled y wlad.
www.cwmnibro.cymru
CYSWLLT
Cwmni Bro Ffestiniog, Fyny Grisiau, 5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. LL41 3ES
CwmniBro@CwmniBro.Cymru
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon