NEGES GAN JOHN MORRIS, QC, A S, YSGRIFENNYDD CYMRU I ‘LLAFAR BRO’
Dyna ‘stori flaen’ y papur yn rhifyn Ebrill, 40 mlynedd yn ôl [Rhif 42, Ebrill 1979], a’r is-bennawd.
Mi fydd y rhai ohono ni sy’n ddigon hen yn cofio mai yn Ebrill, 40 mlynedd yn ôl y cefnogodd tri Aelod Seneddol Plaid Cymru, sef Dafydd Wigley (Arfon); Gwynfor Evans (Caerfyrddin); ac Aelod Meirionnydd - Lywodraeth Lafur Jim Callaghan yn ei dyddiau bregus olaf - ar yr amod fod iawndal cyffelyb i’r hyn oedd ar gael i’r glowyr, hefyd i’w dalu i chwarelwyr llechi’r gogledd. Fe gaed y Mesur Seneddol. Ond cwympodd y Llywodraeth, a daeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog Prydain ym Mai, gan gychwyn 18 mlynedd o Lywodraethau Torïaidd, hyd 1997.
Cafodd y darn hwn ei sgrifennu ar 29 Mawrth 2019, y diwrnod yr oedd Prydain i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd. Pwy a wŷr a fydd Etholiad Cyffredinol arall? Pwy all ddarogan beth a ddigwydd yn yr wythnosau nesaf?
NEUADD AR WERTH
- oedd pennawd un o’r darnau eraill ar ddalen flaen Llafar Bro ddeugain mlynedd yn ôl [Rhifyn 41, Mawrth 1979]. Dyma - gyda mymryn o newid manion er mwyn eglurhad - ddywedwyd:
“Mae Cyngor Dosbarth (Meirionnydd) yn trafod dyfodol yr hen Neuadd Gynnull [Neuadd y Farchnad]. Yn niwedd 1978 penderfynodd y Cyngor Tref mai gwell oedd cadw’r adeilad er mwyn gwneud unrhyw ddefnydd ohono na’i chwalu fel yr awgrymwyd gan rai. Bydd Cwmni Wallis a Linnell yn gadael yr adeilad ddiwedd y mis hwn, a chredir bod tri yn dangos diddordeb yn y defnydd o’r hen neuadd. Mae un peth yn bendant, ni fydd unrhyw ddatblygiad a fydd yn addasu’r adeilad ar gyfer defnydd cyhoeddus, ac ni ystyrir ei ddymchwel oni fydd hynny yn hollol angenrheidiol.”Bu‘r stori yn araf ddatblygu, rhyw lwybr digon igam ogam efallai, hyd y dydd heddiw, pan mae cais cynllunio am newid defnydd (i nifer o fflatiau preswyl) yn cael ei ystyried...
DBJ
-----------------------------------
Erthygl o rifyn Ebrill 2019
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon