10.5.19

Trafod Tictacs -Edwyn Roberts

Colofn achlysurol yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog. Y tro yma, mi fuon ni’n holi Edwyn Roberts, prif hyfforddwr tîm rygbi Bro Ffestiniog.

Mae wedi bod yn dymor caled, be ydi dy argraffiadau di wrth i’r gemau ddod i ben am y tro?
Mae hi wedi bod yn dymor caled, efallai yn galetach na ddylai i fod yn onest. Mi wnaethom ddechrau yn araf ond wedyn curo tair yn olynol, gan gynnwys buddugoliaeth i ffwrdd yn y Bala, dim ond un o dri tîm i wneud hynny eleni (Pwllheli a Nant Conwy y ddau arall). Ond yn dilyn hyn a fel nifer o dymhorau eraill, mae gemau rhyngwladol tymor yr hydref yn cyrraedd ac yn mynd ar draws ein gemau ni yn y gynghrair ac yn anffodus fe gawsom ychydig o anafiadau, sydd yn rhwystredig iawn, ac i garfan bach fel ni, mae hyn yn ein effeithio yn fawr iawn.

Mae’r gynghrair yn un cryf iawn ar hyn o bryd ac mae’r ffaith fod sawl chwaraewr o glybiau eraill hefyd yng ngharfan RGC yn uwch adran Cymru yn dystiolaeth o hynny. Gobeithio medrwn orffen yn gryf a chadw’r clwb yn adran 1 am dymor arall. Dyna ble mae’r chwaraewyr eisiau chwarae.

Pan ti ddim yn hyfforddi a chwarae, be ti’n wneud o ddydd i ddydd? Rho ychydig o dy hanes yn y byd rygbi hyd yma hefyd.
Dw i’n gweithio yn ngholeg Pwllheli yn dysgu lefel A fel swydd, felly digon o drafeilio ynghlwm â hynny. Fel arall, mae’r plant yn fy nghadw yn brysur iawn a dw i’n treulio llawer o’n amser ar y ffordd fel tacsi i fynd a nhw o amgylch gogledd Cymru ac ymhellach gyda rygbi, pêl droed a dawnsio.

O rhan fy hanes i, dechreues i chwarae i Bro yn 18 oed ar ôl cyfnod gydag Amaturiaid y Blaenau a’r bêl gron, ac mi chwaraeais am flynyddoedd cyn i mi orfod camu yn ôl oherwydd anaf i mhen glin.

Cefais y fraint o chwarae gyda RGC yn eu dyddiau cynnar a chael ambell i brofiad da gyda nhw hefyd. Ond roeddwn eisoes wedi bod yn hyfforddi  tîm dan 16 y clwb pan roeddwn yn fy 20'au cynnar ac yn gwybod mod i eisiau camu fewn i hyfforddi ar ôl i mi orffen chwarae. Yn anffodus, mi ddaeth hynny yn gynt na’r disgwyl. Dechreuais fel hyfforddwr cynorthwyol yn 2010 am ddwy flynedd cyn dychwelyd fel prif hyfforddwr yn 2014.

Be oedd uchafbwyntiau’r tymor; oes yna gêm neu gais neu ddigwyddiad yn sefyll allan?
Y fuddugoliaeth yn y Bala fyddai’r canlyniad sydd yn sefyll allan y tymor yma. Dw i’m yn meddwl fod neb ar draws gogledd Cymru yn meddwl fydda ni’n curo yno, ond pan mae’r hogia’ yn benderfynol, yna mae unrhyw beth yn bosibl. Canlyniad arall fyddai y gêm agos yn ddiweddar yn erbyn Pwllheli.

Oherwydd gwaith, salwch ac anafiadau, roedd Ionawr yn fis heriol dros ben ac fe gawsom ganlyniadau siomedig, felly pan ddaeth Pwllheli draw fel un o’r ddau dîm sydd yn debygol o guro’r gynghrair eleni, roedd hi’n edrych yn amheus iawn. Ond fe chwaraeodd yr hogia’ yn wych a rhwystro Pwllheli rhag sgorio cais, rhywbeth dw i’m yn meddwl sydd wedi digwydd ers tro pan fu Bro yn chwarae Pwllheli. Siom oedd colli’r gêm o 12-11, ond yn sicr roedd arwyddion yno eto o beth mae’r hogia’ yn gallu gwneud.

Be ydi’r cynlluniau at y tymor nesa, a sut mae mynd ati i baratoi?
Yn anffodus, dw i wedi penderfynu camu i lawr ar ddiwedd y tymor yma. Dw i wedi gwneud y penderfyniad ymhell cyn y Nadolig ac wedi gadael i’r pwyllgor a’r hogia’ wybod bellach o fy mhenderfyniad. Ar ôl 5 mlynedd o fod yn y rôl, dw i’n teimlo efallai fod hi’n amser am lais newydd erbyn hyn a gwyneb gwahanol i geisio symud y tîm yn ei flaen.

Yn ogystal â hynny, gyda’r plant acw yn brysur gyda’u chwaraeon nhw, dw i’n teimlo fod hi’n bwysig fy mod yn eu blaenoriaethu nhw (a’r wraig wrth gwrs) ac yn gwneud popeth medra'i er mwyn eu cefnogi nhw. Mae hi wedi bod yn anodd iawn cyfuno rôl hyfforddi a hyfforddiant/gemau’r plant tymor yma. Ond fydda'i ddim yn diflannu o’r clwb. Dw i wedi gorfod chwarae tipyn fy hun yn ddiweddar ac wedi dechrau mwynhau, felly fydda'i ar gael fel chwaraewr os fydd yr hyfforddwr/wyr newydd eisiau i mi helpu. Yn ogystal, dw i’n siŵr o helpu Bro bach a helpu gyda hyfforddi un o’r oedrannau iau.

Mae’r cae yn edrych yn dda ar ôl gwelliannau diweddar, a Dolawel yn lleoliad trawiadol i chwarae rygbi yng nghysgod tomen fawr yr Oclis: pa gaeau eraill wyt ti’n mwynhau ymweld â nhw, a pam?
Ydy, mae’r cae yn edrych yn dda ac mae diolch mawr i Bren, Tony Crampton, Snowy a Gai am hynny. Mae’r 4 allan ym mhob tywydd yn sicrhau fod y cae mewn cyflwr i’r hogiau chwarae arno, rhywbeth tydi pobl ddim yn sylweddoli o bosibl. Mae gwaith yn cael ei wneud arno eto yr haf ‘ma i’w gael mewn cyflwr gwell eto, felly gobeithio fydd y cae ymysg y gorau yn y gogledd erbyn mis Medi. Mae chwaraewyr o glybiau eraill yn aml iawn yn dweud pa mor dda ydy chwarae yn Bro a pha mor dda ydy’r cae (dibynnol ar y tywydd wrth gwrs) a’r ‘back drop’ sydd gennym.

Gêm ola'r tymor ar gae Dolawel (4ydd Mai 2019). Bro wedi curo'r Wyddgrug o 17-8 i sicrhau lle yn ffeinal Plât Gogledd Cymru. Llun Paul W
Dw i’m yn meddwl fod cae arall dw i’n hoff o chwarae fwy nac yn Bro i fod yn onast. Efallai Bethesda dros y blynyddoedd oherwydd y gemau cystadleuol rydym wedi gael yno a’r dorf yn ‘hostile’ i ddweud y lleiaf, ond fel chwaraewr, roeddwn yn hoff iawn o hynny.

Rydym yn lwcus iawn o’r cae a’r cyfleusterau sydd gennym yn Bro, rhywbeth dw i’n meddwl efallai ein bod yn cymryd yn ganiataol yn anffodus. Mae’r clwb, y balconi a’r caeau yn gyfuniad gwych a does dim un clwb arall yn y gogledd yn gallu cymharu yn fy marn i.

Pa mor bwysig ydi cael cefnogaeth dda ar ochr y cae ac ar falconi’r clwb? Sut all y clwb ddenu mwy i ddod i wylio gemau?
Ennill gemau. Mae mor syml a hynny dw i’n meddwl. Pan mae tîm yn gwneud yn dda mae pobl eisiau mynd i wylio, ond os ydy’r tîm yn colli, yn anffodus, oni bai am griw ffyddlon, tydi pobl ddim mor awyddus i wylio. Mae tîm pêl droed Cymru wedi dangos hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond i fod yn deg, rydym wedi bod yn cael cefnogaeth da yn Bro ers blynyddoedd bellach. Hyd yn oed mewn gemau i ffwrdd, mae cefnogwyr brwd yno, hyd yn oed pan byddwn yn trafeilio yr holl ffordd i chwarae Yr Wyddgrug. Mae ‘Teithiau Brenin’ yn mynychu bron pob gêm i ffwrdd. Tua 8 ohonynt yn cael bws mini. Yn Bala yn gynt yn y tymor roedd tua hanner cant yna dw i’n siŵr o Bro. Mae’r gefnogaeth rydym yn gael yn wych ac mae o yn sicr yn rhoi hwb i’r chwaraewyr cael criw da ochr y cae neu ar y balconi. Ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn rhoi rheswm iddynt ddod yno hefyd.

Mae cymeriadau ac anturiaethau blynyddoedd cynnar Clwb Rygbi Bro Ffestiniog wedi cael dipyn o sylw yn llyfr Arthur Thomas y llynedd*, pa ddigwyddiadau doniol sydd wedi digwydd yn dy gyfnod di (ac sy’n addas i’w hadrodd yn Llafar Bro!)?
Dw i heb ddarllen y llyfr fy hun eto chwaith ond wedi clywed am rhai o’r straeon. Ni fysa hi’n glwb rygbi oni bai fod ‘straeon nac fysa? Dw i’m  yn siŵr os oes gen i unrhyw stori ddifyr fyddai yn addas i Llafar Bro chwaith!!

Be wyt ti’n feddwl o gynlluniau posib yr Undeb Rygbi i greu tîm proffesiynol yn y gogledd? Pa effaith gaiff hynny ar dimau adran un a dau?
Mae hyn yn rhywbeth dw i’n credu yn gryf yno i fod yn onest ac mae gen i farn cryf amdano. Dw i’n meddwl fod hi’n hen amser i ni gael tîm proffesiynol yn y gogledd er mwyn rhoi cyfle i gogleddwyr gael cyfle i wylio rygbi o’r safon uchaf heb orfod trafeilio 3 awr un ffordd i wylio gêm. Yn ogystal â hynny, dw i’n meddwl ei fod yn hanfodol er mwyn datblygu’r gêm yma yn y gogledd. Mae llawer o waith yn mynd ymlaen yn y gogledd i hybu’r gêm ar y funud ond mi fuasai hyn yn gallu ysbrydoli gymaint o blant i chwarae rygbi ac i fod eisiau dilyn eu harwyr. Dychmygwch fod chwaraewyr o safon George North ac Alun Wyn yn chwarae yn wythnosol ym Mae Colwyn, a thimau fel y Sgarlets neu Leinster yn dod yma i chwarae yn rheolaidd. Mi fyddai hynny yn cynyddu ymwybyddiaeth am y gêm gymaint, a gobeithio yn golygu fydd y gogledd yn cyfrannu tipyn mwy i’r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd.

Dwi ddim yn meddwl fyddai yn cael effaith negyddol ar glybiau’r gogledd gan fod hi’n annhebygol fod bob un o chwaraewyr adran 1 o’r safon i chwarae i’r tîm. Ond os ydynt, o leiaf mae llwybr iddynt i fewn i’r gêm broffesiynol heb orfod symud o’r ardal fel mae chwaraewyr wedi gorfod gwneud dros y blynyddoedd. Os rhywbeth, dw i’n meddwl fyddai o fudd i’r clybiau gan fydd yno siawns dda fod niferoedd sydd yn chwarae rygbi yn cynyddu. Croesi bysedd ddaw un yn y dyfodol agos.

Ydi Warren Gatland a’i dîm hyfforddi wedi cael gormod o glod, ta ydyn nhw’n haeddu pob canmoliaeth? Be ydi dy farn di am yr ymgyrch 6 gwlad eleni?
Haeddu pob clod maent yn gael yn fy marn i. Mae nhw wedi gwneud job ffantastig dros y 10 mlynedd diwethaf. Tydi pob blwyddyn heb fod yn llawn llwyddiant a dros y blynyddoedd mae sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn tŷ tafarn wedi lleisio eu barn yn gryf ddylai Gatland fod wedi mynd, gan fod ei steil o chwarae wedi dod yn rhy hawdd i’n gwrthwynebwyr baratoi ar ein cyfer. Ond efallai fod rhai gyda cof byr o sut oedd Cymru yn chwarae cyn iddo gymryd drosodd a’r siambyls yng Nghwpan y Byd yn 2007. Weithiau mewn bywyd mae gennym lawer i fod yn hapus amdano a llawer o bethau da yn digwydd yn ein bywydau a nid ydym yn gwerthfawrogi hynny a mond yn sylweddoli beth oedd gennym pan mae hynny wedi dod i ben. Dw i’n ofni hynny gyda Gatland. Dw i’n eithaf sicr byddwn fel y Cymry yn sylweddoli pa mor dda oedd Gatland wedi iddo adael – ond yn gobeithio mod i’n anghywir wrth gwrs.

Roedd 6 gwlad eleni yn wych. Pwy fyddai yn meddwl hanner amser yn y gêm gyntaf yn Ffrainc byddai Cymru yn curo y Gamp Lawn? Dw i’m yn meddwl ein bod wedi gweld y gorau gan Gymru gyda’r bêl yn eu dwylo, ond maent wedi dod yn dîm anodd iawn i’w curo ac mae hi’n braf gweld hynny. Mae fwy nac un ffordd o ennill gemau, a dwi’m yn meddwl fod llawer yn meindio fod Cymru heb sgorio llith o geisiau yn y bencampwriaeth.

Be am y gystadleuaeth ryngwladol newydd y maen nhw’n son amdani rwan?
Ia, mae hynny yn swnio yn ddifyr iawn. Fe wnes i sôn gynna ein bod eisiau cael mwy o bobl i wylio rygbi ac i chwarae’r gêm yn y gogledd, ond mae hynny yn wir o amgylch y byd. Rydym yn gweld faint o arian sydd yn cael ei fuddsoddi ym mhêl droed o amgylch y byd a faint o arian mae Sky a BT yn dalu er mwyn darlledu gemau. Mae rygbi angen ceisio cael rywbeth tebyg sydd am ddenu buddsoddwyr i’r gêm a chynyddu refeniw yr undebau, ond mae’n rhaid i rygbi fod yn gallu cynnig pecyn deniadol er mwyn gwneud hynny.

Fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae hynny am ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae ‘World Rugby’ wedi gallu gwneud hynny i ryw raddau gyda rygbi 7-bob- ochr a chyfres y byd, ac mae gwledydd sydd ddim yn wledydd rygbi yn draddodiadol wedi tyfu a dod yn llawer mwy cystadleuol, fel Sbaen yn curo Seland Newydd dechrau mis Mawrth yn Vancouver. Fydd llawer hefyd yn cofio canlyniad anhygoel Siapan yn erbyn De Affrica yng Nghwpan y Byd 2015. Siawns fod hyn yn beth da i’r gêm yn y tymor hir? Ond mae angen rhywbeth sydd am dyfu’r gêm a dyma un o’r strategaethau dw i’n meddwl sydd ganddynt i geisio gwneud hynny ar hyn o bryd.

O ran y gêm gymunedol, a dyfodol clybiau lleol fel Bro, pa mor bwysig ydi datblygu rygbi ym mhob oedran, ac ymysg merched hefyd? Sut griw sy’n dod trwodd ar hyn o bryd?
Hanfodol! Does dim clwb heb chwaraewyr yn dod trwodd. Pan ddechreues i chwarae rygbi roedd rhaid i mi fynd i chwarae i glybiau fel Porthmadog a Dolgellau er mwyn cael gemau rheolaidd tu allan i’r ysgol gan nad oedd timau iau yma. Roedd gennym dîm da iawn yn yr ysgol ‘radeg yna ond dim ond dau ohonom gariodd ymlaen rîli i gynrychioli y tîm cyntaf gan ein bod yn mwynhau y gêm ac yn awyddus iawn i ddal ati, ond bydda Bro wedi elwa pe bai eraill wedi cario ymlaen hefyd.

Erbyn hyn mae Bro bach yn mynd o nerth i nerth ac mae criw bychan iawn o wirfoddolwyr, ond criw da iawn yn gweithio’n galed i sicrhau fod rygbi yn cael ei gynnig ym mhob oedran i blant yr ardal. Mae chwaraewyr talentog iawn yno gyda nifer ohonynt yn cael cydnabyddiaeth drwy chwarae i’r rhanbarth. Mae’n bwysig fod hynny yn parhau a bod llif cyson o chwaraewyr yn dod drwodd i chwarae i’r tîm cyntaf/ail dîm.

Mae rygbi merched hefyd yn tyfu ar garlam yma. Eto, criw bychan o wirfoddolwyr angerddol sydd yn rhoi llawer iawn o’u hamser i sicrhau fod merched yn cael chwarae teg a’r cyfle i chwarae’r gêm. Ac mae hynny mor braf i’w weld. Mae rygbi yn gêm i bawb, gêm gynhwysol, a dylai unrhyw un sydd â diddordeb chwarae rygbi gael y cyfle i wneud hynny. Mae’n bechod nad oes gennym dîm merched hŷn yma ar hyn o bryd fel roedd rai blynyddoedd yn ôl. Dyna lle ddechreuodd Jess a da ni gyd wedi gweld faint o lwyddiant mae hi wedi cael wedyn (gyda thalent a gwaith caled wrth gwrs), sydd yn wych. Ond roedd hi’n bwysig fod y cyfle yno iddi, a pwy sydd i ddweud nad oes merch arall yn lleol fedr efelychu llwyddiant Jess? Mae plant ac oedolion talentog iawn yma yn yr ardal ac mae’n bwysig eu bod i gyd yn cael y cyfle i chwarae.

Yn y gorffennol, pan oedd Bro yn cael cyfnod caled, roedd rhai o’r hogia’ yn mynd i glybiau eraill, ac mae’n amhosib gweld bai ar chwaraewyr talentog sydd isio mynd ymlaen i chwarae ar y lefal ucha’ posib,  ond sut mae cadw’r sêr ar y llyfrau?
Unwaith eto, ennill gemau mae’n debyg. Ar hyn o bryd, a gobeithio yn dilyn tymor yma, mae Bro ymysg y clybiau gorau yng Ngogledd Cymru, sydd yn anhygoel o ystyried mai niferoedd isel sydd yn dal i chwarae’r gêm yma o gymharu gyda rhai o glybiau eraill y gogledd. Ar y funud does dim rhaid iddynt fynd i unrhyw glwb arall os ydynt eisiau chwarae ar y lefel uchaf yn y gogledd gan fod y cyfle yma ar eu stepan drws.

Os fyddai Bro yn chwarae mewn cynghrair is, efallai fydd rhai yn edrych i symud clwb, ond gobeithio fod y talent yma i gadw Bro yn yr adran 1 am y blynyddoedd sydd i ddod fel bod y chwaraewyr ifanc sydd yn dod trwodd yn cael yr un cyfle i chwarae yn adran 1. Mae digon o dalent yma i’r tîm aros yn adran 1 a gobeithio bod yr hogia yn benderfynol o gario ymlaen a sicrhau fod hynny yn wir dros y tymor hir, ac os fydd yr hogiau i gyd yn tynnu gyda’u gilydd, does dim rheswm pam na ddylai ennill y gynghrair/cwpanau yma.

Pwy yn y byd rygbi –yn chwaraewyr neu’n hyfforddwyr- ydi dy arwyr di?
O rhan hyfforddwyr, yn amlwg mae Warren Gatland yn un i edrych fyny tuag ato oherwydd y llwyddiant mae o wedi gael. Sir Ian McGeechan yn un arall yn ogystal â Steve Hansen a Graham Henry a’r rôl maent wedi chwarae yn llwyddiant y crysau duon dros y 14 mlynedd diwethaf (a gyda Cymru gynt). Ond i ddewis un, Wayne Smith, cyn is-hyfforddwr Seland Newydd. Dw i wedi darllen dipyn amdano a’i wylio droeon dros y blynyddoedd. Dw i’n hoff iawn o’i weledigaeth o’r gêm a sut mae o yn awyddus i’w dimau chwarae, a sut i fod ar y cae ac oddi ar y cae. Hyfforddwr o’r safon uchaf.

Mae nifer fawr o chwaraewyr ac yn anodd iawn dewis un. Ond dros y blynyddoedd dw i wedi bod yn hoff iawn o wylio chwaraewyr, ac fel un o’r cefnwyr, dw i wedi mwynhau gwylio chwaraewyr fel O’Driscoll, Christian Cullen, Lomu yn amlwg, Andrew Mehrtens, van der Westhuizen, Dan Carter, Scott Gibbs ac yn fwy ddiweddar, chwaraewyr fel Jonathan Davies. Mae nifer fawr o flaenwyr hefyd, megis Richie McCaw, Pocock, Quinell (sydd yn dod i’r clwb fel siaradwr gwadd yn ein cinio blynyddol eleni) ac Alun Wyn Jones. Llawer iawn i ddewis ohonynt!

Mae clybiau fel Harlech a Phormadog wedi cael trafferthion yn ddiweddar; be ydi’r heriau mwyaf wrth redeg clwb? Oes yna gynlluniau eraill i godi pres ar y gweill? Sut fedr bobl gyfrannu?
Mae rhedeg clwb gyda llawer iawn o heriau ac mae nifer fechan o bobl yn brysur iawn ac yn gwneud nifer o dasgau gwahanol i gadw clybiau i fynd. Mae clybiau fel Bro yn ddibynnol ar wirfoddolwyr a does byth digon i gael, boed hynny i fod ar y pwyllgor i rannu syniadau, lleisio barn neu ymgymryd â rôl benodol, i fod yn hyfforddwyr, torri gwair a pharatoi y caeau, i olchi cit a sicrhau fod bwyd ar gael i bawb. Rydym yn lwcus iawn o’r criw bach sydd yma yn gwneud hynny yn ein clwb ni. Ond heb chwaraewyr does dim clwb. Os nad ydy hogiau lleol yn awyddus i chwarae, does dim tîm a fydd Bro ddim yn bodoli, a dyma ydy’r problemau mae Porthmadog a Harlech wedi gael yn ddiweddar, sydd yn drist iawn i ddweud y gwir.

Dw i ddim yn siŵr iawn pam fod nifer iawn o bobl ifanc ddim eisiau dal ati i chwarae pan yn oedolion dyddiau ‘ma, ond mae’n sefyllfa sydd yn achosi pryder mawr i nifer fawr o glybiau, a dw i’n cynnwys Bro yn hynny. Oherwydd amryw o rhesymau gwahanol, mae nifer fawr o chwaraewyr talentog ardal ‘Stiniog wedi penderfynu rhoi’r gorau i chwarae ar ôl chwarae i’r ieuenctid neu yn eu 20au, a dw i’n bryderus iawn o’r patrwm yma dros y blynyddoedd diwethaf. Gobeithio bydd hyn yn gwella a bydd llai o chwaraewyr yn rhoi’r gorau iddi dros y blynyddoedd nesaf oherwydd mae dyfodol Bro yn ddibynnol ar yr hogiau yma yn parhau i chwarae. Dw i yn angerddol tuag at rygbi yma yn Stiniog ac eisiau gweld y clwb yn mynd o nerth i nerth a gobeithio bydd hynny yn parhau i ddigwydd.

O rhan cyfrannu yn ariannol, mae’r ‘tote’ dal i fynd bob dydd Sul ac mae’r arian yma yn cael ei godi i Bro bach a helpu’r adran iau i fedru cario ymlaen y gwaith da ac i barhau i fynd o nerth i nerth.

Diolch yn fawr Ed a phob lwc i ti yn y dyfodol.

PW

(*  'ABC, Y Bysiau a’r Haka Cymraeg', Arthur Thomas, Gwasg Carreg Gwalch 2018) 
----------------------------------

Ymddangosodd fersiwn byrrach yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2019
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Trafod Tictacs'

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon