22.5.19

Ynni Cymunedol Twrog

 Uno’r Fro i ymateb i heriau’r dyfodol. Erthygl o rifyn Ebrill 2019

Gyda Llywodraeth Cymru wedi gosod her “i gynhyrchu 70% o’r trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy, erbyn 2030”, mae aelodau cynghorau cymuned a thref Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd, Gellilydan, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Llanfrothen a Thalsarnau wedi dod ynghyd i ymateb i heriau’r dyfodol i ddatblygu a manteisio ar gyfleon yn y maes ynni adnewyddol. Y nod ydi sicrhau rheolaeth o asedau ynni lleol a pherchnogaeth gymunedol.Enw’r fenter, sydd wedi’i chofrestru fel Cwmni er Budd Cymdeithasol, ydi ‘Ynni Cymunedol Twrog’.

Nod pennaf Ynni Cymunedol Twrog yw manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau naturiol er lles ein cymunedau. Mae’r fenter yn gweld ein hadnoddau lleol, yn enwedig potensial cynlluniau ynni adnewyddol, fel cyfleon i greu cyflogaeth a chyfleon buddsoddi sylweddol. Mae’r aelodau yn rhannu’r un weledigaeth: ‘i sicrhau bod arian ac ynni yn aros yn y gymuned leol ac yn cylchdroi o fewn ein cymunedau er lles y trigolion’


Dywedodd Gareth Thomas, cadeirydd Ynni Cymunedol Twrog:
“Mewn amser ble mae plant y byd yn protestio am y newid hinsawdd fydd eu cenhedlaeth yn wynebu, mae’r fenter yma yn un cyffrous iawn gyda saith o gynghorau cymuned yn cydweithio i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddol fydd yn fodd i ni gyfrannu tuag at sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Hefyd fydd yn ein galluogi i gadw unrhyw fudd economaidd yn lleol. Mae hon yn fenter gan pobl leol er budd pobl leol a'n plant”
Eisoes mae Ynni Cymunedol Twrog wedi bod yn gweithio gyda mentrau lleol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Y Cymoedd Gwyrdd, Cyd-Ynni, EGNIda ac Arloesi Gwynedd Wledig i chwilio am gyfleon i osod paneli solar ar adeiladau, comisiynu strategaeth ynni adnewyddol ar gyfer y Fro - gan drafod gosod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan yn ogystal a gweithio'n agos gyda mentrau eraill megis Ynni Ogwen yn Bethesda i ddysgu a rhannu ymarfer da.

Mae’r fenter hefyd wedi bod mewn trafodaethau lefel uchel gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts a Llywodraeth San Steffan i geisio sicrhau perchnogaeth lleol o Bwerdy Hydro Maentwrog. Pwerdy sy'n medru cynhyrchu 30MW o Ynni Adnewyddol ac sydd wedi cyflenwi tua 4,000 gigawatt i'r grid cenedlaethol dros y 90 mlynedd diwethaf - digon i bweru holl dai Cymru am 6 blynedd.


Yn 2010 cynhyrchwyd astudiaeth gan Cwmni Hyder i Gyngor Gwynedd, Magnox North, yr NDA a Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys y datganiad canlynol:
“Un estyniad posibl i’r cyfleon yma byddai trosglwyddiad posibl gwaith Pŵer Dŵr Maentwrog i ymddiriedolaeth gymunedol, a ragwelir ar gyfer rhyw gyfnod yn y dyfodol, pan fydd y gwaith yn cael ei roi ar werth"
Byddai’r cynllun uchelgeisiol yma yn mynd yn bell tuag at ateb gofynion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod capasiti i gynhyrchu un Gigawatt o ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol erbyn 2030.

Mae Ynni Cymunedol Twrog yn credu bod angen i’n cymunedau fod yn uchelgeisiol ac y byddai sicrhau perchnogaeth o gynllun o’r fath yn codi hyder, creu cyfleon gwaith a sicrwydd bod yr arian sylweddol sydd yn cael ei greu o’n hadnoddau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn ein cymunedau.

I wybod mwy am gynlluniau Ynni Cymunedol Twrog cysylltwch â:
CwmniBro@cwmnibro.cymru / 07799 353 588

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon