30.12.16

Peldroed. 1984 - 1986


Ychydig o hanes y bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).
1984-85
Ymunodd clybiau Bethesda, Llanrwst, Porthmadog, Llanfairpwll a'r Felinheli â'r Gynghrair yn 1984-85, ac fe ataliwyd y Gynghrair Atodol amhoblogaidd rhag blaen.  Ni fu'n dymor gwael iawn i'r Blaenau, ond roedd canlyniadau'r gemau'n anodd eu deall ar brydiau.

Collwyd 3-10 ym Mangor a 2-8 yng Nghonwy - y ddwy gurfa fwyaf a gfodd Stiniog mewn blynyddoedd diweddar.  Wedyn meddylier am y Blaenau'n colli 1-6 adref i'r Felinheli.  Annerbyniol dros ben i'r cefnogwyr oedd colli i Dywyn yng Nghwpan Cymru - a cholli'n drwm ar ben hynny..

Cyrhaeddwyd gêm gyn-derfynol Cwpan Cookson.  Chwaraewyd 28 gêm gynghrair, gan ennill 11 a cholli 12.  Deuddeg gêm fu ganddynt yn y cwpannau, ac ennill pedair ohonynt.  Tynnwyd y chwaraewyr o Arfon yn bennaf, ac yr oeddynt yn cynnwys Terry Smith, Haydn Jones, Chris Rowley, Peter Roberts a Derek Groves.

Y prif sgorwyr oedd Terry Smith (16 gôl) Percy Allen, Huw Jones a Clive Jones.

1985-86
Daw hyn â ni at dymor olaf 'Stiniog.  Roedd y gefnogaeth yn y gemau wedi gostwng yn ofnadwy.  Fel bob amser, ychydig oedd nifer y rhai a weithiai yn ymarferol.

Y patrwm ers blynyddoedd oedd bod pwyllgor niferus yn cael ei ddewis ymhob cyfarfod blynyddol ond llai na hanner rheiny oedd yn gweithredu.  Nid oedd aelodau selog y pwyllgor a'r swyddogion yn gwarafun gweithredu fel lleiafrif bach iawn, ond pan aeth nifer o gefnogwyr a fynychai'r gemau i lawr yn ddifrifol o isel gwelwyd nad oedd pwrpas mewn dal ymlaen ac fe benderfynwyd ymddiswyddo o'r gynghrair a'r cwpannau am dymor, gyda golwg ar weld beth fyddai ymateb y cyhoedd.

Y diwedd a fu oedd i ddatgorffori'r clwb trwy bleidlais yn ffurfiol.  Yn union fel pe byddai rhyw rymusterau ar waith i sicrhau bod rhyw arbenigedd yn nhymor olaf Clwb Pêl-droed Blaenau Ffestiniog bu hynodrwydd ynglŷn ag ystadegau y gemau.

Cyflawnodd y clwb raglen o 30 gêm gynghrair:  enillasant ddeg gêm, collasant ddeg gêm a bu canlyniad cyfartal i'r deg gêm arall.

Yn y Gynghrair gyda hwy y tymor olaf hwnnw oedd Bethesda, Llanrwst, Pwllheli, Caernarfon, Rhyl, Bae Colwyn. Porthmadog, Llandudno, Cargybi, Bangor, Conwy, Mochdre, Felinheli, Rhos a Llanfairpwll.

Yr un nifer o bwyntiau a enillwyd gartref ac oddi cartref.  Yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru collodd Stiniog gartref yn erbyn Llanfairpwll wedi curo Llandudno yn y rownd gyntaf.

Cyrhaeddwyd ffeinal Cwpan Cookson ac enillwyd Cwpan Alves.  Gwyn Hughes oedd y rheolwr.  O gylch Caernarfon y deuai y rhan fwyaf o'r tîm, a'r mwyaf adnabyddus yn eu mysg oedd Ernie Talbot, John Hayes, Joe Smith, Iwan Jones, Paul Roberts, Clive Jones, Steve Owen, Glyn Jones, gyda Glyn Jones a John McLennon o Landudno.

Chwaraewr lleol yn y tîm oedd Paul Crooks.  Y prif sgorwyr oedd John Hughes, Paul Crooks, Iwan Jones a Clive Jones.
------------------------------------------

Nid dyna ddiwedd pêl-droed yn Stiniog wrth gwrs: roedd clwb yr Amaturiaid wedi ei sefydlu ers 1980, er mwyn rhoi mwy o gyfle i hogia lleol gael chwarae.
Hir oes i'r Amaturiaid!
PW

Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2007.

Y tro nesa': pennod olaf atgofion Ernest am hynt a helynt y bêl-droed yn y dref gydag ysgrif ar un o'r chwaraewyr enwocaf a ddaeth o'r Blaenau...
 

28.12.16

Y Chwarelwr

Yn 2005 dadorchuddiwyd plac yn Ngheudyllau Llechi Llechwedd i gofnodi lleoliad ffilmio ‘Y Chwarelwr’.

Wedi araith afaelgar dadorchuddiwyd y plac gan Mr Prys Edwards, mab y diweddar Ifan ab Owen Edwards. Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol am y ffilm a’i harwyddocâd i ni heddiw gan Gwenno Ffrancon, darlithydd yn Adran y Cyfryngau, Coleg y Brifysgol Abertawe:

Y Chwarelwr:  Llechwedd 2/9/05
Heb os nac oni bai, Y Chwarelwr yw un o brif drysorau ffilm Cymru.  Dyma’r ffilm Gymraeg ei hiaith gyntaf erioed.  Penseiri’r ffilm oedd Ifan ab Owen Edwards – un o brif gymwynaswyr Cymru, a John Ellis Williams – nofelydd, newyddiadurwr a dramodydd.  Aeth y ddau yma ati yn ystod Ebrill 1935 gyda rhai o drigolion Stiniog i ffilmio bywyd a gwaith chwarelwr nodweddiadol – saithdeg mlynedd yn ôl, cofiwch.


Un o brif amcanion Syr Ifan a J.E. wrth lunio Y Chwarelwr oedd tynnu sylw at ganlyniadau enbydus llu o ffactorau ar yr iaith a’r diwylliant Cymraeg; ffactorau a oedd yn cynnwys y diwydiant twristiaeth, y wasg a’r cyfryngau a chynnydd yn y defnydd o fysiau, trenau a cheir. 

Roedd yn fwriad gan y ddau hefyd i geisio diogelu peth o’r hyn a oedd yn weddill o’r etifeddiaeth Gymreig ar ffilm. 

Disgrifiodd Syr Ifan eu hamcanion fel hyn yn Y Cymro:

"Rhan o’n hymdrech i (gadw Cymru) yn wir Gymreig yw’r ymdrech hon, yn wyneb anawsterau enbyd, i greu darluniau llafar Cymraeg, canys gwyddom yn bendant, heb os yn ein credo, mai ein dyletswydd fel byd-ddinasyddion ydyw cadw Cymru yn bur ei delfrydau yn yr argyfwng enbyd y mae’r byd ynddo".

Roedd Syr Ifan, cyfarwyddwr a dyn camera Y Chwarelwr, wedi hen arfer creu ffilmiau erbyn 1935 gan ei fod ers rhai blynyddoedd wedi bod yn ffilmio rhai o ddigwyddiadau Urdd Gobaith Cymru, er enghraifft y mordeithiau, y mabolgampau a’r eisteddfodau.  Ond erbyn 1935, roedd y gŵr blaengar ac anturus hwn yn torri’i fol isho cael mentro i fyd y talkies, gan fynd ati i sirioli rhyw gymaint ar fywyd y Cymry Cymraeg trwy lunio adloniant ar eu cyfer yn eu hiaith eu hunain.  Meddai yn y Western Mail ym 1935:  ‘In its attempt to help the Welsh language to counter the innumerable difficulties which it has to meet in a modern world the Urdd has adopted modern methods.’

Mae stori’r ffilm, yn syml iawn, yn cylchdroi o gwmpas cyfnod tyngedfennol yn hanes un teulu chwarelyddol, sef tad a mam, Wil y mab hynaf, Robin y mab ieuengaf ac un ferch, Nesta.  Mae bywyd dyddiol y teulu yn cael ei ddarlunio – y tad yn greigiwr tanddaear yn y chwarel, y mab hynaf yn naddwr, y fam yn wraig tŷ bodlon ei byd, a’r ddau blentyn arall yn ddisgyblion ysgol. 

Ond yna mae dedwyddwch a sicrwydd y teulu yn cael ei ddinistrio wrth i’r tad farw’n sydyn gan daflu’r teulu i stad o ansefydlogrwydd a gofid.  Daw’r ffilm i ben gyda’r ddau fab yn aberthu eu dyfodol er mwyn cynnal ei fam a’i chwaer, ac mae Robin yn gadael yr Ysgol Ganol ac yn dechrau gweithio yn y chwarel er mwyn i’w chwaer iau, sy’n ddisgybl disglair iawn, allu cwblhau ei haddysg.

Roedd hon yn stori ddigon credadwy i drigolion yr ardaloedd chwarelyddol ar y pryd; fel y gwyddoch chi, dwi’n siŵr, roedd cael plentyn, chwaer neu frawd galluog yn destun balchder mawr ymhlith teuluoedd, ac roedd disgwyl i aelodau eraill y teulu aberthu er mwyn iddo ef neu hi ddod ymlaen yn y byd. 

Roedd John Ellis Williams, awdur y sgript, wedi taro ar stori a oedd yn sicr o apelio at gynulleidfaoedd – stori afaelgar ac iddi arwyr, elfen o serch, trasiedi ac aberth.  At hynny, roedd y ffilm yn ymdrechu i lunio darlun gonest o fywyd chwarelwr o Gymro yn y cyfnod hwnnw, darlun y gallai llawer uniaethu ag ef. 

Darlunio bywyd y chwarelwr yr oedd J.E. a Syr Ifan yn gwybod amdano a wnaeth y ddau, gan ddangos uwchlaw pob dim ymlyniad y chwarelwr nodweddiadol wrth ei deulu, ei addysg, ei gapel, ei grefft, ei ddiwylliant a’i fro.

Milltir sgwâr J.E. ar y pryd a ddewiswyd fel lleoliad ar gyfer y ffilmio sef Blaenau Ffestiniog ac aelodau o’i gwmni drama annibynnol ef a gastiwyd ym mhrif rannau’r ffilm.  O ganlyniad, fe welwch chi yn amlwg yn y ffilm nifer o gymeriadau lleol Stiniog; unigolion fel Robert Jones, chwarelwr yma yn chwarel Llechwedd, yn chwarae rhan y tad a Mrs R. A. Jones yn chwarae rhan y fam.  William David Jones a weithiai yn Chwarel Maenofferen oedd yn rhan Wil, y mab hynaf; David Owen Jones, plentyn amddifad un ar bymtheg mlwydd oed a weithiai yn Chwarel Oakeley, fel Robin; a Haf Gwilym, merch John Ellis Williams ei hun a ddewiswyd i chwarae rhan Nesta y ferch, gyda’i labrador du, Siani, i chwarae rhan y ci! 

Ceir cipolwg hefyd yn y ffilm ar rai o gymeriadau blaenllaw’r ardal, gan gynnwys Ap Alun Mabon, bardd adnabyddus, ac Owen Hughes, argraffydd yn y dref, y ddau yn ymddangos yng ngolygfa Eisteddfod Caban Bwyta’r chwarel.

Ond erbyn heddiw, prif swyn Y Chwarelwr yn ddi-os, yw’r darluniau o’r chwarelwyr yn ‘cowjio bywoliaeth’ o’r mynyddoedd creithiog.  Mae’n nhw’n ddarluniau cwbl cyfareddol, sy’n dogfennu, efallai’n ddiarwybod i’r ddau gynhyrchydd ar y pryd, arferiad sydd wedi hen beidio mwyach.  Ymhlith y golygfeydd hyn mae ‘na olygfa o ddynion yn cael eu gollwng gan fws yn yr Adwy Goch yn Stiniog cyn iddyn nhw ymuno â’u cydweithwyr sy’n cerdded i gyfeiriad y chwarel.

Mae sawl hen gludydd gwaith yn cael ei gofnodi hefyd yn y ffilm, er enghraifft y trwnc a oedd yn cludo dynion a cheffylau i waelod ogof danddaearol Chwarel Oakeley.  Dau gludydd arall a anfarwolwyd yn y ffilm yw’r locomotif ‘kidbrooke’ a oedd hefyd yn chwarel Oakeley, a’r car gwyllt a wibiai’n arswydus o gyflym ar hyd llethrau chwarel y Graig Ddu. 

Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch chi, darn cul o bren ac olwynion bychain arno oedd y car gwyllt ac fe’i crewyd gyda’r bwriad o arbed y chwarelwyr rhag taith gerdded hir i lawr o ben y mynydd.  Ond dim ond brêc simsan iawn oedd yn cadw unrhyw chwarelwr a gâi bas ar ei gefn rhag mynd ar ei ben i fedd cynnar!  Ond yn ogystal â chynnwys darluniau o waith caled a pheryglus y chwarelwr, mae’r ffilm yn rhoi sylw i’r gymdeithas glos a diwylliedig a oedd yn bodoli ymysg y chwarelwyr, ac yn bennaf eu harfer o gynnal eisteddfod yn y caban bwyta.

Y mae Y Chwarelwr yn garreg filltir arbennig iawn yn hanes ffilm Cymru ac yn drysor unigryw yng nghasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.  Wrth gloi fe hoffwn i ddiolch i’r Archif am fwrw ati i adfer y ffilm hon fel y gall fod, yn ôl dymuniad y creuwyr, yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o sgriptwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau Cymraeg. 

Gan obeithio, hefyd, y down ni o hyd i’r rîl olaf sy’n parhau ar goll!  Ond heddiw, wrth gwrs, y mae ein diolch i Chwarel y Llechwedd a Chomisiwn Sgrin Cymru am sicrhau body yma gofeb weladwy i’r gymwynas fawr hon a wnaed â’r genedl gan Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams.

Gwenno Ffrancon.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2005

 MWY am hanes y ffilm.

26.12.16

Meistri Corn

Seindorf yr Oakeley yn y 1920au.

Mewn ymateb i’r llun difyr o seindorf yr Oakeley, a anfonwyd i ni gan Glynne Griffiths, Ross on Wye, cafwyd ysgrif ddiddorol dros ben gan Bob Morgan, cyn-arweinydd adnabyddus y band.


Credaf fod y darlun o Fand yr Oakeley wedi ei dynnu cyn 1930.  Mae fy nhad Dafydd Morgan yn eistedd yn y rheng flaen hefo’r bass trombone, a mi ‘roedd yn Utica (UDA) o 1927 hyd 1931, fel mae’n debyg mai rhwng 1923 a 1927 oedd y cyfnod mae ein cyfaill yn son amdano.  R’wyf yn adnabod amryw o’r chwaraewyr gan i mi hefyd ymuno a’r band ar ddiwedd 1931.

Yn eistedd ar lawr mae John Roberts ‘Shine’ fel ag 'roedd pawb yn ei adnabod – a’r llall ydi Dennis Griffiths, a ffurfiodd y ‘Night Hawks’  (Cerddorfa Ddawns) cyn iddynt newid i ‘New Majestic’ dan ofal Bob Gwynant.  Mae tad Shine yn eistedd y tu ôl iddo yn y rheng flaen – hefo’r trombone, yr ail trombone ydi Ernie Brown o Llan, a yna Dafydd Morgan ar y bass trombone.

Wm Edward Jones (drwmar) sydd yn ei ochr hefo’r bass, ac yn y pen mae Dan Jones (brawd Jack Pant – tad Gruffydd John Postman).  William Richard Edwards (tad Dora Edwards) oedd yr arweinydd hefo Bob Smith wrth ei ochr.  Hwn, i raddau helaeth oedd y band ennillodd 2 wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Wyddgrug 1923.

Yn y rheng ganol gwelwn Tal Morris, Wil bach Band, Dick (Hen Golwyn), Llew Dolwyddelan, Owen Owen, Dick Meirion (hwn oedd yn chwaraewr flugel da, er nad oedd ganddo ddant yn ei geg!) – yna Albert Humphreys Penrhyn, Jonny Lloyd Smith (tad Oms), Robin John Morgan (tad Kathleen Glynllifon), Jack Daf (tad Alwena Davies – teulu Derfel) a’r dyn tal yn y pen ydi ‘Jack Rich’ Gorwel.  Y tu ôl mae Capt Lewis Davies, perchennog y papur lleol ‘Y Gloch’ a hefyd yr ‘Empire’ lle mae’r hen Glwb Squash heddiw.

Darlun diddorol iawn – un nad wyf wedi ei weld o’r blaen – ond yn anffodus r’wyf methu a chofio Glynne gan ei fod yn y band yn y cyfnod cyn i ni fel teulu fynd i Utica – ond 7 oed y pryd hynny.

Daw hanes diddorol i fy meddwl am Owen Thomas (Now Barbar) sydd yn eistedd yn y rheng flaen hefo’r dwbl B.  Hwn oedd rheolwr chwarel ‘Rhiwbach’ ac 'roedd wedi rhoi gwaith i Dennis Lewis Griffiths a Bob Gwynant.  Wrth gwrs gan i’r ddau fod yn perthyn i’r ‘Night Hawks’ 'roeddynt yn colli ymarferiadau yr Oakeley ac yn hwyr i’w gwaith yn y bore, ar ôl bod yn chwarae mewn dawns yn rhywle neu gilydd.

Un bore wedi cyrraedd eu gwaith yn hwyr dyma Now Barbar yn gofyn iddynt pam oeddynt yn hwyr, a’r atebiad oedd eu bod wedi bod yn perfformio gyda’r ‘Night Hawkes’, atebodd yn syth, “Wel, Day Hawkes ‘rydw i eisiau” a rhoi y sac iddynt yn y fan.  Yn anffodus 'roedd yn golled i’r band hefyd!!
----------------------------

Roedd y llythyr isod yn yr un rhifyn hefyd.

Llangefni, Ynys Môn.
Annwyl Olygydd,

Cyfeiriaf at yr argraffiad olaf o Llafar Bro, a’r llun diddorol iawn o Fand yr Oakeley.  Wrth edrych  ar y llun ‘rwyf yn hollol sicr mae’r arweinydd yn y rhes gyntaf yw fy nhaid William Richard Edwards  (Cyfeirir ato yn yr erthygl fel William Richards).

Roedd yn arweinydd y band mwy neu lai o 1897 i 1927 – y flwyddyn a fu farw.  Tybiaf felly fod y llun wedi ei gymeryd o gwmpas 1920-25?

Hoffwn ddiolch i Glynne Griffiths am adael i mi ychwanegu llun arall at archifau’r teulu.  Edrychaf ymlaen i weld nifer o hen ffrindiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sydd yma y flwyddyn nesaf.

Yn gywir iawn,
Trefor Edwards

----------------------------------------------------

Erthygl Glynne Griffiths

--------------------------------------------------
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1998.



24.12.16

Stolpia -Hosan Nadolig

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Fel yr amrywiaeth o bethau a geid yn yr hen hosan Nadolig gynt, dyma gynnwys y golofn y tro hwn. Dechreuaf gyndag un neu ddau o gofnodion difyr a darewais arnynt wrth chwilio am hanes ein tref a’n hardal yn y dyddiau a fu.

Y Goeden Nadolig
Gan ei bod hi’n nesau at y Nadolig efallai bydd y nodyn hwn o ddiddordeb.

Ym mis Ionawr 1861 cafwyd te parti yn Ysgol Genedlaethol Llan Ffestiniog a mwynhaodd y plant eu hunain yn iawn. Roedd coeden Nadolig wedi ei gosod yn yr ystafell gydag anrhegion o bob math arni hi. Bum yn meddwl, tybed pa bryd y daeth y goeden Nadolig gyntaf i’n hardal?

Yn ôl pob sôn, ni ddaeth gosod coeden Nadolig yn y tŷ yn beth poblogiadd iawn tan ar ôl yr 1850au, ac felly, nid oedd ‘Stiniog ymhell iawn ar ôl y ffasiwn gyda hyn o beth.

Seintiau
Yn ddiweddar iawn deuthum ar draws hanes Seintiau y Dyddiau Diweddaf (sef y Mormoniaid) yn cynnal cyfarfodydd crefyddol ym mhlwyf Ffestiniog yn yr 1840au. Dyma frasgyfieithiad o un adroddiad a ymddangosodd mewn papur newydd Saesneg am Fehefin 1846:
Yn ddiweddar, ymwelodd gwr o Dde Cymru a berthynai i Seintiau y Dyddiau Diweddaf ag ardal Ffestiniog. Dydd Sadwrn anerchodd dorf luosog yn y stryd yn Ffestiniog. Yna, bore Sul aeth draw at y chwareli, ac am hanner awr wedi pedwar bu’n siarad am oddeutu awr.
Deallaf bod amryw o drigolion ein plwyf wedi ymuno â’r Mormoniaid yn ystod y cyfnod hwn. Byddai’n ddiddorol cael clywed mwy o’u hanes, oni byddai? Oes un ohonoch ag ychydig o’u hanes yn yr ardaloedd hyn?


Lliain ‘molchi gwyneb
Y mae’n rhyfedd fel y mae prinder geiriau am rai pethau yn y Gymraeg, a dewis da am ambell beth arall. Holais amryw o gyfeillion a chydweithwyr yn ddiweddar beth yw eu henw nhw ar y lliain bach a ddefnyddir i ymolchi’r wyneb.

Yr enw a ddefnyddiaf fi arno yr ‘bretyn gwlanen’. Y mae’n amlwg fod nifer o enwau eraill arno yng Ngwynedd,  hefyd. Dyma rai o’r atebion a dderbyniais: cadach ymolchi … cadach gwlanen … gwlanen fach …gwwlanen ymolchi … clwt ymolchi. Tybed a oes gennych chi enw gwahanol arno?


Arlunydd o’r Manod
Beth amser yn ôl, pan oeddwn yn taflu golwg ar dudalennau’r Herald Cymraeg am Ionawr 19, 1926 deuthum ar draws enw David R. Hughes, arlunydd o’r Manod. Dyma’r tro cyntaf imi ddod ar draws ei enw ef. Tybed a ŵyr un o’r darllenwyr rywfaint o’i hanes ac ambell enghraifft o’i luniau, efallai?


Wel, dyna ni flwyddyn arall bron a chyrraedd ei therfyn, a rhag ofn imi anghofio a dweud:

NADOLIG LLAWEN I CHI I GYD!



Addasiad o erthygl amddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2005.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


[Lluniau -Paul W] 

22.12.16

Ddoe a heddiw: Atgofion am Gwm Prysor

Erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1987, gan Blodwen Jones

Fe’m ganwyd yn Darn Gae, Cwm Prysor yn y flwyddyn 1907 yn un o saith o blant.  Fferm oedd fy nghartref tua phedair milltir o’r pentref.  Doedd dim ond ceffyl a throl neu gerdded i bob man y dyddiau hynny.  Plaen iawn oedd y cartref.  Bwyd plaen cartre’ oedd ar y bwrdd bob amser ond popeth yn dda iawn.  Byddai fy mam yn corddi, felly roedd menyn cartre’ a llaeth enwyn bob amser ar y bwrdd.  Hefyd byddai’n pobi bara gwyn a bara ceirch.

Mawn a fyddai gennym yn danwydd a byddai crochan yn hongian uwchben y tan i wneud uwd neu lymru.  Gwisgem sana gwlân cartre’ yn y gaeaf, ac esgidiau lledr gyda chria lledr hefyd, a hoelion dan y gwadna’.

Doedd dim teganau gennym fel plant heddiw.  Aem gyda’n rhieni i’r capel ar y Sul i’r pentref.  Roedd capel yng Nghwm Prysor hefyd ac os gofynnai rhywun i’m rhieni pam mynd i’r pentref, yr ateb fyddai, ‘Rhaid pasio’r pistyll i’r ffynnon i gael dŵr glan’.

Edrych i lawr i Gwm Prysor o wely'r rheilffordd ym mlaen y Cwm. llun Paul W.

Cofiaf un nos Sul mynd i’r capel a’r newydd gawsom oedd bod Rhyfel Mawr 1914 wedi torri allan; ac roeddynt yn galw’r milwyr o’r gwersyll a oedd ger Rhiwgoch.

Trwy ein bod gryn bellter o’r Traws a’r ysgol ddyddiol rhaid oedd aros yn y pentref o fore Llun tan ddydd Gwener. Gyda gwraig weddw a’i merch Lowri y byddem yn aros ac er inni gael pob tegwch byddem yn falch iawn o weld nos Wener yn dod er mwyn cael mynd adref.

Gan ein bod yn byw ger afon Prysor, doedd yr un diwrnod yn mynd heibio yn yr haf heb inni fynd i sgota dwylo, neu hel llus yn y Garn, hel cnau ac eistedd yn y fan a’u torri efo carreg. Byddem yn helpu hefyd efo’r gwair, 'nôl y ceffylau a’u reidio at y tŷ heb na ffrwyn na dim yn eu pennau. Car llusg a fyddai gennym yn cario gwair. Doedd dim son am dractor yn y dyddiau hynny.

Nid oedd golau trydan chwaith, ond lamp olew annwyl a channwyll frwyn.  Byddwn wrth fy modd yn gwylio fy mam yn gwneud y canhwyllau.  Byddai rhaid casglu’r pabwyr yn gyntaf, plisgio wedyn a gadael rhyw un plisgyn heb ei bilio.  Wedyn twymo saim dafad mewn padell uwchben y tan, ac yna trochi’r canhwylla’ bob yn un yn y saim a’u hongian i sychu. Byddai fy nhad yn darllen llawer yng ngolau’r gannwyll frwyn.
--------------------------------------

Yn ogystal â rhifyn Medi '87, ymddangosodd yr erthygl yn llyfr ‘Pigion Llafar 1975-1999’ ac wedyn yn rhifyn Tachwedd 2016, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.