30.1.21

Cyfarchion 500

Rhai o'r cyfarchion a gyrhaeddodd i nodi ein carreg filltir ddiweddar.

Dathlu’r 500

Mae gan Fro Ffestiniog yr holl adnoddau angenrheidiol i greu swyddi a chyfleon, ond mae’r ardal yn cael ei adael i lawr oherwydd diffyg buddsoddiad, yn ôl Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y Senedd yn etholiadau mis Mai 2021.

Mae Mabon ap Gwynfor yn gredwr cryf mewn grymuso cymunedau, gan ddweud mai ein cymunedau sydd yn gwybod yr hyn sydd orau iddynt. Dywedodd fod llawer o’r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn ardal Ffestiniog yn arfer da y gallai llawer o gymunedau eraill ar draws Cymru a thu hwnt elwa ohono.

Meddai: “Mae'r ardal yn gyforiog o gyfoeth naturiol, a dylai'r cyfoeth yma elwa pobl yr ardal hon, ond yn anffodus mae'r drefn bresennol yn golygu fod y cyfoeth yma'n cael eu sugno allan o'r ardal. Rhaid newid hynny a sicrhau fod ein hadnoddau ni yn ein dwylo ni, er budd ein cymunedau ni.

"Mae hanes yr ardal hon wedi dangos fod gan bobl Ffestiniog a’r cylch agwedd iach a chadarnhaol tuag at weithredu dros eu cymunedau. Nid yw pobl yma'n aros i eraill wneud rhywbeth drostyn nhw, ond yn hytrach maent yn mynd ati i weld sut fedran nhw wella pethau eu hun. Dyna’n sicr yr hyn yr ydym yn ei weld gan gyrff megis Antur Stiniog, Y Dref Werdd, a Seren, er enghraifft."

Rhoddodd Mabon ap Gwynfor deyrnged arbennig i griw Llafar Bro: 

“Mae Llafar Bro yn enghraifft wych o bobl yn dod at eu gilydd er mwyn sicrhau fod gwybodaeth yn cael ei rannu i drigolion cymunedau’r ardal hon. Llafur cariad ydy’r gwaith yma, ond mae’n gariad at bobl a bro. Mae’n agwedd iach ac yn un i’w feithrin. Mae’n rhaid llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r papur bro. Mae cyrraedd 500 o rifynnau yn gamp aruthrol.

“Mae gan yr ardal hon lawer o wersi i’w cynnig i eraill, yn enwedig Llywodraeth Cymru. Nid rôl y Llywodraeth ydy dweud wrth ein cymunedau sut i weithredu, gan wneud hynny o bell, ond yn hytrach eu rôl ddylai fod i rymuso a chynorthwyo ein cymunedau a sicrhau fod ganddynt y buddsoddiad angenrheidiol er mwyn ffynni. Rwy’n gobeithio y caf y cyfle i fod yn rhan o hynny a chwarae fy rhan yn y broses o rymuso yr ardal odidog hon.”

----------------

 Ymlaen!

Hoffwn longyfarch ein papur bro hoff, Llafar Bro, ar gyrraedd y 500fed rhifyn – clodfawr yn wir. Rwyf
hefyd am didolch i’r gwirfoddolwyr ffyddlon, ers 1975, fu’n gofalu fod 11 copi y flwyddyn ar gael ar
hyd y blynyddoedd. Hoffwn ddiolch o waelod calon am y fraint a’r boddhad o fod yn rhan o’r tîm.

Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, dioch i Geraint am fy mherswadio i ofalu am newyddion Llan, a minnau’n di-hyder iawn. Dwi ddim yn cofio pryd y dechreuais – ond nid mor bell yn ôl a 1975! Rwyf
wedi mwyhau, ac er cymaint pwysau eraill ar adegau dros y blynyddoedd, roedd bob amser gyfle
ar gael i sgwennu hanes Llan. Ymlaen, gyda gwerthiant yn cynyddu (cofiwch gefnogi a chael eraill i gefnogi ‘Llafar’) a phob dymuniad da am flynyddoedd i ddod.
Yn gywir,
Nesta
--
 

500fed Rhifyn


A Llafar Bro ar fin cynhoeddi,
Ei bum-canfed rhifyn eleni,
45 o flynyddoedd o hanes,
Mae wedi bod yn dipyn o sialens!


Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan,
I gadw gymdogion Ffestiniog ar y lan,
O dudalennau du a gwyn,
I lyfryn lliwgar erbyn hyn!


Llawer o storiau a hanes difyr sydd wedi bod,
A llawer mwy gobeithio i ddod!
Felly cefnogwch Llafar Bro, eich papur lleol,
Gan obeithio wedyn neith byth ymddeol!


Eirian Daniels Williams
--
 

Llongyfarchiadau
Yr ydym ni yng Nghymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn falch iawn i ddathlu'r ffaith bod Llafar Bro yn cyrraedd carreg filltir arbennig iawn yn ei hanes.

Y mae Llafar Bro yn darparu cyfrwng unigryw i ni i rannu gwybodaeth am ein cyfarfodydd ac i adrodd am ein gweithgareddau a'n cyhoeddiadau. Ymwybyddiaeth o hanes ydyw un o'r elfennau allweddol sy'n ein clymu fel cymdeithas ac fe wnaiff Llafar Bro lawer iawn i hyrwyddo hynny -gyda'i cholofnwyr diddorol a hefyd drwy'r ymateb a welir yn aml yn yr adran Llythyrau.

Yn dilyn yn Cyfnod Clo hwn, bydd rôl bwysicach nac erioed i Llafar Bro. Pob llwyddiant i'r dyfodol.
Gareth T. Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
--
 


Ar ran Cyngor Tref Ffestiniog
Hoffwn longyfarch pwyllgor Llafar Bro am gyrraedd ei 500fed rhifyn. Diolch i chi gyd am eich gwaith caled ar hyd y blynyddoedd a phob llwyddiant i’r dyfodol.
Glyn Daniels, Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog.

 --

Pob Lwc!

Ysgrifennaf atoch i longyfarch Llafar Bro ar gyrraedd ei 500fed rhifyn. Mi wnes i ddod i wybod am hyn ar raglen Heno ar 14/12/20, felly hoffwn ddymuno pob lwc i Llafar Bro yn y dyfodol ar ran
holl drigolion y Blaenau.

Yr eiddoch yn gywir
Rhian Jones

--------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020.

(Ag eithrio'r olaf, oedd yn rhifyn Ionawr 2021)

 Llun- Tecwyn V Jones


27.1.21

Iaith Stiniog -geiriau'r cartref

Tro yn ôl i’n tŷ ni – pennod arall o gyfres Bruce Griffiths 

Prociwyd fi gan y sylwadau difyr ar ‘Iaith Stiniog’ i hel atgofion am eiriau a gofiaf o’m plentyndod. Daliwch ati! Peth a’m trawodd erbyn hyn: fel y bydd yr oes, y ffordd o fyw, yn newid, felly hefyd iaith lafar ardal. Yn ôl â fi i’m cartref cyntaf, sef 101 Heol Wynne, fel yr oedd felly o 1940 hyd 1958. 

Pa faint ohonoch a fyddai heddiw, yn ’nabod ei gynnwys, a’n henwau ni arnyn nhw? Yr oedd yn dŷ fymryn yn well na thyddynnod hŷn y dref, ond nid oedd iddo garej ar gyfer car bach (dyna a ddywedid; ni chlywais erioed sôn am ‘gar mawr’). Gias (nid ‘nwy’) oedd yn ei oleuo, yn y parlwr (nid lolfa) a’r gegin - nid lle i goginio rhyw lawer, ond ystafell fyw heddiw. 

Math o gwt brics a tho sinc oedd y gegin fach lle gwneid y cwcio. Tân glo a dwymai’r gegin a’r parlwr, a gias a’u goleuai. Nid oedd dim i oleuo na thwymo’r tair llofft. Aem i’r ciando (!) efo cannwyll neu lamp oel lamp (= paraffîn) - arferiad digon peryglus. Nid oedd letrig gennym, a byddai’r weiarles yn dibynnu ar fatri sych, batri gwlyb a ‘grid bias’! (Cofiaf Jac Sam, prifathro Ysgol Bechgyn Maenofferen, yn adrodd droeon hanes y weiarles cyntaf yn ’Stiniog, a phobl yn tyrru yno i’w glywed mewn syndod.) 

 

’Doedd dim sôn am deledu wrth gwrs. Gwael iawn oedd derbyniad radio ar y pryd. Cofiaf wrando ar Noson Lawen, a dotio ar Gymraeg digrif ac annealladwy’r Co Bach o Gnafron, ac ar Welsh Rarebit, yn bennaf oherwydd y deuai honno i ben gyda We’ll keep a welcome in the hillsides, cân yn cynnwys yr addewid ‘We’ll kiss away each hour of  hiraeth,’ - yr unig air o Gymraeg yn y rhaglen. Yn y pumdegau gallwn glywed Radio Luxembourg os gwasgwn fy nghlust ar un pen i’r set ei hun, i glywed caneuon pop wrth gwrs, ond yn bennaf i glywed anturiaethau Dan Dare a’r Mekon, arwyr y comig yr Eagle, ar y blaned Gwener, am chwarter i saith bob nos. 

 

O’r diwedd daeth cwmni’r Red Dragon Radio Relay i godi clamp o fast ar ben y mynydd i godi darllediadau a’u hailgyfeirio i lawr i’r dref - am swllt a naw yr wythnos. Deuai Dic Wan a Nain o gwmpas i gasglu’r tâl. Ni allem ni ei fforddio. Ni welais i deledu tan 1960, yng Ngholeg Iesu.
 

Pan gawsom letrig, tua 1948, rhaid oedd rhoi swllt bach (= pisyn swllt) yn y mitar, yn lle’r geiniog a roddem ar gyfer y gias. Ys gwn i ba faint o bobol ifync heddiw a ŵyr beth ydy’ ‘swllt’, ‘ceiniog’, ‘dimai’, ‘ffyrling’, ‘pisyn tair’, ‘chwechyn’, ‘papur chweugain’, ‘papur punt’ a ’hanner coron’? Cedwid ‘pisiau tair gwyn’ i’w rhoi yn ein pwdin ’Dolig. Clywid ambell un yn dweud ‘’Does genni’r un hatling ar f’elw’ er na welid hatling bellach, a soniai fy nhaid am ‘goron’ a ‘sofran’: yn wir mae brith gof gennyf o weld ychydig sofrenni a gadwasai. Yr oedd rhai darnau copor hynafol iawn yn dal i gylchredeg - cofiaf, unwaith neu ddwy, weld un o geiniogau trwchus William IV - Banc Lloegr heb ei sbotio, mae'n rhaid!
 

Dyna fi’n crwydro eto! Yn ôl i’m hen gartref! Yn y gegin fach ceid slopston (= sinc), math o gawg mawr sgwâr fel petai wedi ei wneud o goncrid. Hefyd, boeler i olchi dillad, a thân glo bychan oddi tano i’w dwymo. Yno ceid y stof gias, a’r unig feis (= tap) yn y tŷ, gan nad oedd bathrwm gennym .Nid oedd ‘oergell’ nac ‘oergist/rhewgell’, felly ni ellid cadw cig na physgod fwy na rhyw ddeuddydd. Nid yn y parlwr y byddem yn byw fel arfer, lle oedd i gadw ein dodrefn gorau ac i groesawu pobol ddiarth. Yn y haf mudem o’r gegin dywyll i’r parlwr, a byddid yn ei drimio ar gyfer y ’Dolig. Ar gefn un drws dangosai fy mam wialen fedw imi, eiddo fy nhaid, ond ni chefais i erioed fy nghosbi! 

Tân glo a dwymai ein cegin, gydag uffarn oddi tano i ddal y lludw, (a lle ceid ‘pryfed lludw’ weithiau) a jac mwg dros safn y simnai, er mwyn rheoli’r drafft i gynnal y tân - (nid ‘chimney cowl’, sef yr unig ystyr a geir yng Ngeiriadur y Brifysgol, ond dalen fawr o fetal oedd, a dwrn arno). O bryd i’w gilydd, pan na fyddai’r tân yn tynnu’n iawn, byddai mam yn stwffio hen bapurach i fyny’r simnai, cyn ei roi ar dân: peth peryglus a chroes i’r gyfraith, ond rhatach na thalu dyn llnau simnai - a gwelid cwmwl o fwg yn codi o simnai sawl tŷ arall arall o bryd i’w gilydd. 

Pa ystafell arall? Anghofiais am y siambar sorri, lle byddai fy chwaer fach yn mynd i grio ac i sorri yn y gornel y tu ôl i’r drws ffrynt! Hefyd, y sbens (neu sbensh yn ôl rhai) lle cedwid ein nialwch; nid oedd atig gennym. Mewn ardaloedd eraill, mi glywch cwtsh dan stâr. Byddem ni blant Maenfferam yn tyrmentio (herian) plant Tanygrisiau eu bod yn byw mewn sbens o le. Dyna ddigywilydd ynte! (Byddai pobl Tanygrisiau yn galw ardal y Manod ‘yr ochor draw’!) Daeth sbens o dafodiaith gogledd Lloegr, enw math o gwpwrdd: mae’r un elfen yn dispensary. A dyna landars neu landeri tŷ: o’r Saesneg eto, ac yn perthyn i laundry: lle mae llawer o ddŵr yn llifo (lle megis ’Stiniog!)
 

Allan â mi i’r ardd gefn! Yn y pen draw, yr oedd y cwt glo, y drws nesaf i’r closad. Clywais enwau eraill arno: tŷ bach, ’rhows bach, lle chwech: tebyg y gwyddoch chi am eraill! (Yma, ar y cei yn Abercegin (sef ‘Port Penrhyn’ y Saeson), y mae, neu fe fyddai, ‘lle chwech’ go iawn - sef lle i chwech o chwarelwyr eistedd ochr yn ochr! - nid, felly, lle yr oedd yn rhaid talu chwecheiniog i fynd iddo!) Holwch yn Siop yr Hen Bost am North Wales Privies a Privies of Wales, gan y diweddar Barch J.Aelwyn Roberts, gŵr o ’Stiniog.
 

’Ta waeth! Saif fy hen gartref o hyd. Mae’n siwr gennyf i ei fod mor fodern â thŷ unrhyw gymydog. Gyda lwc, cewch air (yn hytrach eiriau) gennyf rywbryd eto. Da bo ichi bawb, a hir oes i Lafar Bro!

---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Iaith Stiniog isod; mae erthyglau eraill am eiriau a dywediadau lleol dan y ddolen Geiriau Coll. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid i choi ddewis 'web view' er mwyn gweld y dolenni)


23.1.21

Papur o fri - papur y Fro!

Roedd colofn Iwan Morgan -Rhod y Rhigymwr- yn cynnwys cyfarchion barddonol i nodi 500fed rhifyn Llafar Bro.

Mae’n rhyfedd meddwl fod naw mlynedd wedi mynd heibio er pan oedden ni’n dathlu cyhoeddi 400fed rhifyn Llafar Bro. Yn Hydref 2011, ehedodd fy meddwl yn ôl i’r dyddiau pan fum yn golygu’r papur dros gyfnod o ddwy flynedd … i’r dyddiau pan oedd siswrn a glud ‘Pritt-Stick’ yn allweddol. Cofiaf fel y byddai’r diweddar Trefor Wood a minnau ar fwrdd y gegin yma’n ceisio cael rhyw erthygl neu lun i ffitio, ac fel y deuai ambell reg o’r genau os na fyddai rhywbeth yn syrthio i’w le fel y dylai. Cafwyd llawer o hwyl drwy’r cyfan oll, a boddhad o weld y papur yn cyrraedd ein cartrefi yn ei ffurf derfynol. 


Dyma fel y ceisiais grynhoi’r profiad:
Ar achlysur cyhoeddi 400fed rhifyn ‘Llafar Bro’ … Hydref 2011


     ‘Rôl byd y ‘torri a’r gludo’ - a welwyd
      ers talwm, daeth chwyldro
      o’r newydd i saernïo
      bri o hyd ar Lafar Bro.


Wrth fynd ati i gyfarch y 500fed rhifyn, a ninnau mewn cyfnod na welsom erioed ei debyg o’r blaen, fel hyn y daeth:
Ar achlysur cyhoeddi 500fed rhifyn ‘Llafar Bro’ … Rhagfyr 2020


      Dathlwn, canwn mewn cyni, - o afael
     ‘Covid’ daliwn ati;
      Â ‘Stiniog i’n cefnogi
      ymlaen nawr i’r mil awn ni!


Gosodwyd tasg i gefnogwyr ffyddlon y golofn yn y rhifyn dwytha … a gofyn iddyn nhw lunio cyfarchiad i’r 500fed:

     “Ein ‘Llafar Bro’- y cylchgrawn sy’
      Ymysg y gorau trwy Gymru”
 

ydy cwpled clodwiw CLIFF O’R BONTNEWYDD. Mae’n canmol yn fawr y criw gweithgar o wirfoddolwyr sy’n sicrhau’r arlwy fisol, a hynny am bris tra rhesymol:

      Cyhoeddi pum can rhifyn o’r ‘Llafar’ -
      Rhaid diolch i’r gwirfoddolwyr gweithgar,
      Trwy eu llafur rhoddwyd yn ddirwgnach,
      Creu cylchgrawn ‘mysg y goreuon bellach.
      Mae’n cynnwys llythyrau a hanes di-ri
      O hen dref ac ardal y llechi,
      Ac ambell lun sy’n ein tywys a’n hannog …
      A hynny am bris o wyth deg ceiniog!

    
Rhoddwyd rhyddid i’r rhigymwyr i ddefnyddio’r cwpled agoriadol yma pe baent yn dymuno:

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni'
…


Dyma gyfarchiad diffuant ARTHUR O FACHEN, sydd, fel CLIFF, yn hynod werthfawrogol o’r hyn ddarperir gan y tîm ac yn hael ei ganmoliaeth iddo:

      Diolch o galon i bob gohebydd
      O Dangrisia i Drawsfynydd.
      Cofnodion a straeon diguro,
      Papur o fri - papur y Fro!
      Boed i'w dudalennau ddiddori
      Miloedd a mwy, bob mis, i'w pori.                                              
      Papur o fri i bobol y Fro,
      Diddorir pawb â'i ddarlleno.


Mae GWENLLIAN O’R WYDDGRUG hefyd yn gwerthfawrogi llafur cariad gwirfoddol y swyddogion a sonia am y gwerth cymdeithasol amhrisiadwy sydd i’r papur. Tynna sylw penodol hefyd at y ffaith ei fod yn rhan annatod o’n hetifeddiaeth:

      Tra ragora yn ei gynnwys,
      A’i swyddogion yn ddiorffwys;
      Mae pob rhifyn yn ffrwyth gwirfoddol
      A’u hamrywiaeth mor neilltuol.
      Tyn gymuned glos yn dynnach
      A’i swyddogaeth yn rhagorach;
      Cadarnheir ein hetifeddiaeth
      Trwy ein ‘papur bro’ tra odiaeth.
      Dymuno wnawn hir oes i’w yrfa –
      Ymlaen i’r pumcan rhifyn nesa’!


Mae’n hyfryd cael coesawu GWYNFOR O DRAWSFYNYDD yn ôl i’r gorlan, a diolch o galon iddo yntau am y cwpledi cyfarch trawiadol yma:

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni
’ …
      Eto’n cynnwys ‘Rhod Rhigymwr’
      Gyda’r bardd yn rhoddi swcwr.

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni’
…
      Yma eto’n bapur misol
      I ddiddori tâst y bobol.


Croeso hefyd i wyneb newydd y tro hwn … DAFYDD CC… ac am ei ymgais. Yn ansicrwydd y dyddiau sydd ohoni, edrych ymlaen y mae am y dydd y cawn fel pwyllgor ddod at ein gilydd eto wedi i’r felltith yma gilio o’r tir:

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni’
…
      Tybed a ddaw criw y gosod
      Eto’n ôl i gyd-gyfarfod?

 

Braf deall fod SIMON CHANDLER wedi ei blesio o weld ei englynion yn rhifyn Tachwedd. Yn wir, mae’n ŵr sy’n haeddu ein hedmygedd … nid yn unig am ddysgu’n hiaith ond am feistroli rhywbeth sy’n unigryw i’n diwylliant … ‘cerdd dafod’.

Dyma englyn amserol iawn i’r dyn melynwallt, rhodresgar, trahaus sy’n ‘ceisio’ arwain o rif 10 Stryd Downing:

      Melyn ei wallt, milain ei wawd, - hwbris
      sy'n hebrwng sawl anffawd.
      Statws yw'r tlws, gwae'r dyn tlawd
      Y paun a lyfna'r pennawd.

--------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020

Llun- Paul W

18.1.21

Cerrig arysgrifedig Llys Dorfil

Diweddariad am y cloddio archeolegol gan Bill a Mary Jones

Roedd gan Llys Dorfil loriau wedi'u gwneud o gerrig mân yr afon wedi'u gosod ar haenan o glai. Daeth y cerrig hyn o Afon Bowydd, ac roedd gan y mwyafrif ohonynt farciau crafu arnynt, ond roedd rhai ohonynt wedi'u harysgrifio'n fwriadol gan ddyn. (Amlygwyd y marciau mewn gwyn yn y lluniau i’w gwneud yn haws i’w gweld.)  Roedd lleoliad gwreiddiol y cerrig hyn ar lawr y tai crwn. Yna eu symud i loriau tŷ twr Llys Dorfil.


Llun 1. Carreg arysgrifedig a ddarganfuwyd ar lawr y tŷ crwn cydgysylltiedig yn Llys Dorfil. Sylwch ar y staen haearn coch ar waelod y garreg. Mae hyn yn awgrymu fod y garreg yn gorwedd ar ben haenen anhydraidd, llawr clai yn ôl pob tebyg, gyda'r arwyneb arysgrifedig yn gwynebu ar i fyny.

 

Llun 2. Cafwyd hyd i'r garreg arysgrifedig hon y tu mewn i olion y tŷ tŵr, daethpwyd o hyd iddi ar y llawr gyda darnau o glai. Roedd polyn trydan wedi'i godi yno ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan ddinistrio arwynebedd y llawr. Mae olion staenio haearn ar y garreg, sy'n awgrymu y gallai fod yn rhan o lawr ar un adeg.


 
Llun 3. Mae'r olion ar y garreg hon yn awgrymu ei bod hithau wedi bod mewn clai ar un adeg hefyd, ond ar ôl y difrod a achoswyd wrth osod y polyn trydan ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae eu lleoliad gwreiddiol yn ansicir.  

- - - -

Fel cadeirydd Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch o galon i
bawb sy'n ymwneud â Llafar Bro, am y cymorth a'r cyhoeddusrwydd y maent wedi'i roi am ein gwaith
cloddio yn Llys Dorfil. Gan obeithio y gallaf ddweud yr un peth ar ôl y 500 rhifyn nesaf! 

WT (Bill) Jones.

----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020


14.1.21

Ar y Gweill gan Antur Stiniog

Mae’n sâff dweud ei bod hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r mwyafrif, a 2020 yn flwyddyn andros o ryfedd ar adegau.

Er gwaetha’r sefyllfa yr ydym yn byw ynddi ar hyn o bryd, nid ydym yn brin o newyddion da i rannu efo darllenwyr y fro -ond cyn hynny, fe hoffai aelodau Bwrdd Antur Stiniog ddiolch i’r holl staff am fod mor weithgar, arloesol a phositif- ac am fod mor barod i addasu a derbyn ffyrdd newydd o weithio. Mae’n bwysig nodi yn y fan yma hefyd fod y staff yn hynod o ddiolchgar i aelodau’r Bwrdd am yr holl waith caled ac am yr ymroddiad ddi-ffael mewn cyfnod mor ddigymar.

Yn ystod y cyfnodau clo rydym wedi bod yn datblygu nifer o brosiectau sydd yn mynd i fod o werth i’r gymuned (yn ogystal ag addasu ein gweithleoedd i wneud nhw’n mannau diogel ar gyfer ein cwsmeriaid a’n staff).

Rydym yn hynod o falch a hapus i gyhoeddi fod y ceisiadau wnaethom i Gyngor Chwaraeon Cymru, Cronfa Magnox Socio-Economic a Phartneriaeth Awyr Agored Gwynedd, ac Elusen Freeman Evans Ffestiniog, er mwyn dechrau Clwb Beicio Antur i blant a phobl ifanc rhwng yr oedran o 7-16 wedi bod yn llwyddianus! Derbyniwyd yr newyddion da cyn i ni fynd i mewn i’r cyfnod clo cyntaf, ac er nad ydym mewn sefyllfa i gychwyn y clwb eto oherwydd y pandemig- yr ydym yn barod i fynd, ac yn hynod o frwdfrydig, llawn cyffro ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gael dechrau cyn gynted ac y gallwn ei wneud yn ddiogel. Yr ydym yn edrych ar ddechrau mor fuan ag sy’n bosibl yn 2021- mi wnawn ni wneud yn siwr ein bod yn cyhoeddi unrhyw ddatblygiadau fel mae nhw’n digwydd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, ac wrth gwrs yn Llafar Bro!

Prif bwrpas Clwb Beicio Antur yw dysgu'r sgiliau i blant a phobl ifanc sydd yn angenrheidiol ar gyfer y math o lwybrau beicio mynydd sydd gennym ar safle Antur. Mi fyddwn yn gwneud hyn drwy ddysgu sgiliau beicio technegol a chodi hyder aelodau’r clwb i fod yn feicwyr medrus trwy fwynhau a chael hwyl! Yn ogystal â hyn, mae gennym 10 beic lawr-allt newydd ac offer diogelwch ar gael i aelodau. Mae hyfforddiant hefyd yn rhan fawr o’r trefniadau, gyda chyfleoedd hyfforddiant Arwain Beics a Chymorth Cyntaf ar gael i bobl lleol sydd yn ymweud â Chlwb Beicio Antur – yr bwriad yw ein bod yn hyfforddi pobl leol i arwain sesiynau'r clwb- a gobeithio wedyn ein bod mewn sefyllfa dda i hyfforddi rhai o'r aelodau ifanc! Eto, byddwn yn cyhoeddi mwy am hyn ac am sesiynau blasu, cyn gynted ac y gallwn gynnal hyfforddiant yn 2021.

 


Yr ail brosiect cyffrous sydd gennym i’w gyhoeddi, yw Prosiect Murlun yn Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog! Mi fydd murlun mawr sydd yn dathlu hanes, diwylliant a threftadaeth y fro yn cael ei baentio ar waliau'r siop ynghanol y dref, dros y misoedd nesaf. Mae’r prosiect yma wedi dod yn sgȋl cais (UNESCO) Safle Treftadaeth y Byd, yn ardaloedd llechi gogledd Cymru. 

Mae Antur Stiniog wedi penodi artist ifanc lleol, Lleucu Gwenllian Williams i ddylunio a phaentio'r murlun. Mi fydd y gwaith celf yn cynnwys themâu treftadaeth a hanes y diwydiant llechi, nodweddion tirwedd ardal Bro Ffestiniog, ac yn cyfleu negeseuon o bositifrwydd tuag at y dyfodol sydd o’n blaenau. 

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld gwaith Lleucu yng nghanol y dref! Rhagor o wybodaeth am yr prosiect cyffrous yma i ddilyn yn Llafar Bro yn yr flwyddyn newydd!


Yn olaf, ac i gloi 2020, hoffai Antur Stiniog ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Hoffwn hefyd fel busnes cymunedol gymryd y cyfle yma i gyd-ddathlu a llongyfarch Llafar Bro ar ei 500fed rhifyn! Llwyddiant penigamp go iawn- lle fydden ni heb Llafar Bro bob mis? Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Llafar Bro am yr holl waith called drwy’r flwyddyn a dros y blynyddoedd am ddarparu'r adnodd pwysig yma i’r Fro a’i ddarllennwyr ehangach: hir oes i Llafar Bro!
-------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020

Dolen i'r diweddariad