Dyma barhau ag ychydig o storïau am ein bro a recordiwyd ar rai ffilmiau o’r gorffennol. Dechreuaf gydag un yn dyddio o’r 1940au. Tybed faint o’r to hŷn sydd yn cofio’r digwyddiad hwn a ddangoswyd ar Pathe News 1949? Yn dilyn, ceir crynhoad o’r stori o bapur newydd Y Rhedegydd, 2 Mehefin,1949:
“Digwyddodd trychineb i awyren hofran (hofrennydd) yng Nghwm Croesor ganol dydd Mawrth diwethaf. Roedd y gwaith wedi mynd ymlaen yn rhwydd a llwyddiannus iawn am amser pan ddisgynnodd yr helicopter yn sydyn i’r llawr a chafodd y peilot waredigaeth wyrthiol”.
Cefndir y stori hon oedd yr angen i gludo sment a llwch cerrig, a defnyddiau eraill, i atgyfnerthu argae Llyn Cwm Foel, a saif tua 1500 troedfedd uchlaw arwynebedd y môr ymhen uchaf Cwm Croesor, ac a ddefnyddid gynt i gyflenwi dŵr i Bwerdy’r Chwarel a’r pentref.
Yr hofrennydd Sikorsky yn colli rheolaeth uwchlaw Cwm Foel yn 1949 |
Ceisiwch edrych ar y ffilm er mwyn gweld y digwyddiad cyffrous ac efallai y gwnewch chi adnabod un neu ddau ynddi hi - Bob Owen Croesor yw un. Pwy yw’r llaill ? Cysylltwch os gallwch adnabod rhai ohonynt. Dyma un clip o’r digwyddiad brawychus a welir yn y ffilm.
Trên olaf y GWR o’r Blaenau:
Ffilm boblogaidd gan selogion hanes ein rheilffyrdd yw’r un am siwrnai olaf trên teithwyr y Great Western Railway o’r Bala i’r Blaenau, ac yn ôl, wrth gwrs, ar 22 Ionawr,1961. Teithiodd beth wmbredd o bobl o bell ac agos ar y trên arbennig a daeth ugeiniau o bobl leol i’w gweld yn cyrraedd ‘Stesion Grêt’, degau ohonynt efo’u camerau, camerau sine, a chamerau lluniau llonydd.Wrth edrych ar y ffilm mi wnes adnabod y diweddar Herbert Evans, a fu’n athro arnaf yn Ysgol Glanypwll, Dafydd Lloyd Jones a oedd yn Ysgol Sir ar yr un adeg a fi, ac Emlyn Jones, cefnder David Benjamin, Ann, Billy, Helen a’r diweddar Meirion.
Os hoffech weld y ffilm gyfan ewch ar wefan ‘BFI player’ ar Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Dyma lun llonydd wedi ei dynnu ar yr achlysur.
O.N. – Dim ond un ateb cywir a dderbyniais parthed fy ymholiad am enw’r bwthyn yn y ffilm The Phantom Light (1935), sef oddi wrth Gareth T. Jones, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes. Da iawn Gareth. Y dasg yn rhy anodd i lawer ohonoch! Yr ateb cywir yw Bwlch y Maen. Ei leoliad oedd ar yr ochr dde i‘r ffordd sy’n arwain i bentref Rhyd, Llanfrothen. Roedd ychydig ohono i’w weld rhyw 40 mlynedd yn ôl.
[GWELER ISOD HEFYD]
Hefyd - yn rhifyn Mawrth bu amryfusedd gyda disgrifiad y Trwnc yn Chwarel Oakeley, y ‘Trwnc Mawr’, neu ‘Trwnc y K’, oedd ei enw, wrth gwrs.
Steffan ab Owain
- - - - - - - - -
Annwyl Olygydd
Rwyf eisiau ymateb i'r llun yng ngholofn Steffan parthed y ffilmio yn ardal Tan y Bwlch yn 1935.
Credaf mai y tŷ yn y llun yw Bwlch y Maen, cartref i fy hynafiaid o ochor fy nain - y mae yr hen waliau yn dal i'w gweld ar y ffordd o Dan y Bwlch i gyfeiriad Rhyd.
Roeddym fel teulu mor falch o weld y llun - a gyda llaw y mae y cloc mawr o Fwlch y Maen gennym ni, wedi dod o Danygrisiau heibio i Fwlch y Maen i Nanmor.
Cofion
Cynan
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon