Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain
Ar ôl imi ysgrifennu ychydig o hanes yr hofrennydd yn cael damwain yng Nghwm Croesor yn 1949, cofiais ddarllen am ddamwain o fath arall a ddigwyddodd yn 1928.
Dyma gefndir y stori: Ychydig ar ôl 7 bore dydd Iau, 23 Chwefror, 1928, roedd amryw o weithwyr ar lori fodur yn y Llan ac ar eu ffordd i weithio ar osod polion a gwifrau trydan i gwmni Siemens Bros ym Maentwrog.
Ar y bore hwn roedd tua 19 o ddynion ar lori Commercial Karrier a oedd yn eiddo i Jack Davies, Rock Terrace, ac yn cael ei gyrru gan William Pugh, Glan Barlwyd, Glan y Pwll.
Yn ddisymwth, a thra’n teithio i lawr yr Allt Goch, torrodd siafft yrru’r lori a chollodd y gyrrwr reolaeth arni hi nes yr oedd yn rhedeg i lawr ar gyflymder. Ceisiodd ei orau i’w rheoli, ond bu’n aflwyddiannus, er y medrodd, rhywfodd neu’i gilydd, ei throi fel ei bod yn taro yn erbyn y wal. Yn y gwrthdrawiad trodd y lori drosodd ddwy waith.
O ganlyniad, taflwyd y dynion oddi arni hi, ac ar wahân i un dyn, anafwyd pob un o’r lleill. Bu’r gyrrwr yn ffodus nad oedd wedi derbyn anafiadau drwg, a daeth ohoni gydag archoll fechan ar ochr uchaf ei lygad. Trwy ryw drugaredd, ni laddwyd neb yn y digwyddiad dychrynllyd. Yn y cyfamser, medrodd llygad-dyst anfon am Dr. Lloyd Jones o’r Llan atynt, a galwyd am ambiwlans o’r Blaenau, ac aed ag un-ar-ddeg ohonynt i’r Ysbyty Coffa. Cafodd 6 ohonynt fynd adref ychydig yn ddiweddarach ar ôl cael eu harchwilio yn drylwyr.
Diolch i Gareth T. Jones, am anfon copi o’r llun imi |
Pa fodd bynnag, cadwyd Bobby Jones, (21) Clynnog; John Williams (55) Porthmadog; William Hugh Jones (42) Talsarnau; William John Jones (23) Porthmadog; Robert John Williams (36) Caernarfon yn yr ysbyty. Gweinyddwyd arnynt yno gan Dr. Morris a chynorthwyd ef gan yr Arolygydd J. F. Evans a Sarjiant Roberts.
O.N. – Difyr oedd darllen yr hanesyn gan Cynan am hen dŷ Bwlch y Maen yr holais amdano yn rhifyn Ebrill. Tybed pa bryd aeth yr hen fwthyn yn wag ?
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon