Yng nghyfarfod mis Ebrill o’r Gymdeithas Hanes, cafwyd noson wahanol! Yn hytrach na darlith am berson hanesyddol cafwyd sgwrs gan berson hanesyddol ei hun.
Ymddangosodd Siân Roberts, Harlech fel Mrs Samuel Holland, wedi ei gwisgo yng ngwisg ganol y 19eg ganrif. Ei bwriad oedd rhoi hanes ei gŵr Samuel Holland gan gymryd rôl ei wraig. Mae cymeriadu fel hyn yn fwyfwy boblogaidd fel dull mynegi, yn enwedig i gyfleu hanes person. Mae Siân Roberts yn cymeriadu nifer o ffigyrau hanesyddol ac mae’n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Harlech yn gweithio yn y byd twristiaeth ac wedi ei hyfforddi fel Tywysydd Bathodyn Glas Cymru. Yn hanu o Sir Y Fflint mae wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.
Ganwyd Samuel Holland ym 1803 yn Lerpwl yn fab i Samuel a Katherine (née Menzies) Holland, a'i fedyddio yng Nghapel Presbyteraidd Paradise Street Lerpwl yn 1804. Roedd ei dad wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl yn Lloegr a'r Almaen.
Yn 18 oed yn 1821 fe'i danfonwyd i oruchwylio mewn chwarel lechi newydd ei dad yn Rhiw, Blaenau Ffestiniog ar dir a osodwyd ar rent gan William Oakeley, a bu fyw ym Meirionnydd am weddill ei oes. Bu’n rheoli'r chwarel hyd 1877 ac wedyn aeth y chwarel yn rhan o weithiau chwarel fawr yr Oakeley.
Ei ail wraig oedd Anne Rose Robins (ein darlithydd ar y noson) a briododd Samuel ym 1850 yn Allesley, Coventry. Bu Samuel Holland yn aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd am 14 mlynedd gan ennill dwy etholiad yn gyffyrddus efo dros 60% o'r bleidlais a chael ei ethol yn ddiwrthwynebiad unwaith. Cofir am Samuel Holland yn bennaf fel un o arloeswyr y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog.Bu yn un o'r prif gymhellwyr i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r gweithfeydd llechi yn Ffestiniog a phorthladd Porthmadog. Yn ogystal bu hefyd yn un o brif gefnogwyr sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol fonedd i ferched yn Nolgellau gan brynu a thalu am y tir yr adeiladwyd yr ysgol arno fel rhodd i'r ymddiriedolwyr. Bu farw Rhagfyr 27 1892 yn 89 oed.
Cofir am Samuel Holland a’i chwarel yn enw rhes o dai sydd islaw Fron Fawr sydd â golygfa wych i gyfeiriad yr hen chwarel uwchlaw tomen fawr chwarel yr Oakeley
[TVJ]
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon