Noson Wobrwyo Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
Daeth criw da o chwarewyr, hyfforddwyr, swyddogion a chefnogwyr i’r clwb ar gyfer y cinio blynyddol ac i ddathlu diwedd tymor. Noddwr y noson oedd Olew Cymru (Oil4Wales) a’r siaradwr gwadd oedd cyn chwaraewr Cymru Scott Quinnell. Croesawyd bawb i’r noson gan Sion Arwel Jones, Gerallt Rhun a’r cadeirydd Glyn Daniels.
Diolchwyd i’r chwaraewyr, y noddwyr, yr hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr, y cefnogwyr a’r pwyllgor am eu cefnogaeth i’r Clwb ar hyd y tymor. Roeddem yn ffarwelio gyda Cerys Symonds (Bodywyrcs) fel physio, diolchwyd iddi am ei gofal a’i chefnogaeth dros y 9 mlynedd ddiwethaf. Yn haeddianol iawn cafodd Keith Roberts “Brenin” ei anrhydeddu yn aelod anrhydeudds o’r Clwb am oes am ei waith di-flino. Hoffem ddiolch i’r staff am y bwyd blasus.
TÎM IEUENCTID
Chwaraewr y chwaraewyr: Math Churm Jones
Chwaraewr yr hyfforddwyr: Jos Watson
Chwaraewr mwyaf addawol: Math Hughes
Cynnydd mwyaf: Moses Rhys ac Ifan Edwards
TÎM CYNTAF
Chwaraewr y chwaraewyr: Siôn Hughes
Chwaraewr yr hyfforddwyr: Ioan Evans a Dyfed Parry
Chwaraewr mwyaf addawol: Gethin Roberts
Cynnydd mwyaf: Ioan Hughes
Diolchodd capteiniaid y ddau dîm: Huw Parry, Dylan Daniels, Llion Jones a Huw Evens i’r hyfforddwyr i gyd sef Huw, Sion, Elfyn a Justin eu hymroddiad di-flino unwaith eto i’r Clwb.
Cafwyd noson lwyddiannus a hwyliog iawn.
Bro Bach
Daeth diwedd ar dymor Bro Bach gyda sawl twrnamaint cyffrous a hwyliog i’r tîm dan 10, 12 a 14eg. Bu’n dymor prysur gyda’r timau yn chwarae gêm yn wythnosol (pan oedd y tywydd yn caniatau) gan ddatblygu fel unigolion ac fel timau.
Braf oedd cael dathlu llwyddiant y tîm dan 13eg y tymor yma. Llongyfarchiadau mawr iddynt am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth cwpan RGC yn stadiwm CSM, Bae Colwyn. Roedd y gêm yn un cystadleuol a chyffrous iawn yn erbyn tîm cryf o Langefni. Profiad anhygoel i’r bechgyn. Rydym yn falch iawn o’ch galw’n BENCAMPWYR GOGLEDD CYMRU Dan 13eg.
Diolch i’r hyfforddwyr i gyd am eu gwaith caled ac i Gareth Evans am drefnu’r gemau. Yn wir mae gemau y flwyddyn nesaf wedi ei drefnu ganddo.
Edrychwn ymlaen i weld yr bawb nôl ar y cae yn fuan…mae’r dyfodol yn un disglair.
- - - -
Noson Wobrau'r Amaturiaid
Ar ran Clwb êl-droed Amaturiaid Blaenau Ffestiniog a phawb sy’n rhan ohono fo, mae’n amser i ni ddiolch i ddau ffrind a fu’n edrych ar ôl y tîm dros y ddwy flwyddyn ddwytha, sef John Campbell a Doug Bach Hughes (John a Doug), y ddau gyd-reolwr a ennillodd ffydd y chwaraewyr, hogia da, a ffrindia i bawb.Roedd John a Doug wedi gweithio’n galad i gadw’r tîm i fynd. Heb y ddau o’nyn nhw fysa ddim tîm ar ôl, a’r Clwb wedi cau.
Gwaith digon caled ydi manejio’r sgwad a torri’r gwair a marcio’r cae, a golchi’r kits, a chael yr hogia i drênio ar yr astro ddwy waith yr wythnos, a chadw’r tîm i fynd. Rhoddodd y ddau o’nyn nhw jans i’r hogia ifanc, ac roedd y tîm yn chwara’n dda ac wedi cael injection o speed, steil a sgils.
Pob lwc i chi, a llongyfarchiadau i chi am wneud job gwych i’r tîm a’r Clwb. Enjoiwch eich wicends rwan hogia! Parch mawr a diolch i chi’ch dau, rydach chi’n haeddu’r wobr heno.
Tra dwi’n canmol pawb, mae’n rhaid diolch i Chris McPhail a Gary Fflats oedd efo’r hogia drwy’r adag, a diolch i griw y giât a’r cardyn ffwtbol, Ken, Prys, Cro a Dafydd. A diolch i Rhian am weithio’r cantîn am flynyddoedd, cyn rhoi y teciall yn y to. Diolch i Kelly am helpu, ac wrth gwrs diolch mawr i Gwawr am gymryd gwaith y cantîn.
A rwan, ar ran y Clwb a phawb, dyma estyn croeso mawr a phob lwc i’r tri rheolwr newydd – rydan ni’n nabod nhw ers blynyddoedd – sef Mitch, Jack a Spence (Gerallt Michelmore, Jack Diamond, Geraint Spencer Hughes). Dwi’n siwr neith yr hogia neud yn dda, a diolch a phob lwc iddyn nhw. Edrych ymlaen i gemau cyfeillgar yr haf rwan, ac ymlaen â ni tymor nesa. Iddi hogia!
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mefehin 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon