Pytiau o newyddion Cyngor Tref Ffestiniog, o rifynnau Mai a Mehefin 2024
Yn dilyn llythyr ‘Cynllun Gwahardd Parcio Arfaethedig’ oddi wrth Uwch Beiriannydd Traffig Cyngor Gwynedd, daeth i’r amlwg fod cŵyn wedi ei wneud gan gwmni bws yn dweud bod trafferth mynd heibio ceir weithiau, ger y gyffordd rhwng Ffordd Glanypwll sy’n cysylltu Dinas a’r hen Ffordd Hosbitol (sy’n mynd heibio Cae Dolawel am y Gofgolofn). Llythyr ydoedd yn gofyn os fyddai gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun yn y lle cyntaf, ac os oedd unrhyw ffafriaeth neu opsiynau eraill am y sefyllfa ganddynt.
Dywedodd Y Cyng. Peter Jones ei fod yn byw ger y gyffordd ac yn cydnabod bod problem parcio enfawr yn bodoli yno. Dywedodd pan mae’r tai haf a’r Airbnbs cyfagos yn llawn, fod ceir wedi eu parcio ymhobman. Y gofid mwyaf wrth gwrs ydi beth fyddai’n digwydd mewn argyfwng, ydi’r parcio yma efallai’n mynd i atal mynediad y gwasanaethau brys? O ystyried hyn, penderfynodd y Cyngor gefnogi’r cynllun. Mae’n beryg y bydd rhaid i’r Cyngor Sir geisio datrys y broblem – un ai drwy greu lle parcio pwrpasol fyddai’n rhedeg gyda ffens Cae Dolawel ar gyfer y tai ger y gyffordd, neu ymestyn y meysydd parcio bach wrth waelod allt Cae Baltic a Dinas dros ychydig o hen domen Rhiw.Penderfynwyd derbyn rhodd, sef baner Llydaw gan gangen YesCymru Stiniog. Roedd y gangen wedi ei chael gan ymwelydd o Lydaw ac yn meddwl y byddai’r dref yn falch ohoni. Roedd y Cyngor yn ddiolchgar iawn a phenderfynwyd ei chwifio ar Fai’r 19eg, er dathlu ‘Dydd Gwyl Erwan’, nawddsant ein cefndryd Celtaidd.
Baner Glyndŵr, a'r Gwenn ha Du. Diffwys, Mai 2024. Llun Paul W |
Parhau mae’r ddadl i drawsnewid hen adeilad y Wynne’s Arms yng ngwaelod Manod. Daeth cais cynllunio arall gerbron y Cyngor gan y perchenog, Mr. J Fatimilehin (Joof Homes Ltd.) drwy ei asiant. Wedi i’r cynllun gwreiddiol gael ei wrthod, maent bellach wedi ychwanegu dogfen asesiad llifogydd at y cais ynghyd â newidiadau eraill, fel mynediad i’r safle ac ati. Nid y Cyngor Tref fydd yn penderfynu, ond Adran Cynllunio’r Cyngor Sir. Gydag unrhyw gais cynllunio, hoffai’r Cyngor Sir wybod beth yw barn y cynghorau lleol cyn symud ymlaen, ac er bod y Wynne’s bellach wedi troi’n hyllbeth, oherwydd y gwrthwynebiad i’r cynllun gan drigolion gwaelod y Manod, rhaid oedd awgrymu gwrthod y cais. Casglwyd deiseb gyda rhestr faith o enwau’n gwrthwynebu’r cynllun yno, felly rhaid oedd dilyn y dymuniad yn lleol.
Cafwyd Cyfarfod Anarferol er mwyn trafod safbwynt y Cyngor am Erthygl 4 ar gyfer ymgynghoriad Parc Cenedlaethol Eryri. Eleni, o Fedi’r cyntaf ymlaen, ni fydd yn bosib ‘newid defnydd cartref i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr’, ‘newid ail gartref i lety gwyliau tymor byr a defnyddiau cymysg penodol’ neu ‘newid defnydd llety gwyliau tymor byr i ail gartref a defnyddiau cymysg penodol’ heb ganiatad cynllunio gan Gyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri (os bydd y Parc yn dewis ei fabwysiadu). Creu cymunedau cynaliadwy hirdymor ydi’r bwriad.
Fel y gwyddom, yn y Blaenau, mae cannoedd o dai haf ac airbnb’s yma, sy’n golygu bod prisiau tai’n aros yn uchel, ac o ganlyniad mae llawer ohonynt yn wag dros gyfnodau hir o’r flwyddyn. Maent wedi mynd yn rhemp drwy ein cymunedau. Torcalonnus yw gweld fidios wedi eu postio gan bobl ifanc ar y gwefannau cymdeithasol sy’n eu dangos o flaen y camera gyda’u pentrefi lleol yn y cefndir. Gan amlaf mae hi’n ddechrau gaeaf, yn fin nos a mae hi’n tywyllu a dim ond un neu ddau o’r tai sydd gyda golau yn ei ffenestri, y mwyafrif helaeth yn hollol dywyll a ddifywyd. Cymdeithas farw. Heb os, gall niferoedd uchel o lety gwyliau ac ail gartrefi fod yn fygythiad gwirioneddol i lewyrch cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cymunedau. Mecanwaith fyddai Erthygl 4 i alluogi gwell rheolaeth or stoc tai presennol.
Cynigodd y Cyng. Morwenna Pugh ac eiliodd y Cyng. Peter Jones bod y Cyngor yn argymell fod y Parc yn mabwysiadu Erthygl 4, a phasiwyd y cynnig yn unfrydol.
Yn y cyfarfod Mwynderau cafwyd ymateb o’r Cyngor Sir ynglyn â’r sefyllfa afiach ac anerbynniol o faw cŵn ar ein palmentydd. Roedd swyddog y Cyngor yn cydnabod fod y broblem i weld yn cynyddu yma er y patrolau Gorfodaeth Stryd rheolaidd a’r arwyddion rhybydd ayyb. Cytunai bod rhaid ceisio codi ymwybyddiaeth eto ac maent am ychwanegu at y nifer o finiau baw cwn yn yr ardal ac adnewyddu’r rhai sydd yma eisoes. Bwriedi’r hefyd cynyddu’r nifer o batrolau Gorfodaeth Stryd a threfnu i lanhau’r ardaloedd bytraf. Daw taflenni baw cŵn newydd toc hefyd fydd yn egluro bod y ddirwy am faeddu’n codi o £75 i £100.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon