All twristiaeth weithio i Fro Ffestiniog?
Digwyddiad pwysig yn ein calendr ym Mehefin oedd gweithdy ‘All Twristiaeth Weithio i Gymunedau?’ yn CellB.
Roedd dros 70 wedi mynychu, ac ymchwilwyr cymunedol o ddyffrynnoedd llechi Ogwen, Nantlle, a’r Blaenau yn rhannu eu gwaith gwych. Cafwyd nifer o esiamplau o fudiadau a chynlluniau sy’n profi gwerth gan gynnwys ni yma yn Antur Stiniog, ac i ni gael trafod y camau ymlaen i’r dyfodol.
Roedd llawer o fudiadau wedi mynychu’r diwrnod gan gynnwys arweinwyr o'r Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Aelodau Seneddol, Llechwedd a chwmni Zip World. Roedd llawer wedi dod oddi yno efo gwell dealltwriaeth o’r her o’n blaenau ac yn awyddus i gyd-weithio i ymateb i'r heriau.
Byddwn ni’n Antur ‘Stiniog yn gweithio gyda llawer o’r mudiadau yma i gael y gorau i’n cymuned.
Os oes gennych syniadau neu hoffwch drafod unrhyw beth am y gwaith yma’n lleol cysylltwch gyda ni.
Eiddo
Mae cynlluniau yn eu lle ar gyfer Yr Aelwyd ac mi fydd y datblygiadau yn cychwyn yn fuan iawn gan gwmni Grovesnor. Mi fydd y gofod tu fewn yn aros rhywbeth tebyg i'r gwreiddiol gyda gwelliannau i'r llawr mesanîn i greu ystafell amlbwrpas.
Mi fydd y lleoliadau amrywiol tu fewn i'r adeilad ar gael i'w rhentu am bris teg i'r cyhoedd. Bydd yr adeilad yn le perffaith i greu clybiau newydd, gofod chwaraeon, cynnal gigs a chyngherddau ac yn y blaen. Bydd hefyd datblygiadau i'r gegin er mwyn gallu dysgu coginio a'i ddefnyddio fel caffi. Am fwy o wybodaeth neu rannu eich syniadau ar gyfer yr adeilad cysylltwch â eiddo@anturstiniog.com
Yr Amgylchedd
Diolch i'n beicwyr lawr-allt sy’n rhoi punt neu ddwy at ein gwaith amgylcheddol wrth archebu i reidio ein llwybrau ar-lein, mae Antur Stiniog wedi noddi dau flwch nythu gwennol ddu sydd wedi eu gosod ar waliau uchel y Ganolfan Gymdeithasol wrth iddyn nhw gael ffenestri newydd ym mis Ebrill. Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio, yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan!
Llun: Ben Stammers, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru |
Parc Beicio
Rydym o’r diwedd wedi cael
tywydd braf i gael beicio lawr ein traciau, sydd hefyd yn golygu fod
oriau agor y parc wedi ymestyn o Ddydd Iau i Ddydd Llun pob wythnos. Mae
posib archebu lle trwy ein gwefan, neu ffoniwch y ganolfan feicio ar
01766 832214.
- - - - - - - - - - -
Rhan o erthygl hirach a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon