22.5.16

Ysgoloriaeth Patagonia 2016

Enillydd Cyntaf Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog

Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni cafwyd seremoni bwysig yn Siambr Cyngor Tref Ffestiniog fydd yn hyrwyddo a datblygu’r gefeillio a ddigwyddodd rhwng trefi Blaenau Ffestiniog a Rawson ym Mhatagonia, y llynedd.


Datgelwyd mai Maia Jones o Lan Ffestiniog yw enillydd cyntaf yr Ysgoloriaeth hon sydd werth £1500. Bydd y wobr yn ei galluogi hi i ymweld â Phatagonia yn ystod 2016/17 a hefyd i gynnal gweithgareddau fydd yn cryfhau'r berthynas a’r ddealltwriaeth ddiwylliannol rhwng y ddwy dref.

Rawson yw prif dref talaith Chubut ac yma, rhyw 40 milltir i’r de o Borth Madryn (safle’r glanio) y sefydlodd y fintai gyntaf a deithiodd o Gymru yn 1865.

Gair gan y beirniaid:

Braint i mi ac i’r ddau feirniad arall, Elsi Jones ac Anwen Jones oedd cael bod yn rhan o’r broses o ddyfarnu’r ysgoloriaeth hon i unigolyn sy’n wir haeddiannol ohoni. Bu tri yn cystadlu ac roedd pob ymgeisydd wedi gwneud cynnig ardderchog, anodd iawn oedd tynnu llinell rhwng y tri. Mae’r tri’n glod i’r ardal hon ac yn dyst bod gennym ni yma bobl ifanc uchelgeisiol, galluog a phenderfynol... pob lwc i’r tri yn y dyfodol!

Pwrpas yr Ysgoloriaeth hon ydy cryfhau’r berthynas sy’n bodoli rhwng y dref hon a thref Rawson a thrwy hynny gryfhau'r cysylltiad rhwng Stiniog a Phatagonia yn ei chyfanrwydd, a rhwng Patagonia a Chymru.

Mae’r ysgoloriaeth yn gyfyngedig i rai sy’n byw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog ac sydd rhwng 16 a 30 oed. Pobl ifanc yr ardal felly. Dylid llongyfarch Cyngor y Dref am eu gweledigaeth a’i buddsoddiad yn nyfodol y berthynas hon rhwng y ddwy dref. Mae’r Ysgoloriaeth yn gobeithio annog pobl ifanc i feithrin perthynas tymor hir gyda’r Wladfa ac i sicrhau fod ein cymuned ni yma yn elwa o’r berthynas hon. Elwa’n ddiwylliannol os nad yn y pendraw, ar lefel busnes…pwy a ŵyr be fydd posibiliadau'r dyfodol.

 Cymerwyd y cam cyntaf gan Gyngor y Dref y llynedd - enwi sgwâr ar ôl Rawson; derbyn rhai o drigolion Patagonia yma yn Stiniog; cyhwfan baner yr Ariannin ar Sgwâr Diffwys gyda’r Ddraig Goch yn ei chanol - gweithred symbolaidd a hawdd ei gwneud siŵr o fod, ond gweithred oedd yn golygu llawer iawn i drigolion Y Wladfa.




Diolch i’r rhai fu ynghlwm â’r gweithgareddau hyn, maent wedi braenaru’r tir yn rhagorol a phennod dau yw’r Ysgoloriaeth sy’n mynd i gryfhau ein perthynas gyda’r Wladfa. Braf yw deall y bydd yr Ysgoloriaeth hon yn cael ei chynnig yn flynyddol.

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i ysgrifennu traethawd byr ar pam y buasent yn hoffi ymweld â Phatagonia; be fyddai ei bwriad ar ôl cyrraedd yno a sut byddant yn rhannu'r profiad hwn gyda’r gymuned hon ar ôl dychwelyd.

Cafwyd tri thraethawd ardderchog yn llawn bwriad a chyffro ac roedd y posibiliadau i weld yn rhai eang a chynhwysfawr. Gwnaed ymchwil trylwyr, caed argymhellion gwych!

Roedd yr enillydd yn sôn am hunaniaeth a hynny yng nghyd-destun ymfudo…rhywbeth sy’n digwydd ar draws y byd…a sut mae hyn yn effeithio ar ddiwylliannau cynhenid…rhywbeth sy’n destun sensitif iawn yma yng Nghymru wrth gwrs. Mae cymharu addysg ym Mhatagonia a Chymru yn elfen gref o’r cais ynghyd ac edrych ar hunaniaeth Gymreig ym Mhatagonia a Chymru trwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, yn gyffrous a pherthnasol iawn.

Mae yma ddyhead dirdynnol i greu a rhannu profiad er mwyn creu perthynas adeiladol, creadigol a sylweddol rhwng Patagonia a Chymru ac roedd hynny’n drawiadol iawn. Mae’r prosiect addysg a gynigir yn ymarferol ac yn sicr o fewn cyrhaeddiad.

Disgrifir nifer o weithgareddau llai sy’n helpu i gynnal y prosiect addysg ei hun a gellir gweld sut mae’r rhain yn plethu i’w gilydd i greu prosiect cyfannol.  Mae’r prosiect adeiladol hwn sy’n cynnwys yr ysgolion cynradd, Ysgol y Moelwyn a Choleg Meirion-Dwyfor, yn un cyffrous ac adeiladol.

Trueni na fuasem yn medru rhannu’r wobr, ond un wobr gyflawn sydd yma a rhaid oedd penderfynu. Ond ga’i ddweud, roedd hon yn gystadleuaeth uchel ei hansawdd, a gobeithio y bydd y ddau ymgeisydd na ddaethant i’r brig y tro hwn yn gwneud cais tro nesaf neu yn y dyfodol. Trwch adain gwybedyn oedd rhwng yr enillydd a’r ail ond llongyfarchiadau i’r tri am ymdrech lew a gonest.
Yn ail daeth Llio Maddocks ac yn drydedd Elin Roberts.
Tecwyn Vaughan Jones
--------------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016. 
Dilynwch y dolenni isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde am fwy o hanes y gefeillio, neu gysylltiadau Stiniog â'r Wladfa.

Llun Maia ac Erwyn gan Alwyn Jones.
Lluniau eraill gan Paul W.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon