12.5.16

Pobl 'Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 5 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Mehefin 1995


Pan ddechreuais ysgrifennu ar y testun hwn yn y golofn, prin y sylweddolais fod cynifer o bobl wedi gadael ein bro i chwilio am fywyd newydd yn y Wladfa ym Mhatagonia.  Mae’n edrych yn debyg hefyd, yn ôl yr ymateb beth bynnag, fod amryw o ddarllenwyr ‘Llafar’ ag atgofion difyr am rai a ymfudodd drosodd yno dros y blynyddoedd gynt.

Ymhlith y rhai eraill a ymfudodd ceid Robert Williams, mab John Williams, Maenofferen; John D. Jones, Tanygrisiau; a H.J. Hughes, Llan Ffestiniog.  Diwedd trist fu hanes amryw ohonynt yn y wlad bellennig hon. 
 
Boddwyd John Price wrth groesi’r afon ar gyfer Capel Moria ger Trerawson yn 1891.  Roedd ef a’i wraig wedi ymfudo yno o ‘Stiniog ryw ddwy flynedd ynghynt.  Bu farw merch Giffith Solomon ychydig ar ôl iddynt lanio yno gyda’r fintai gyntaf.  Collodd John Roberts a’i wraig (a hanai o Ffestiniog) eu mab John ym Mawrth 1866 pan oedd yn 16 mis oed.  Ar Ragfyr 5 yr un flwyddyn ganwyd mab iddynt ... ac enwyd hwn yn John hefyd.  Beth a ddaeth o’r teuluoedd hyn wedyn, ni allaf ddweud.

Dim ond am dymor, neu ychydig flynyddoedd yr arhosodd rhai o’n cyd Stiniogwyr yn y Wladfa.  Soniais o’r blaen am Robin Jones Swch.  Wel, dyna fu hanes Robert Jones (Bob Cyffdy) hefyd, sef ewythr i Mr W.H. Reese, Heol Leeds.  Deallaf ei fod ef wedi bod yn gweithio yno ar ‘Y Drafod’, sef newyddiadwr y Wladfa, cyn dychwelyd i’r Blaenau.


Dyna hefyd oedd hanes y bardd, gweinidog ... prifardd, archdderwydd a chofianydd pennaf y Wladfa, sef  R.Bryn Williams.  Ymfudodd ef yno gyda’i rieni ac amryw aelodau o’r teulu pan oedd oddeutu 8 mlwydd oed.  Ganwyd R.Bryn Williams yn un o’r tai a fyddai y tu ôl i Gapel Tabernacl gynt yn 1902.  Gan fod nifer dda o lyfrau yn adrodd ei hanes ym Mhatagonia, nid âf i draethu yma amdano. 

Pa fodd bynnag, os ydych a diddordeb yn hanes y Wladfa mi fyddech yn sicr o droi at un ... o’r holl lyfrau .. a ysgrifennodd am y wlad honno. 

Dyma enwi rhai ohonynt:
Cymry Patagonia’ (1942)
Lloffion o’r Wladfa’ (1944)
Rhyddiaith y Wladfa' (1949)
Y Wladfa' (1962)
Gwladfa Patagonia' (1965)
Canu’r Wladfa’ (1965).   

Yn ogystal â’r uchod, y mae ganddo ugeiniau o erthyglau, ysgrifau a cherddi am y Wladfa Gymreig ... heb sôn am nofelau a storiau, ayb.

Efallai y dylwn ddweud yma hefyd fod ei fab y Dr. Glyn Williams, Prifysgol Bangor yn hyddysg yn hanes y Wladfa, yn ogystal.  Mae yntau bellach, wedi cyhoeddi nifer fawr o erthyglau yn ymdrin â Phatagonia a’i phobl.

O edrych ar hanes y Cymry a ffarweliodd â’u broydd genedigol a hwylio yr holl ffordd dros y cefnfor i chwilio am wlad yn llifo efo llaeth a mêl, yn ddiau, trodd pethau yn debyg i’r hyn a ddisgrifia R.Bryn Williams yn ei bryddest ‘Yr Arloeswr’ i amryw ohonynt!
‘Glaniodd y fintai yng ngwlad yr hud
Ond mae perllannau’r breuddwyd drud? 
Ond noethni anial yn unig a gaed
A rhewynt deifiol yn fferru gwaed,
Gwlad a’i gorffennaf yn aeaf llwm
Dan gwrlid barrug fel eira trwm’.
 ********

Serch hynny, nid fel yna y gwelodd pawb y lle ac aros yno i arloesi ac ymdrechu byw a wnaeth llawer o’r Cymry nes sefydlu trefedigaethau o un pen o’r paith i’r llall ... ac fel yna y cafwyd enwau lleoedd Cymraeg yng nghanol gwlad y Tehuelcheiaid... megis Dôl y Plu, Rhyd-yr-Indiaid, Llyn Padarn, Dyffryn Camwy... heb anghofio’r prif drefi fel Porth Madryn, Trelew, Trefelin a’r cwm enwog hwnnw, Cwm Hyfryd.

*********
O.N.  Diolch i bawb a gymerodd ddiddordeb yn y golofn dros y misoedd diwethaf... a diolch i’r canlynol am fy nghynorthwyo y mis yma:-  Mr Elwyn Williams (Postman), Mrs Sally Williams (Llan), Mr Griffith R. Jones, Cae Clyd.
------------------------------------------------


Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon