4.5.16

Pwyllgor Amddifyn yr Ysbyty Coffa

Y frwydr yn parhau.
(O rifyn Ebrill 2016)

Ar ôl chwe mis union o orfod aros, fe gafwyd cyfarfod efo rhai o swyddogion y Bwrdd Iechyd.  Yn bresennol ar ran y Betsi roedd y cadeirydd Dr Peter Higson, Geoff Lang (Cyfarwyddwr Strategaeth), Ffion Johnstone (Adran Rheolaeth Meddyginiaethau) a Wyn Thomas (Adran Gofal Cymunedol). Yno i’w cyfarfod roedd wyth o aelodau’r Pwyllgor Amddiffyn, dau gynghorydd tref ac aelod o Gyngor Cymunedol Dolwyddelan.

Parhaodd y drafodaeth am ddwyawr a manteisiwyd ar y cyfle i godi nifer o bynciau llosg, megis:
(i) agwedd ac ymddygiad anfoddhaol un o’r meddygon ‘locum’ sy’n cael ei anfon yma gan y bwrdd iechyd
(ii) methiant cyson y Betsi i gydnabod ac i ymateb i ddwsinau o lythyrau cŵyn oddi wrth gleifion yr ardal, a rhai o’r rheini’n gwynion difrifol iawn
(iii) yr anhwylustod i bobol o’r ardal hon, sydd heb gar, fynd i lawr i Alltwen i gadw apwyntiad neu i ymweld ag anwyliaid sy’n gleifion yno
(iv) y ffaith bod BIPBC wedi dangos ffafriaeth, dro ar ôl tro, tuag at ardaloedd mwy llewyrchus glannau môr. 
(v) bod aelodau’r Bwrdd Prosiect Iechyd a Gofal Integredig (PIGCI) wedi anwybyddu barn pobl y cylch wrth benderfynu nad oedd arnom angen gwlâu i gleifion na gwasanaeth mân anafiadau nac uned pelydr-X mwyach.

Sut bynnag, yn ôl eu harfer doedd swyddogion y Betsi ddim yn barod i gydnabod unrhyw fai nac unrhyw fethiant ar eu rhan nhw, nac yn barod, chwaith, i ystyried hyd yn oed y cyfaddawd lleiaf! Yn hytrach, wrth i’r cyfarfod ddod i ben, apeliodd Dr Higson arnom i gydweithio efo’r Bwrdd Iechyd o hyn allan, a hynny er mwyn gwireddu’r union gynlluniau y mae pobol yr ardal yma wedi eu gwrthwynebu o’r cychwyn!

Fyddwn ni ddim yn gneud hynny, wrth gwrs, ond mae’n rhoi syniad ichi o sut bobol rydan ni’n ceisio delio efo nhw, sef swyddogion ar gyflogau uchel eu hunain sy’n rhoi mwy o bwys ar arbed arian nag ar wella amodau iechyd a lles pobl yr ardal hon!

Gyda llaw, fe ddywedodd Dr Higson unwaith eto nad oedd BIPBC wedi talu unrhyw sylw i ganlyniad y refferendwm llynedd.

Pam? Wel am nad oes gan Ddemocratiaeth ddim byd o gwbwl i’w wneud â’r modd y mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithredu, medda fo!

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, dyma ddywedodd Dr Whitehead, cadeirydd y PIGCI: ‘Os bydd ein cynlluniau ni’n llwyddo,’ medda fo, ‘bydd Blaenau Ffestiniog yn dangos y ffordd ymlaen i weddill Cymru.’ ‘Os’ go fawr oedd hwnnw, gyfeillion, ac un oedd yn awgrymu ansicrwydd Dr Whitehead hyd yn oed mor gynnar â hynny yn y broses. Ond gyda chefnogaeth gweddill ei Fwrdd Prosiect, rhai ohonyn nhw’n aelodau lleyg lleol, fe lwyddodd i gael ei ffordd, a thrwy hynny hyrwyddo amcanion y Betsi ar gyfer yr ardal hon. Erbyn heddiw, fedrwch chi ddychmygu unrhyw ran o ‘weddill Cymru’ yn dewis yr un llwybr â’r un a gafodd ei orfodi arnom ni, yma?

Y gwaith o ddymchwel rhannau o'r Ysbyty Coffa yn mynd rhagddo. Llun VPW, 27 Ebrill 2016. Cafodd y llun yma ei rannu 230 o weithiau a'i weld gan 14,000 o bobl o fewn deuddydd i'w roi ar dudalen gweplyfr/facebook Llafar Bro, a nifer yn rhoi sylwadau am y broses.

Mai 5ed
A dyma ni ar drothwy etholiadau unwaith eto. Gan mai’r refferendwm ar Ewrop ym Mehefin fydd yn cael y sylw mwyaf o ddigon, yna mae peryg i etholiadau’r Cynulliad ymddangos yn ddibwys i lawer ohonom.

Ond, i’r rhai ohonoch sy’n dal i deimlo’n ddig oherwydd y ffordd y mae’r Betsi wedi trin yr ardal hon, yna manteisiwch ar eich cyfle i ddangos eich ochor. Er enghraifft, os daw ymgeiswyr - waeth o ba blaid - at ddrws eich tŷ i ofyn am eich cefnogaeth, yna gofynnwch iddyn nhw’n blwmp ac yn blaen be mae’n nhw wedi’i neud, a be maen nhw’n fwriadu ei wneud ynghylch y gwasanaeth iechyd israddol sydd gynnon ni, bellach, yn y rhan hon o’r etholaeth.

Peidiwch, da chi, â cholli’ch cyfle i fwrw’ch pleidlais, hyd yn oed os ydach chi fel finna, bellach, yn ei chael hi’n anodd derbyn bod unrhyw fath o ddemocratiaeth yn bodoli tu hwnt i’r blwch pleidleisio.

Dydi peidio pleidleisio ddim yn dangos protest o unrhyw fath. Pan fo canran y bleidlais yn isel, nid fel ‘protest’ mae’r gwleidyddion yn egluro peth felly ond fel ‘diffyg diddordeb y cyhoedd’.

Ond mae’n bosib defnyddio’ch pleidlais mewn ffordd wahanol i ddangos protest, sef trwy ei difetha hi’n fwriadol gan nodi pam ar eich papur pleidlais. Beth mae hynny’n ei gyflawni, meddach chi? Wel, mae’r pleidleisiau a ddifethwyd hefyd yn cael eu cyfrif ac mae’r cyfanswm yn cael ei gyhoeddi. Os bydd y cyfanswm hwnnw’n uchel, yna bydd y wasg am gael gwybod pam, a phwy ŵyr na fydd eich protest yn cael sylw wedi’r cyfan!
GVJ
---------------------------------


Gallwch ddilyn yr hanes efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon