14.5.16

Trem yn ôl -Y Llwynog

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'. Y tro hwn o gyfres 'Colofn Bywyd Gwyllt' Ken Daniels.

Y llwynog
 
Mae llawer o storïau wedi’u hadrodd sy’n sôn am gyfrwystra’r llwynog sy’n anodd iawn eu coelio. Mae’n rhaid bod llawer ohonynt yn wir neu buasai’r llwynog wedi diflannu fel y blaidd. Bu’n rhaid iddo newid ei ddull o fyw mewn llawer lle.

Ceir enghreifftiau ohono’n chwilio am fwyd yn agos i dai. Yn ystod gaeaf caled iawn rai blynyddoedd yn ôl diflannodd llawer o gathod o’r ardal yn y nos. Yn y bore dywedodd llawer o bobl wrthyf fod ôl traed llwynog yn yr eira yn eu gerddi. Mae’n debyg mai llwynog oedd wedi bwyta’r cathod oherwydd prinder bwyd. Dywedodd heliwr profiadol wrthyf hefyd iddo weld darnau o grwyn cathod mewn daear llwynog.

Mae bwyd y llwynog yn amrywio llawer, cwningod a llygod o bob math, ac yn yr haf bydd yn bwyta ffrwythau. Gwelais un oedd yn bwyta llus a oedd yn tyfu ar graig serth. Mae’n bwyta chwilod a malwod a bydd yn cipio ambell i oen pan fydd cenawon yn y ddaear. Ond mae gen i ofn fod y llwynog druan yn cael y bai am lawer drwg a wna’r brain tyddyn.

Bywyd digon unig mae’r hen lwynog yn ei hoffi. Ym mis Rhagfyr bydd yn paru ac ar noson leuad ddistaw clywir y ci llwynog yn cyfarth a’r llwynoges yn ei ateb gyda sgrech o’r ochr arall i’r cwm. Yn fuan ar ôl hyn bydd y pâr yn hela gyda’i gilydd.

Yn niwedd Mawrth neu ddechrau Ebrill bydd y llwynoges yn geni pedwar neu bump o genawon, yn aml mewn hen ddaear cwningod neu ryw dwll o dan graig. Yn syth ar ôl i’r cenawon ddechrau bwyta a mentro allan o’r ddaear bydd y teulu i gyd yn symud i gartref mwy diogel o dan feini mawr neu domen hen chwarel.

Dywedodd bugail wrthyf iddo ddod ar draws llwynoges gydag un ar ddeg o genawon, sy’n beth anghyffredin iawn. Ond beth oedd wedi digwydd oedd bod ffermwr wedi saethu llwynoges rhyw hanner milltir i ffwrdd ac roedd y llwynoges arall wedi cario’r cenawon fesul un yr holl ffordd at ei chenawon ei hunan.

Ym misoedd yr haf bydd y teulu yn chwalu a phawb yn mynd ei ffordd ei hun.
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1983, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000. Bu yn rhifyn Mawrth 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon