2.5.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Gwawdio'r gwan a gwadu'r gwir

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Dyma'r bennod a baratowyd ar gyfer rhifyn Ebrill eleni. Aeth ar goll yn y wasg, felly mae'n ymddangos am y tro cyntaf yma ar y wefan.

Cerdyn a yrwyd adra o'r rhyfel. Diolch i Nita Thomas.
Wedi cyflwyno’r Ddeddf Orfodaeth ar dechrau 1916, daeth diwedd ar swyddogaeth recriwtwyr lleol, megis Lewis Davies, Y Gloch, ac yntau’n ymfalchïo iddo ‘berswadio’ dros 500 o fechgyn lleol i ymuno.

Er i nifer fawr o ddynion yr ardal ateb yr alwad i ymrestru cyn i orfodaeth gael ei gyflwyno yn gynnar yn 1916, yr oedd canran helaeth heb fod mor awyddus i wisgo lifrau'r fyddin. I'r sawl a wrthwynebai ymrestru  gorfodol, cyflwynodd y Swyddfa Ryfel drefn newydd o dribiwnlysoedd, i benderfynu a fyddai gan yr apelydd resymau dilys dros wrthod.

Sefydlwyd tribiwnlysoedd lleol, gyda chasgliad o rhwng chwech a deuddeg o aelodau dethol o'r gymdeithas yn gwasanaethu arnynt. Os na fyddai'r sawl fyddai'n apelio am ryddhad rhag gwasanaeth milwrol yn fodlon ar benderfyniad y panel detholedig hwnnw, byddai hawl ganddynt i apelio i Dribiwnlys Sirol. Gwasanaethai nifer o ddynion blaenllaw'r sir ar dribiwnlys y sir, ac yn arferol, yn wynebau dieithr i'r dynion a fyddent yn apelio am esgusodiad rhag ymuno.

Bu llawer o ddrwgdeimlad rhwng dynion a wynebent y tribiwnlysoedd, ac aelodau'r llysoedd hynny wedi eu sefydlu. Ceir adroddiadau yn y wasg ar y pryd o ymosodiadau corfforol ar aelodau rhai o'r tribiwnlysoedd, oherwydd natur y dasg a roddwyd gerbron yr aelodau rheiny. Fel y cynyddodd y niferoedd a fyddai'n ymddangos o flaen aelodau'r tribiwnlysoedd, felly hefyd y cynyddodd y drwgdeimlad tuag at y drefn ym mhob cymuned. Cymaint ofn yr awdurdodau o ddrwg-ymateb gan berthnasau colledigion y rhyfel tuag at gyn-aelodau o'r tribiwnlysoedd wedi diwedd y Rhyfel Mawr, fel y gorchmynnwyd i bob cofnod o'u gweithgareddau gael eu dinistrio yn 1922.

Cawn enghreifftiau lu yn y wasg yr adeg honno o ymateb rhai aelodau, swyddogion a chynrychiolwyr milwrol a fyddent yn ceisio penderfynu tynged y dynion fyddai'n ymddangos yn y llysoedd hynny, ac yn apelio am ryddhad rhag ymrestru. Ychydig iawn o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag at yr apelydd, yn aml. Byddai pwysau o du'r swyddogion milwrol i gael mwy o eneidiau i ymuno â'r lluoedd arfog yn golygu na fyddai sentiment yn rhan o'r trafodaethau yn rheolaidd.

Yr oedd nifer o resymau gan y rhai a fyddent yn apelio dros wrthwynebu ymrestru. Byddai adroddiadau manwl gan ohebyddion y wasg o'r digwyddiadau a'r trafodaethau yn y tribiwnlysoedd. Er bod hawl gan unigolyn a fyddai'n anghytuno â dyfarniad y tribiwnlys lleol gael apelio am wrandawiad gan aelodau tribiwnlys ei sir, anwybyddid ei gri yn aml. Cafwyd  nifer o enghreifftiau o ddylanwad y swyddogion milwrol oedd yn bresennol ym mhob un o'r tribiwnlysoedd. Roedd y modd y byddent yn ymddwyn tuag at rai o'r apelyddion yn ymylu ar greulondeb yn aml.

Yn Nhribiwnlys Apêl Sir Feirionnydd ym Mawrth 1916, gwrthodwyd ceisiadau mwy nac un gwrthwynebwr cydwybodol am esgusodiad rhag ymuno. Yr oedd un wedi gofyn caniatâd y tribiwnlys i gael ei anfon i ffatri arfau yn hytrach na mynd i'r fyddin. Roedd ganddo resymau personol i gael aros yn nes adref. Ond gofynnodd un Mr Martin, aelod o banel y tribiwnlys iddo "A ydych am fyned i wneud pethau i ladd pobl? Pwy ydych yn meddwl aiff i'w defnyddio?", gan dderbyn yr ateb parod gan yr apelydd "Rhywun â mwy o galon na fi."

Yn y golofn wythnosol, 'Y Rhyfel', ar 8 Ebrill, datganodd golygydd Y Rhedegydd ei farn yn hollol glir i'r darllenwyr, parthed y tribiwnlysoedd. Dan bennawd 'Y Tribiwnalau Eto' dechreuodd ei ysgrif gyda llinell o gynghanedd, a’r cyfan yn sillafiadau’r cyfnod:
Llai o sen - lle i synnwyr.
Pe bae angen cael rhywbeth mwy na'r ffeithiau a gofnodwyd gennyf o dro i dro er cyfiawnhau y feirniadaeth lem a roddwyd mewn ysgrifau blaenorol ar annoethineb ac annhegwch rhai o Dribiwnalau Cymru, ceir hynny yn ddi-ameu yn y cylchlythyr miniog a yrrwyd allan yr wythnos ddiweddaf gan Mr Walter Long, Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol at Dribiwnalau y Deyrnas. Mae Mr Long, fel mwyafrif o bobl deg a diragfarn wedi cael ei orfodi i gredu mai gwawdio'r gwan, a gwadu'r gwir wna aml i Dribiwnal. Geilw arnynt mewn geiriau digon plaen i roddi llai o sen a lle i synnwyr yn eu dyfarniadau. Geilw sylw arbennig at y ddau ddosparth y ceisiwyd yn yr ysgrifau hyn i amddiffyn eu cam, sef Mab y Weddw a'r gwrthwynebwr cydwybodol.
    Mae yn resyn meddwl fod rhai o Dribiwnalau Siroedd Cymru yn waeth troseddwyr yn y ddau beth uchod nag a fu Tribiwnalau Lleol. Dangosodd aml un o honynt yn hollol anghymwys i'r swydd, yn hollol analluog i ddal mantol cyfiawnder yn union...Hoffwn ddweyd wrth bawb a'r cyfryw, ai ar Dribiwnal Lleol neu Sirol yr eisteddant, fod Barnwr cyfiawnach na hwynt hwy wedi dweyd "A pha farn y barnoch y'ch bernir. A pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau." Ac ni lefarodd y gwr Hwnnw yr un gair yn ofer erioed.
        ------------------------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon