24.5.16

Stolpia -campwaith dewin

Pigion o golofn fisol Steffan ab Owain.

Cadair Eisteddfod yr Annibynwyr
Yn ddiweddar, derbyniais lun o gadair eisteddfod trwy law Tecwyn Vaughan Jones, un o olygyddion Llafar wrth gwrs, ac yntau wedi ei dderbyn oddi wrth Alun Roberts Jones (Stryd Dorfil gynt).

Llun o gadair Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog a gynhaliwyd ganddynt yn ystod Nadolig 1912 ydyw, ac y mae hi bellach mewn tafarndy yn ne Cymru. Dyma beth ddywed Alun amdani hi:
‘Mae'n debyg fod y gadair wedi bod yn nwylo'r tafarnwr a'i deulu ers dros hanner can mlynedd. Roedd wedi ei rhoi i'w dad mewn tafarn yn Gowerton, ger Abertawe, fel taliad am "ddyledion y bar" - efallai gan un o deulu'r bardd buddugol. Mae'r gadair wedi symud gyda'r teulu, ac yn awr y mae yn y Farmers Arms, Cefn Cribwr ger Penybont ar Ogwr.’
Addewais innau chwilio am ychydig o hanes yr eisteddfod a’r bardd buddugol iddo yntau a dyma beth ganfyddais amdanynt yn Y Glorian, Ionawr 1913 -
Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn y Neuadd Gynnull ar ddydd Nadolig 1912 a chaed amrywiaeth o gystadlaethau yno yn ystod y prynhawn a’r hwyr. Yn ystod cyfarfod yr hwyr cafwyd beirniadaeth Pedrog ar bryddest y gadair, a’r testun oedd ‘Ieuan Gwynedd’.

Ymgeisiodd 14 i gyd ond y gorau heb amheuaeth a gyda chanmoliaeth oedd y Parchedig D.Emrys James, Pontypridd. Gweinidog gyda’r Annibynwyr oedd ef. Cynrychiolwyd ef gan y Parchedig R. Edmunds, Dinbych. Cadeiriwyd mewn rhwysg dan arweinaid Pedrog a llu o feirdd “cartrefol” yn ei gynorthwyo.

Diolch i Bryn Jones, Fron Dirion, am dynnu fy sylw at hanes y bardd buddugol. Wel, y mae hi’n bur debyg mai wrth ei enw barddol Dewi Emrys yr adnabyddir ef gan y mwyafrif ohonom. Er iddo ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith ac er ei fod yn bregethwr penigamp, gyrfa go stormus a gafodd Dewi.

Ar ôl y Rhyfel Mawr aeth i Lundain fel newyddiadurwr i Stryd y Fflyd, ond aeth pethau o chwith iddo a bu’n rhaid iddo ganu y tu allan i rai o’r capeli gyda’i gap yn ei ddwylo er mwyn ennill ei damaid.

Yn ôl y Bywgraffiadur Cymreig: Aeth yn ddiofal yn ei berthynas â phobl, ac â'i eglwys, a threuliodd flynyddoedd fel pe'n ddiangor ac wedi ymwahanu oddi wrth ei deulu, - gwraig a dau fab. Y mae sȏn amdano yn galw i siop wystlo (pawn shop) i godi arian am goron eisteddfod a enillodd un tro.

Gwelwn felly, ei bod yn debygol bod Dewi wedi newid y gadair a enillodd yn y Blaenau am arian i dalu rhyw ddyled. Tybed beth a fyddai ymateb yr Annibynwyr wedi bod i’r hanes, ynte?

Beth bynnag oedd hanes Dewi, nid oes curo ar ei englyn i’r Gorwel, yn fy marn i:
Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas
Campwaith dewin hynod
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.
---------------------------------------------


O rifynnau Chwefror a Mawrth 2016. Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon