26.5.16

Llwyddiant Brethyn Blaenau!

Hanes crefftwyr a busnes lleol

Chwe mlynedd yn ôl, yng nghyfnod cyntaf Y Dref Werdd, cychwynnodd grŵp o’r newydd i ddysgu a rhannu sgiliau go draddodiadol ym Mro Ffestiniog. Roedd Rhiannon Jones, cogyddes yn Ysbyty Blaenau ar y pryd, yn darllen drwy y rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw pan welodd hi hysbyseb yn chwilio am bobl a oedd yn berchen ar sgiliau y gallai gael eu pasio ymlaen i eraill. Felly, cysylltodd hi â’r Dref Werdd gyda’i syniad.


Fel rhan o brosiect gyda’r Dref Werdd o dan y pennawd ‘Sgiliau Traddodiadol’, y bwriad oedd cael trigolion Bro Ffestiniog i ddysgu sgiliau newydd fel walio cerrig sych a thyfu llysiau. Daeth Rhiannon at staff Y Dref Werdd gyda’r syniad o gychwyn clwb gweu a gwnïo!


Unwaith bu’r drafodaeth am sut y byddai’r clwb yn cael ei redeg, dechreuodd yr hysbysebu a phenderfynwyd cynnal y sesiwn gyntaf ar nos Fawrth nôl yn mis Chwefror 2010. O’r cychwyn cyntaf, roedd yn amlwg fod 'na nifer fawr o ferched (hyd yn oed heddiw does dim dyn wedi mentro i’r clwb!) ym Mro Ffestiniog gyda diddordeb mewn gweu a gwnïo.

Ar ôl ychydig wythnosau, penderfynwyd cynnal sesiwn arall yn ystod y dydd fel bod modd i’r rhai nad oedd yn gallu mynd gyda’r nos allu cael y cyfle i ddysgu a sgwrsio gydag eraill. Roedd Rhiannon wedi synnu gyda’r nifer uchel o ferched oedd yn dangos diddordeb.

Ar ôl sawl mis o gael aelodau’r grŵp yn brysur yn gweu, gwnïo a chreu brodwaith, cafwyd y cyfle i arddangos eu gwaith yn llyfrgelloedd Blaenau a Dolgellau, a phrofodd hyn i fod yn llwyddiant mawr.

Ar hyd y cyfnod yma, roedd Rhiannon wedi cychwyn meddwl sut i ehangu ar y clwb a’r diddordeb lleol yn y grefft. Wedi dipyn o waith ymchwil, aeth ar gwrs cychwyn busnes wedi iddi gael syniad arall, roedd hi am agor siop ar stryd fawr y Blaenau!


Erbyn mis Awst 2011, roedd Rhiannon wedi cychwyn chwilio am siop addas ar hyd y stryd ac yn gwneud y gwaith caled sydd yn gysylltiedig â chychwyn busnes. Pan gyrhaeddod mis Chwefror 2012, daeth y cadarnhad ei bod hi’n berchen ar 33 Stryd Fawr, siop yng nghanol y dref fyddai yn dwyn yr enw Brethyn Blaenau.

Daeth y siop yn boblogaidd iawn yn syth gyda phobl leol yn galw i brynu eu stoc o edafedd neu wlân a symudodd y clwb gweu a gwnïo o’i fan cyfarfod arferol yn swyddfa Cymunedau’n Gyntaf i’r siop. Yn ogystal a’r newid mewn lleoliad, daeth y grŵp i fod o dan reolaeth Rhiannon (h.y. yn annibynnol ac nid yn rhan o’r Dref Werdd).

Yn ogystal â’r defnydd a’r offer gweu a gwnïo, mae’r siop nawr yn lle i ŵr Rhiannon, Alwyn, i redeg ei fusnes tynnu lluniau achlysurol yn ogystal â bod yn lle i argraffu eich lluniau ynddo, heb sôn am fod yn lle i fframio eich lluniau hefyd.

Mae’n amlwg fod ‘Brethyn Blaenau’ wedi dod yn adnodd hynod bwysig a llwyddiannus ar Stryd Fawr y Blaenau.


Wrth sgwrsio gyda Rhiannon, a hel atgofion am gychwyn y grŵp gweu a gwnïo, mae hi’n sôn fod dros 60 o ferched lleol wedi bod yn rhan o’r grŵp mewn un ffordd neu'r llall ers y dechrau. Mae wedi profi llwyddiant gwerth chweil, ac mae'n braf gweld busnes proffesiynol yn cael ei redeg mor dda - sydd yn chwarae rhan bwysig ar stryd fawr Blaenau.

Mae’n anodd cofio’r stryd heb siop Brethyn Blaenau ynddi bellach! Mae hefyd yn braf meddwl fod Y Dref Werdd wedi cael chwarae rhan yn helpu Rhiannon i weld cyfle i ddefnyddio ei diddordeb gyda’r grefft ac i’w droi, nid yn unig yn fusnes llwyddiannus iddi hi a’i theulu, ond, yn adnodd pwysig i’r dref hefyd.

Hir oes Brethyn Blaenau a da iawn Rhiannon a’r criw!
------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon