Darn allan o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014 (addasiad).
Rhai o ddisgyblion blwyddyn 3 a 4 yn gafael mewn cregyn misglod perlog dwr croyw.
Ar y 5ed o Chwefror daeth y prosiect ‘Perlau mewn Perygl’ i Ysgol Bro Hedd Wyn. Cafwyd prynhawn bach dymunol ofnadwy gyda 16 o ddisgyblion blwyddyn tri a phedwar.
Fe gafwyd sesiwn ar ‘stori’r eog’ ac yna am y fisglen berlog dwr croyw. Roedd y plant i weld yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau megis ‘cysylltiadau ecosystem’ a ‘mesur misglod’.
Fe aethom a 40 o wyau eogiaid i’r ysgol a braf oedd cael clywed fod y disgyblion wedi gofalu amdanynt a'u bod oll wedi deor. Edrychwn ymlaen at gael cydweithio ar ail ran y cynllun addysgol sef ar ymweliad safle ym mis Mai i ryddhau’r eogiaid i’r afon Eden ac edrych yn fanylach ar ecosystem yr afon.
----------------------------------------------------------------------------------------------
Prosiect dan arweiniad Dualchas Nadair na h-Alba (Scottish Natural Heritage) ydi Pearls in Peril. Elain Gwilym yw'r swyddog sy'n arwain y prosiect yn Eryri.
Ddiwedd Ebrill bu aelodau Cymdeithas Eryri'n gwirfoddoli ar y safle, trwy glirio coed conwydd, er mwyn gwella ansawdd y dwr yn Afon Eden ar gyfer y misglod.
Llun o'u gwefan
.
27.4.14
25.4.14
Cwis y Cymdeithasau
Diolch i griw Pengwern Cymunedol am atgyfodi Cwis y Cymdeithasau eleni.
Cynhaliwyd y noson yn Y Pengwern ar nos Iau, 24ain Ebrill 2014, ar ol bwlch o bedair neu bum mlynedd. Clwb Gwawr y Blaenau fu'n gyfrifol yn y gorffennol ac roedd chwith garw ar ol y nosweithiau hynny lle'r oedd y cymdeithau lleol i gyd yn dod ynghyd i dynnu coes a mwynhau noson gymdeithasol.
Cafwyd noson ddifyr iawn yn y Pengwern o gwestiynau Cymreig a'r 'stafell yn llawn o dimau brwdfrydig.
Mae Llafar Bro yn bencampwyr Cwis y Cymdeithasau yn y gorffennol, a does dim sail o gwbl i'r honiadau ein bod yn llyncu mul ar ol dod yn drydydd eleni!
Llongyfarchiadau i griw Y Wynnes, Rich O, Adrian, Val, a Dewi, ar eu buddugoliaeth eleni.
Merched y Wawr Blaenau yn mwynhau'r noson

20.4.14
Y diweddaraf gan Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa
Darn allan o rifyn Ebrill 2014:
Nid yw’n syndod i neb, bellach, bod aelodau’r Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig (PIGCI) wedi croesawu a chymeradwyo’r cynlluniau pensaernïol i addasu adeilad yr Ysbyty. Dim problem cael y gefnogaeth gan yr aelodau, meddai Dr Whitehead y Cadeirydd; ‘roedd fel gwthio yn erbyn drws agored.’ Sy’n deud llawer, wrth gwrs.
Fe ddywedir hefyd y bydd disgwyl inni wedyn gyfeirio at y lle fel ‘Canolfan Goffa’ yn hytrach nag ‘Ysbyty Coffa’. Ond gan y bydd y gwaith yn cymeryd o leiaf ddwy flynedd i’w gwblhau – gwanwyn 2016 yn ôl pob sôn optimistaidd! - yna teg ydi gofyn pa enw y dylen ni ei ddefnyddio yn y cyfamser? Yr ‘Hen Ysbyty Coffa’ efallai, er parchus goffadwriaeth? Neu beth am ‘Canolfan Goffa yn yr Arfaeth’? Neu, wedi meddwl, tybed a oes angen enw o gwbwl ar y lle, o wybod na fydd fawr o ddefnydd arno, beth bynnag, dros y ddwy flynedd a rhagor sydd i ddod? Falla y byddai côd post yn ddigon ynddo’i hun!
.......................
Ar Fawrth 13eg, caed adroddiad yn y Daily Post am y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn cyfarfod ag aelodau’r PIGCI yma yn Stiniog ac yn defnyddio’r achlysur i glochdar i’r wasg am y gwasanaethau gwych sydd yn ein haros (ymhen dwy flynedd!). Ond pwy, tybed, a gafodd wybod ymlaen llaw ei fod o’n dod i’r dref o gwbwl? Tybed a gafodd y trefniant ei gadw’n dawel yn fwriadol, rhag ofn i ni, pobol wyllt Stiniog, fynd yno i brotestio a tharfu arno?
Ers i Mr Drakeford gael ei ddyrchafu i’w barchus arswydus swydd ym mis Mawrth llynedd – dyrchafiad cyflym ar y naw, o ystyried nad oedd o hyd yn oed yn aelod o’r Cynulliad tan 2011 - mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi anfon pedwar cais ato, y diweddaraf fis yn ôl, yn gofyn iddo gyfarfod dirprwyaeth ohonom, i drafod dyfodol yr Ysbyty Coffa. Ond ein hanwybyddu neu’n gwrthod gawson ni bob tro, er inni gynnig mynd i lawr i Gaerdydd i’w weld.
Sy’n codi’r cwestiwn PAM? A pham, meddech chi, na fasa fo wedi cynnig ein cyfarfod ni tra’r oedd o yn Stiniog yn ddiweddar? Cyfle i ladd dau dderyn fyddech chi’n tybio! Ond dewis peidio wnaeth o! Enghraifft arall, siŵr o fod, o fel mae rhai o’n gwleidyddion ni yn gosod eu hunain uwchlaw gwerin gwlad! Gyda llaw, y cymal olaf yn natganiad y Gweinidog i’r Daily Post oedd hwn (ac rwy’n cyfieithu) – ‘.. mae gan bobol yr hawl cyfansoddiadol i leisio’u barn ac i gymeryd rhan yn y broses.’ Un da am jôc ydi Mr Drakeford, mae’n amlwg! Yn union fel ei fêt Dr Bill Whitehead. Dyma oedd gan hwnnw i’w ddeud – ‘Pan fyddwn ni wedi cwblhau ein cynlluniau yn ystod y misodd nesaf, byddwn yn ymgynghori gyda chleifion, meddygon ac aelodau’r cyhoedd.’ Ymgynghori ar ôl i bob dim gael ei benderfynu! Ia, yr un hen stori!
..............................
Tua’r un adeg ag ymweliad y Gweinidog Iechyd, roedd gohebydd y Caernarfon & Denbigh Herald yn cyfeirio at holiadur y Pwyllgor Amddiffyn ac yn dweud mai dim ond‘rhai’ o’r trigolion oedd wedi ymateb yn gadarnhaol iddo. PWY, meddech chi, a fu’n bwydo’r wybodaeth gamarweiniol honno i’r papur? Ac, yn bwysicach fyth, PAM fydden nhw’n gneud hynny?
Fe benderfynodd y Pwyllgor Amddiffyn argraffu 500 copi o’r holiadur er mwyn rhoi cyfle i ganran go dda ohonoch chi gael mynegi barn. Teimlem fod 500 yn ganran teg iawn o’r boblogaeth, o gofio mai 180 ar y mwyaf ohonoch a gafodd gyfle i fynychu sesiynau ymgynghorol y Bwrdd Iechyd yn 2012.
Hyd yma, fe gafodd 469 o’r holiaduron eu llenwi a’u hanfon yn ôl atom ac mae rheini i gyd (ac eithrio un!) yn cefnogi’r galw am adfer gwlâu a gwasanaethau pelydr-X a mân anafiadau i’r dref.
468 allan o 469 ohonoch yn gwbwl bendant ar y mater, ac ambell aelod o’r PIGCI yn eich mysg! (Gyda llaw, wyddom ni ddim yn iawn be ddigwyddodd i’r 31 holiadur na chafodd eu dychwelyd ond mae tystiolaeth bod rhai ohonynt wedi cael eu difa’n fwriadol!) Sut bynnag, gan mai defnyddio canrannau mae bwrdd iechyd y Betsi yn ei wneud bob amser i gyfiawnhau eu penderfyniadau, yna fe wnawn ninnau yr un peth, sy’n golygu bod 99.78% ohonoch yn unfryd unfarn y dylid cael y gwasanaethau hyn i gyd yn ôl. Ond eto i gyd, dewis cau llygad a throi clust fyddar i’ch dymuniadau chi a wnaeth Mr Drakeford ac aelodau’r Betsi a’r PIGCI, ac mae’n achos pryder gwirioneddol bod ein Aelod Cynulliad a’n cynghorwyr ni mor dawel ar y mater. GVJ

18.4.14
Coron Stiniog
Darn o newyddion cyffrous o rifyn Ebrill, gan y Cynghorydd Rory Francis, am Goron Eisteddfod Genedlaethol 1898, yn dychwelyd i'r dref lle'i cynhaliwyd.
Efallai i chi weld neu glywed yr hanes ar y teledu neu'r radio ddoe (Ebrill17eg). Ar waelod y dudalen mae dolen i wefan BBC Cymru.
(Dyma lun a dynnodd gwefeistr Llafar Bro pan gafodd gipolwg o'r goron rai wythnosau'n ol. Mae'n llun digon sal, ond yn rhoi argraff o'i harddwch. Mae lluniau eraill ar wefan BBC Cymru, yn fan hyn.)
Efallai i chi weld neu glywed yr hanes ar y teledu neu'r radio ddoe (Ebrill17eg). Ar waelod y dudalen mae dolen i wefan BBC Cymru.
"Mae cadair yr Eisteddfod honno
yn siambr y Cyngor yn barod, lle mae’n cael ei defnyddio bob mis gan y
Cadeirydd.
Bellach, mae Dr Melinda Price, merch Gwladys a Dafydd Price, wedi
llwyddo i brynu Coron yr Eisteddfod honno. Ac yn fwy na hynny, mae Dr Price â’i
bryd ar roi’r Goron i’r Cyngor Tref, fel y gall gael ei harddangos yn lleol, er
enghraifft trwy’r Gymdeithas Hanes leol.
Yn ôl y sôn mae’r Goron yn werth ei
gweld, wedi ei gwneud i edrych fel dail derw. Fe gytunodd y Cyngor i dderbyn y
rhodd hael yma, gan ddiolch yn wresog i Dr Price, ac i gysylltu â’r Gymdeithas
Hanes i drafod y manylion."
(Dyma lun a dynnodd gwefeistr Llafar Bro pan gafodd gipolwg o'r goron rai wythnosau'n ol. Mae'n llun digon sal, ond yn rhoi argraff o'i harddwch. Mae lluniau eraill ar wefan BBC Cymru, yn fan hyn.)
16.4.14
Y Cymdeithasau Hanes
Mae'r Cymdeithasau Hanes wedi cael chwarter cyntaf prysur a difyr hefyd.
Dyma ddetholiad o newyddion Cymdeithad Hanes Bro Ffestiniog; Cymdeithas Hanes Bro Cynfal; a Chymdeithas Trawsfynydd, o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:
Dyma ddetholiad o newyddion Cymdeithad Hanes Bro Ffestiniog; Cymdeithas Hanes Bro Cynfal; a Chymdeithas Trawsfynydd, o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:
Cymdeithas Hanes Bro
Ffestiniog
Steffan ab Owain oedd llywydd
cyfarfod Chwefror. Yr oedd y neuadd yn
orlawn efo nifer dda o’r gwrandawyr heb fod yn aelodau o’r Gymdeithas ac yno am
y tro cyntaf. Mwyaf thebyg y rheswm am hyn oedd mai Vivian Parry Williams oedd
yn darlithio ar y testun “ Dechrau Cynllun Trydan Tanygrisiau” ac yr oedd rhai
o’r cyn-weithwyr yno i’w gefnogi.
Dechreuodd drwy ddangos sleidiau o Gwm
Ystradau cyn i’r cynllun gymeryd lle a gwelsom Tŷ Newydd , Aelgoch a Buarth Melyn
yn glir iawn.
McAlpine a Cementation oedd y prif
gontractwyr ac efo mwy na 800 yn gweithio ar y cynllun a nifer dda ohonynt o’r
ardal yr oedd arian yn llifo i mewn i
siopau lleol.
Clywsom am drafferthion adeiladu argae
Stwlan ac am y twneli a shafftiau anferth yn cario’r dŵr i lawr i’r pwerdŷ, a
sut bu’n rhaid cau yr orsaf am gyfnod yn 1971 achos perygl i’r argae o
ffrwydriad yn chwarel Croesor, ochr arall i’r mynydd, lle ystoriwyd tunelli o
ddefnyddiau ffrwydrol.
Yr oedd digonedd o sylwadau ar y diwedd
a talwyd y diolchiadau swyddogol gan Dafydd Lloyd Williams.
Geraint Lloyd Jones oedd y gŵr gwadd yng
nghyfarfod Mawrth, a’i destun oedd “Y Methodistiaeth ym Maentwrog” ac fel
golygydd y gyfrol Hanes Maentwrog defnyddiodd ambell i bennod o’r gyfrol i
baratoi ei ddarlith.
Yn gyntaf soniodd am Lowri
William(1704-1778) a ddaeth i fyw i Bandy’r Ddwyryd o Ddwyfor yn dilyn ei
herlid achos ei chefnogaeth i Fethodistiaeth. Yn fuan dechreuodd gyfarfodydd
Methodistiaeth yn ei chartref ac ambell i ffermdy arall. Arferai wyth o bobl
fynychu y cyfarfodydd hyn yn rheolaidd ac fe adnabwyd hwy fel yr wyth enaid. Yr
oedd erledigaeth yn parhau yn yr ardal hon hefyd achos y mae sôn am Lowri William
ac un arall yn cael eu niweidio gan eu taflu i’r afon ger Trawsfynydd.
Un arall a fu yn amlwg yng ngwaith y
Methodistiaid oedd yr “hynod” William Ellis (1789- 1855). Yr oedd yr enwog John
Jones ,Talysarn yn arfer pregethu yn yr ardal a chael cryn ddylanwad ar ei
wrandawyr. Ond beth a wnaeth i William Ellis gael troedigaeth fel gŵr ifanc
oedd clywed pregeth yn ddamweiniol gan y Parch John Elias ac yn dilyn hyn daeth
William Ellis yn flaenllaw iawn ym mywyd Methodistiaeth yr ardal. Soniodd
Geraint hefyd am yr adeiladau yn cynnal Ysgol Sul (fel y Dduallt) a’r capeli a
godwyd ym Maentwrog a Gellilydan yn sgil codi Methodistiaeth yno. Yr oedd
llawer iawn o sylwadau a chwestiynau ar ddiwedd y ddarlith yn brawf o
ddiddordeb y gwrandawyr ynddi.
Cymdeithas Hanes Bro
Cynfal
Ein gwr gwadd yng
nghyfarfod cynta’r flwyddyn oedd y Tad Deiniol a phleser oedd cael ei gyflwyno
unwaith eto atom. Rhoddwyd ychydig o’i
hanes, gan son am ei fywyd a’i waith o fewn yr eglwys Uniongred. Testun ei ddarlith oedd ‘Hanes yr Eglwys
Uniongred’ a diddorol oedd nodi mai aelodau’r eglwys hon yw trigolion gwledydd
Groeg, Rwsia, Bwlgaria a Romania, ac nad oes pennaeth yn yr Eglwys
Uniongred. Aeth yn ei flaen i olrhain
hanes yr Eglwys a’r cysylltiad a’r eglwysi Brythoneg cynnar oedd yn rhan o’r
eglwys fyd eang. Er mai Groeg oedd iaith
y Beibl, roedd y ffydd yn fyd –eang yn y cyfnod cynnar, a’r aelodau yn
Gristionogion. Diolchwyd iddo gan Nesta
a bu sgwrsio difyr yn dilyn.
Cyfarfu’r gymdeithas
wedyn ar nos Fercher, Mawrth 5. Cyflwynodd Emyr ein gwr gwadd, nad oedd angen
cyflwyniad arno, sef Dafydd Jones, Yr Hen Bost. Y Crynwyr oedd testun Dafydd a
chawsom glywed ganddo sut y daeth yn aelod o Gymdeithas y Cyfeillion.
Cywreinrwydd a’i harweiniodd i’r cyfarfod cyntaf yn Frongoch. Buan y gwelodd
fod yr egwyddorion yn gydnaws a’r hyn oedd yn chwilio amdano. Bellach bu’n
aelod ers hanner can mlynedd. Dywedodd nad oes sacramentau fel Cymun a Bedydd o
fewn y gymdeithas, ac hefyd fod y symlrwydd wedi apelio’n fawr ato, wrth gofio
am y rhwysg a geir o fewn yr eglwysi mawrion. Cawsom glywed am George Fox,
sefydlydd y Gymdeithas. Roedd Morgan Llwyd a rhan anuniongyrchol ym mudiad y
Crynwyr gan iddo anfon dau o’i eglwys yn Wrecsam yn 1653 i gyfarfod a George
Fox. Un ohonynt oedd John ap John a throdd ef at y Crynwyr gan deithio gyda Fox
ar hyd a lled Cymru i gyhoeddi’r neges. Dioddefodd y Crynwyr erledigaeth lem a
chreulon fel y gwyr pawb ddarllenodd ac a wyliodd ‘Stafell Ddirgel’ a ‘Rhandir
Mwyn’ gan Marion Eames.
Y Gymdeithas, Trawsfynydd
Ein gwr gwadd yn
Ionawr oedd Glyn Jones, a fagwyd yn Abergeirw.
Tipyn o Gerdd Dant
oedd testun ei sgwrs. Er mai adrodd oedd
yn mynd a’i fri mi ddaru Glyn a Derfel Roberts yntau o Abergeirw gystadlu ar
ddeuawd yng Nghyfarfod Bach Abergeirw a’r diweddar Gwenllian Dwyryd yn
beirniadu, hithau’n annog y ddau i ganu Cerdd Dant a bu’r ddau yn mynd ati am
hyfforddiant.
O hynny ymlaen bu’r
ddau yn hynod lwyddiannus yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Genedlaethol a chael
llwyfan bob tro ond bu’r ddau’n fuddugol yn Eisteddfod Bala yn 1967 a Bangor yn
1971.
Yn Chwefror, un o
fechgyn Traws ddaeth atom sef Keith O’Brien. Mae Keith yn hynod weithgar yn y
gymuned ac wedi gwneud llawer o waith ymchwil i hen hanesion yr ardal. Hanes a lluniau Ffestin Davies o’r Welsh Imperial Singers oedd sgwrs
Keith. Fe anwyd Ffestyn Robert Davies yn
Nhynpistyll, Traws ac aeth i weithio yn un o chwareli ‘Stiniog. Yn 1890 aeth
i’r Unol Daleithiau a gwneud enw iddo’i hun ym myd cerddoriaeth a chael ei alw
“The Great Welsh Tenor”. Bu’n rhoi
gwersi canu ac arwain corau. Sefydlodd y
Welsh Imperial Singers yn 1928 a’r 22 o aelodau wedi cael eu dethol o bob cwr o
Gymru. Fe aeth y cor ar daith i’r Unol
Daleithiau am gyfnod o flwyddyn oedd yn gryn fenter.
Bu farw Ffestin Davies
yn 1944 ac fe’i gladdwyd ym mynwent Traws gyda’i chwaer Kate.
Ar nos Lun, Mawrth 3,
braf iawn oedd cael croesawu un arall o fechgyn Traws i ddathlu Gwyl Ddewi gyda
ni yn y Capel Bach. Mae’r Parch. Aled Edwards yn adnabyddus drwy Gymru gyfan ac
yn ymfalchio yn ei wreiddiau tra’n tyfu fyny’n Traws. Mynychodd ysgolion Traws
a’r Moelwyn ac aeth i astudio Diwynyddiaeth a Hanes yng Ngholeg Llanbed ac yna
i Goleg y Drindod ym Mryste ac fe’i ordeiniwyd i’r Eglwys yng Nghymru yn 1979.
Mae’n hysbys i lawer ohonom ei fod yn Brif Weithredwr Cytun sydd yn cydweithio
gydag eglwysi o bob cred. Mae hefyd yn gweithio rhan amser i’r Comisiwn
Cydraddoldeb ac yn un o gyfarwyddwyr Stadiwm y Mileniwm. Roedd gan Aled
atgofion hapus tra’n blentyn pan oedd Gwyn Erfyl a Meurwyn Williams yn
weinidogion yn y Traws ac hefyd steddfodau bach y gymdeithas.
14.4.14
Merched y Wawr a Sefydliad y Merched
Cafodd y merched gychwyn prysur iawn i'r flwyddyn eto eleni ym Mro Ffestiniog.
Dyma ddetholiad o newyddion o'r canghennau o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:
Dyma ddetholiad o newyddion o'r canghennau o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:
MERCHED Y WAWR, Blaenau.
Cynhaliwyd cyfarfod
Chwefror ar y 24ain yn y Ganolfan Gymdeithasol o dan lywyddiaeth Ceinwen
Humphries. Cyhoeddwyd y bydd tlws am
lefaru, oed cynradd, yn cael ei gynnig yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala, yn enw
cangen y Blaenau.
Gwraig wadd y noson
oedd Naomi Jones, rheolwraig prosiect “Yr Ysgwrn”gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae wrth y gwaith o ofalu am y tŷ, adeiladau'r fferm, y tir amaethyddol, yr
ardd a'r byngalo ers blwyddyn bellach; yn mwynhau'r gwaith ac yn frwdfrydig
iawn yn ei gylch. Siaradodd yn ddifyr
ac addysgiadol iawn am hanes y safle a rhan Hedd Wyn y bardd a'r milwr
ynddo. Cyflwynodd ddarlun o gyfnod y
rhyfel byd cyntaf mewn ardal wledig, sydd mor addas o gofio mai eleni y cofir
canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Mawr. Diolchodd Pegi Lloyd Williams i Naomi am
noson ardderchog.
Y gŵr a'r wraig wadd ym
mis Mawrth oedd Olwen a Wyn Jones, Ty'n Braich, Dinas Mawddwy. Rhoddodd Olwen gefndir y fferm a'r teulu i
ni, teulu oedd wedi byw yn Nhy'n Braich yn ddi-dor dros y canrifoedd ers
1012. Dangoswyd ffilm am y tri brawd
dall oedd yn gefndir i nofel arbennig Angharad Price - “O! Tyn y Gorchudd”. Mae Angharad, wrth gwrs, yn gyfnither i Wyn
ac yn aelod pwysig o deulu Ty'n Braich.
Yna aeth Wyn ymlaen i roi darlun i ni o'i daid a'i nain a'i dri ewythr –
y tri brawd, a phwysleisiodd mor bwysig ydy cofnodi profiadau teuluol rhag
iddynt fynd yn anghof.
Diolchodd Megan yn
gynnes i'r ddau am hanes mor ddiddorol.
Merched y Wawr Llan
Bu cyfarfod cyntaf
2014 yn y Neuadd ar nos Fawrth, Chwefror 4ydd.
Yn absenoldeb ein llywydd Iona, croesawyd yr aelodau gan Nesta, ynghyd
a’n hysgrifennydd Ann. Pleser i Nesta
oedd cyflwyno Sian Northey i’r aelodau. Braf
oedd cyflwyno hogan sydd wedi ei magu yn yr ardal, ac sydd erbyn hyn wedi
cyflawni llawer yn myd llenyddiaeth Gymraeg gan ennill llawer gwobr, gyda mwy o
lyfrau ar y gweill i ddod yn ystod 2014.
Ar wahan i’w llyfrau ei hun, mae wedi bod yn gyfrifol am olygu tair
cyfrol.
Cafwyd detholiad o rai
o’i llyfrau a’u cefndir ac roedd yn noson ddiddorol.
Cyfarfu’r merched
wedyn i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Pengwern. Croesawyd Wenna Francis Jones, Megan,
Lowri, Awel a Rhodri atom ac fe gawsom noson arbennig yn eu cwmni. Cafwyd
amrywiaeth hyfryd o ganeuon ganddynt, ac hefyd llefaru gan Rhodri a cherdd dant
gan Awel, gyda Wenna yn cyfeilio iddynt. Noson arbennig a phawb wedi mwynhau a
diolchwyd iddynt gan Iona. Yna cafodd pawb gawl cennin wedi ei baratoi gan staff
y Pengwern – canmoliaeth a diolch i Karen.
Merched y Wawr Trawsfynydd
Ein gwraig wadd yn Chwefror oedd
Rhiannon Parry, Penygroes. Hi yw golygydd Y Wawr a bydd ei gwaith yn dod
i ben ar ol y rhifyn nesaf.
Llongyfarchwyd hi ar safon y cylchgrawn yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.
Athrawes wrth ei
galwedigaeth hyd nes i ddau gyfnod o salwch blin iawn a misoedd mewn hosbis
olygu iddi droi at bwytho.
Tra’n byw yn Llansanan,
mynychodd ei dosbarth brodio cyntaf yn Y Rhyl.
Cawsom weld gwaith o wahanol gyfnodau o’i bywyd. Roedd yn wledd cael gweld darnau o’i gwaith
amlgyfrwng – llun o Flodeuwedd wedi’i ysbrydoli gan R.S. Thomas, Awyr a Mor gan
ddefnyddio darnau o dun, plastig a sbwriel bigodd oddi ar draeth
Llanddulas. Roedd wedi llifo hen flanced
o eiddo ei mam yng nghyfraith a rhoi pwythau man trwyddo a gosod dail o ffelt
yn addurn. Hyfryd! Clustog wedi’i ysbrydoli tra yn Llydaw; llun
bwthyn bach ei modryb a llinell o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts. Popeth yn dangos dychymyg eithriadol.
Ar nos Iau, Mawrth 20,
daeth aelodau’r gangen at ei gilydd i ddathlu dydd Gwyl Ddewi yng ngwesty’r
Cross Foxes yn y pentre. Daeth Beti Puw Richards, Maesywaen a phedair o aelodau
parti Perlais i’n diddanu ar ol y pryd bwyd blasus. Edryd Williams, Bethel,
oedd eu hunawdydd gwadd, dewr yng nghanol yr holl ferched. Arweinwyd y noson
gan Rhian Elena o Lanfihangel Glyn Myfyr a Beti wrth y piano. Cafwyd rhaglen
amrywiol iawn o unawdau, deuawdau, pedwarawdau a’r pump yn canu gyda’i gilydd.
Mae ystod gallu cerddorol y bobl ifanc yma yn eang iawn – cerdd dant, alawon
gwerin, caneuon o’r sioeau cerdd a chaneuon traddodiadol Cymreig. Yn ychwanegol
at y cyfeiliant piano cafwyd unawd i gyfeiliant gitar gan Rhian Elena. Er bod
yr awyrgylch yn gartrefol braf, barn pawb ar y diwedd oedd i hwn fod yn
gyngerdd gwerth chweil a chafwyd cymeradwyaeth brwd.
SEFYDLIAD
Y MERCHED Blaenau.
Cyfarfu'r
Sefydliad nos Fawrth, Chwefror 25 i ddathlu noson Gymreig gyda Mrs Wenna
F. Jones a Mrs Delyth Lloyd-Grey a chwech o blant talentog iawn.
Cawsom
unawdau a deuawdau gan y plant, Megan, Lowri,Awel, Rhodri, ac Ioan yr ieuengaf
sydd yn 5 oed, hefyd cawsom adroddiad gan Rhodri, "Fy Ystafell Wely"
Diolchwyd iddynt gan Mrs Lina Jones. Derbyniwyd
gwahoddiad gan Sefydliad Llan Ffestiniog i ymuno a hwy i
glywed sgwrs am Owain Glyndwr.
Ein gwr gwadd ym mis Mawrth oedd
Mr Gareth T. Jones yn arddangos lluniau o'r ardal rhwng 1950 a 1970. Rhai fel Moi R.E.
a'i geffyl, codi Ffatri Metcalf a'i agor yn 1954, Pwerdy Tanygrisiau a
llawer mwy. Diolchwyd iddo gan Mrs Lina Jones am noson ddifyr iawn.
11.4.14
Tommo yn Stiniog!
Wythnos yn ol bu Tommo, Radio Cymru yn y Blaenau yn siarad efo rhai o'r trigolion.
Bob dydd yr wythnos hon, roedd ganddo eitem lleol ar ei raglen brynhawn.
Dyma ddolenni; mae'r darnau o Stiniog tua 1 awr a 36 munud i mewn i'w raglen (1' 26 Mercher):
Dydd Llun, Ebrill y 7fed- Catrin Roberts yn trafod teithiau cerdded i ddysgwyr Cymraeg i oedolion a Siop y Gloddfa.
Dydd Mawrth yr 8fed- Ioan, Owain, Dafydd, Gwion, Susan, Erin, Iwan, Beca, Elan, Gethin, Aled a Llion o Ysgol Maenofferen yn ceisio ateb y cwestiwn 'Pwy ydi Carwyn Jones'!
Dydd Mercher y 9fed- Catrin eto, efo Tammy, dysgwraig lleol
Dydd Iau y 10fed- disgyblion Maenofferen yn trafod be sy'n eu gwneud nhw'n flin!
Dim ond munud neu ddau oedd pob eitem yn anffodus. Dwi'n siwr bod teuluoedd y rhai gymrodd ran yn falch o'u clywed, ac nid lle Llafar Bro ydi dweud os oedd cyfiawnhad dros dalu cyflogau staff y BBC am ddiwrnod er mwyn recordio darnau mor rhyfeddol o fyr... ond be' ydych chi'n feddwl? Gadewch i ni wybod.
Cofiwch hefyd: dim ond am ychydig ddyddiau mae Radio Cymru yn cadw'r rhaglenni ar y we.

3.4.14
'Gwlad Rhyfel'
Dau ddarn o Llafar Bro, a bron degawd rhyngddynt, yn trafod yr un maes, a'r un awdur.
Y FAINC SGLODION- Y Cymry a Brodorion America
Cafodd aelodau'r Fainc eu tywys dros For Iwerydd at berthynas rhai o Gymry'r 19eg ganrif â'r Americanwyr brodorol.
Brodor o Cincinatti, Ohio, sydd bellach yn Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yw Jerry Hunter. Y mae wedi ehangu'n sylweddol ein hymwybyddiaeth o'n lle fel cenedl ymysg cenhedloedd.
Aeth y darlithydd a ni'n ol tua canrif a hanner, i faes o ddiddordeb arbennig iddo, blynyddoedd Rhyfel Cartref yr America, 1861-1865. Yn y pedair mlynedd hynny, ymddangosodd tua 10,000 o gyhoeddiadau Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. Er mai cynharol ychydig oedd nifer y Cymry Cymraeg o fewn poblogaeth oedd yn cynyddu'n gyflym, cyhoeddid yr wythnosolyn Y Drych* yn Utica, talaith Efrog Newydd, ac ymddangosai tri misolyn sylweddol. Roedd tua 300 o gapeli Cymraeg yno bryd hynny.
Gydol y ganrif honno, roedd y Cenhedloedd brodorol yn cael eu gwthio tua'r gorllewin. Gogledd talaith Georgia oedd tiriogaeth y Cherokee hyd yr 1830'au, mynnai Llywodraeth UDA eu symud fil o filltiroedd tua'r gorllewin i Tenesee: glanhau ethnig creulon. Roedd arweinwyr galluog a hyddysg ymhlith y Cherokee, ac enillasant achos yn yr uchel lys, ond llwyr anwybyddodd yr Arlywydd Jackson hynny.
Wedi i Evan Jones, oedd yn hanu o Sir Frycheiniog ymfudo i Philadelphia, aeth i genhadu ymhlith y Cherokee ym mynyddoedd Gogledd Carolina. Fo a'i deulu yn unig, o blith y cenhadon, a arhosodd ymysg y brodorion. Daeth ef yn rhugl yn iaith y Cherokee, ac roedd yn gyfaill mawr a'r pennaeth. Prynodd wasg argraffu a chyfieithu Taith y Pererin i'r iaith frodorol.
Ef oedd yr unig ddyn gwyn a ddysgai blant y Cherokee trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain. Yn wahanol i rai o arweinwyr y Cymry a lyncodd bropaganda Sefydliad y dyn gwyn, gwelsai Evan Jones dwyll a thrais y mudo gorfodol ac ysgrifennodd yn frwd am y creulondeb.
* llun o wefan y BBC- dyma ddolen: Y Drych
Darn gan DBJ o rifyn Mawrth 2014 yw'r uchod (addasiad).
LLWCH CENHEDLOEDD- Y Cymry a Rhyfel Cartref America
'Nol yn 2003 darlledodd S4C gyfres Y Cymry a Rhyfel Cartref America** gan 'Cwmni Da', yn seiliedig ar ymchwil Jerry Hunter, a chyhoeddwyd llyfr ganddo i gyd-fynd a'r rhaglenni ardderchog (Carreg Gwalch). Fel un o lannau Afon Ohio, "yr hen ffin rhwng taleithiau caeth y De a thaleithiau rhydd y Gogledd", roedd aelodau o'i deulu wedi ymladd ar y ddwy ochr, a "straeon am y rhyfel yn rhan o hanes" ei deulu.
Ysgrifennodd VPW y darn isod yn Llafar Bro, Medi 2004 (cofiwch bod yr ol-rifynnau i gyd ar gael yn llyfrgell y Blaenau), yn tynnu sylw at bytiau perthnasol yn y llyfr uchod, sy’n cyfeirio at ein milltir sgwar:
STINIOG A RHYFEL CARTREF AMERICA
Yng nghyfrol hynod ddiddorol Jerry Hunter ar y Cymry a Rhyfel Gartref America ‘Llwch Cenhedloedd’ rhoddir sylw i rai o Flaenau Ffestiniog oedd â chysylltiad a’r rhyfel.
Ar dudalen 251 ceir cyfeiriad at Rowland Walters, brodor o Stiniog oedd wedi ennill cryn enwogrwydd fel bardd yn eisteddfodau America, dan yr enw barddol Ionoron Glan Ddwyryd. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd Rowland yn 42 oed, ac nid ymrestrodd â’r fyddin. Ond, serch hynny bu i sawl darn o farddoniaeth o’i law ymddangos ym mhapurau Cymraeg America a’r hen wlad i atgoffa’r darllenwyr o erchyllterau’r rhyfel honno, ynghyd a marwnadau i’r dynion a gollwyd ar faes y gad.
Gwelir cofnod o’r teulu ‘Walter’ yng nghofnodion cyfrifiad 1851 Blaenau Ffestiniog, yn trigo yn Cefn Faes House. Cofnodwyd fod Rowland, chwarelwr 32 oed, yn byw yno gyda’i rieni, brawd a dau wyr a wyres i’w rieni. Tybir iddo ymfudo i’r Amerig y flwyddyn ddilynol 1852. Bu farw yn Fairhaven, Vermont ym Mawrth 1884.
Gwelir cyfeiriad yn y llyfr hefyd (tt.236 i 238) at Joseph Humphrey Griffiths, genedigol o Flaenau Ffestiniog a oedd wedi ymfudo gyda’i deulu i’r Amerig pan oedd yn blentyn, ac wedi ymrestru â’r ‘5th Iowa Cavalry’ pan oedd yn 18 oed yn ôl yr awdur. Dywed iddo gael ei gymryd yn garcharor i ganolfan carcharorion rhyfel yn Andersonville, lle bu farw dan amgylchiadau erchyll, a chladdwyd ef ym mynwent y carchar. Cyhoeddwyd penillion a gyfansoddwyd gan ei dad er cof amdano yn un o bapurau Cymraeg America y cyfnod. Mae enw Joseph i’w weld ar gofnodion cyfrifiad Blaenau Ffestiniog am 1851, yn blentyn pedair oed gyda’i rieni, Humphrey a Margaret Griffiths a chwaer bump oed, yn rhif 2 Uncorn yng nghanol y dref.
Enwau eraill o’r Blaenau a ddygid i sylw yw Owen M. Thomas ac Elinor ei wraig, ‘gynt o Ddolgarregddu, Ffestiniog’, a oedd wedi mudo i Fairhaven. Yn y gyfrol ceir cofnod o gydymdeimlad y ‘Cenhadwr Americanaidd’ â’r teulu o golli eu mab 17 oed, John, milwr gyda’r 5ed gatrawd o wirfoddolion Vermont, a laddwyd ym mrwydr Wilderness, Virginia, ar Fai 5, 1864.
Tybed a oes disgynyddion i’r teuluoedd uchod yn dal i fyw yn yr ardal? Gadewch i’r ‘Llafar’ wybod os ydych yn perthyn.
** Dolen S4C
Y FAINC SGLODION- Y Cymry a Brodorion America
Cafodd aelodau'r Fainc eu tywys dros For Iwerydd at berthynas rhai o Gymry'r 19eg ganrif â'r Americanwyr brodorol.
Brodor o Cincinatti, Ohio, sydd bellach yn Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yw Jerry Hunter. Y mae wedi ehangu'n sylweddol ein hymwybyddiaeth o'n lle fel cenedl ymysg cenhedloedd.
Aeth y darlithydd a ni'n ol tua canrif a hanner, i faes o ddiddordeb arbennig iddo, blynyddoedd Rhyfel Cartref yr America, 1861-1865. Yn y pedair mlynedd hynny, ymddangosodd tua 10,000 o gyhoeddiadau Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. Er mai cynharol ychydig oedd nifer y Cymry Cymraeg o fewn poblogaeth oedd yn cynyddu'n gyflym, cyhoeddid yr wythnosolyn Y Drych* yn Utica, talaith Efrog Newydd, ac ymddangosai tri misolyn sylweddol. Roedd tua 300 o gapeli Cymraeg yno bryd hynny.
Gydol y ganrif honno, roedd y Cenhedloedd brodorol yn cael eu gwthio tua'r gorllewin. Gogledd talaith Georgia oedd tiriogaeth y Cherokee hyd yr 1830'au, mynnai Llywodraeth UDA eu symud fil o filltiroedd tua'r gorllewin i Tenesee: glanhau ethnig creulon. Roedd arweinwyr galluog a hyddysg ymhlith y Cherokee, ac enillasant achos yn yr uchel lys, ond llwyr anwybyddodd yr Arlywydd Jackson hynny.
Wedi i Evan Jones, oedd yn hanu o Sir Frycheiniog ymfudo i Philadelphia, aeth i genhadu ymhlith y Cherokee ym mynyddoedd Gogledd Carolina. Fo a'i deulu yn unig, o blith y cenhadon, a arhosodd ymysg y brodorion. Daeth ef yn rhugl yn iaith y Cherokee, ac roedd yn gyfaill mawr a'r pennaeth. Prynodd wasg argraffu a chyfieithu Taith y Pererin i'r iaith frodorol.
Ef oedd yr unig ddyn gwyn a ddysgai blant y Cherokee trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain. Yn wahanol i rai o arweinwyr y Cymry a lyncodd bropaganda Sefydliad y dyn gwyn, gwelsai Evan Jones dwyll a thrais y mudo gorfodol ac ysgrifennodd yn frwd am y creulondeb.
* llun o wefan y BBC- dyma ddolen: Y Drych
Darn gan DBJ o rifyn Mawrth 2014 yw'r uchod (addasiad).
LLWCH CENHEDLOEDD- Y Cymry a Rhyfel Cartref America
Llun- Gwasg carreg Gwalch |
Ysgrifennodd VPW y darn isod yn Llafar Bro, Medi 2004 (cofiwch bod yr ol-rifynnau i gyd ar gael yn llyfrgell y Blaenau), yn tynnu sylw at bytiau perthnasol yn y llyfr uchod, sy’n cyfeirio at ein milltir sgwar:
STINIOG A RHYFEL CARTREF AMERICA
Yng nghyfrol hynod ddiddorol Jerry Hunter ar y Cymry a Rhyfel Gartref America ‘Llwch Cenhedloedd’ rhoddir sylw i rai o Flaenau Ffestiniog oedd â chysylltiad a’r rhyfel.
Ar dudalen 251 ceir cyfeiriad at Rowland Walters, brodor o Stiniog oedd wedi ennill cryn enwogrwydd fel bardd yn eisteddfodau America, dan yr enw barddol Ionoron Glan Ddwyryd. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd Rowland yn 42 oed, ac nid ymrestrodd â’r fyddin. Ond, serch hynny bu i sawl darn o farddoniaeth o’i law ymddangos ym mhapurau Cymraeg America a’r hen wlad i atgoffa’r darllenwyr o erchyllterau’r rhyfel honno, ynghyd a marwnadau i’r dynion a gollwyd ar faes y gad.
Gwelir cofnod o’r teulu ‘Walter’ yng nghofnodion cyfrifiad 1851 Blaenau Ffestiniog, yn trigo yn Cefn Faes House. Cofnodwyd fod Rowland, chwarelwr 32 oed, yn byw yno gyda’i rieni, brawd a dau wyr a wyres i’w rieni. Tybir iddo ymfudo i’r Amerig y flwyddyn ddilynol 1852. Bu farw yn Fairhaven, Vermont ym Mawrth 1884.
Gwelir cyfeiriad yn y llyfr hefyd (tt.236 i 238) at Joseph Humphrey Griffiths, genedigol o Flaenau Ffestiniog a oedd wedi ymfudo gyda’i deulu i’r Amerig pan oedd yn blentyn, ac wedi ymrestru â’r ‘5th Iowa Cavalry’ pan oedd yn 18 oed yn ôl yr awdur. Dywed iddo gael ei gymryd yn garcharor i ganolfan carcharorion rhyfel yn Andersonville, lle bu farw dan amgylchiadau erchyll, a chladdwyd ef ym mynwent y carchar. Cyhoeddwyd penillion a gyfansoddwyd gan ei dad er cof amdano yn un o bapurau Cymraeg America y cyfnod. Mae enw Joseph i’w weld ar gofnodion cyfrifiad Blaenau Ffestiniog am 1851, yn blentyn pedair oed gyda’i rieni, Humphrey a Margaret Griffiths a chwaer bump oed, yn rhif 2 Uncorn yng nghanol y dref.
Enwau eraill o’r Blaenau a ddygid i sylw yw Owen M. Thomas ac Elinor ei wraig, ‘gynt o Ddolgarregddu, Ffestiniog’, a oedd wedi mudo i Fairhaven. Yn y gyfrol ceir cofnod o gydymdeimlad y ‘Cenhadwr Americanaidd’ â’r teulu o golli eu mab 17 oed, John, milwr gyda’r 5ed gatrawd o wirfoddolion Vermont, a laddwyd ym mrwydr Wilderness, Virginia, ar Fai 5, 1864.
Tybed a oes disgynyddion i’r teuluoedd uchod yn dal i fyw yn yr ardal? Gadewch i’r ‘Llafar’ wybod os ydych yn perthyn.
** Dolen S4C
Subscribe to:
Posts (Atom)