Dyma ddetholiad o newyddion Cymdeithad Hanes Bro Ffestiniog; Cymdeithas Hanes Bro Cynfal; a Chymdeithas Trawsfynydd, o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:
Cymdeithas Hanes Bro
Ffestiniog
Steffan ab Owain oedd llywydd
cyfarfod Chwefror. Yr oedd y neuadd yn
orlawn efo nifer dda o’r gwrandawyr heb fod yn aelodau o’r Gymdeithas ac yno am
y tro cyntaf. Mwyaf thebyg y rheswm am hyn oedd mai Vivian Parry Williams oedd
yn darlithio ar y testun “ Dechrau Cynllun Trydan Tanygrisiau” ac yr oedd rhai
o’r cyn-weithwyr yno i’w gefnogi.
Dechreuodd drwy ddangos sleidiau o Gwm
Ystradau cyn i’r cynllun gymeryd lle a gwelsom Tŷ Newydd , Aelgoch a Buarth Melyn
yn glir iawn.
McAlpine a Cementation oedd y prif
gontractwyr ac efo mwy na 800 yn gweithio ar y cynllun a nifer dda ohonynt o’r
ardal yr oedd arian yn llifo i mewn i
siopau lleol.
Clywsom am drafferthion adeiladu argae
Stwlan ac am y twneli a shafftiau anferth yn cario’r dŵr i lawr i’r pwerdŷ, a
sut bu’n rhaid cau yr orsaf am gyfnod yn 1971 achos perygl i’r argae o
ffrwydriad yn chwarel Croesor, ochr arall i’r mynydd, lle ystoriwyd tunelli o
ddefnyddiau ffrwydrol.
Yr oedd digonedd o sylwadau ar y diwedd
a talwyd y diolchiadau swyddogol gan Dafydd Lloyd Williams.
Geraint Lloyd Jones oedd y gŵr gwadd yng
nghyfarfod Mawrth, a’i destun oedd “Y Methodistiaeth ym Maentwrog” ac fel
golygydd y gyfrol Hanes Maentwrog defnyddiodd ambell i bennod o’r gyfrol i
baratoi ei ddarlith.
Yn gyntaf soniodd am Lowri
William(1704-1778) a ddaeth i fyw i Bandy’r Ddwyryd o Ddwyfor yn dilyn ei
herlid achos ei chefnogaeth i Fethodistiaeth. Yn fuan dechreuodd gyfarfodydd
Methodistiaeth yn ei chartref ac ambell i ffermdy arall. Arferai wyth o bobl
fynychu y cyfarfodydd hyn yn rheolaidd ac fe adnabwyd hwy fel yr wyth enaid. Yr
oedd erledigaeth yn parhau yn yr ardal hon hefyd achos y mae sôn am Lowri William
ac un arall yn cael eu niweidio gan eu taflu i’r afon ger Trawsfynydd.
Un arall a fu yn amlwg yng ngwaith y
Methodistiaid oedd yr “hynod” William Ellis (1789- 1855). Yr oedd yr enwog John
Jones ,Talysarn yn arfer pregethu yn yr ardal a chael cryn ddylanwad ar ei
wrandawyr. Ond beth a wnaeth i William Ellis gael troedigaeth fel gŵr ifanc
oedd clywed pregeth yn ddamweiniol gan y Parch John Elias ac yn dilyn hyn daeth
William Ellis yn flaenllaw iawn ym mywyd Methodistiaeth yr ardal. Soniodd
Geraint hefyd am yr adeiladau yn cynnal Ysgol Sul (fel y Dduallt) a’r capeli a
godwyd ym Maentwrog a Gellilydan yn sgil codi Methodistiaeth yno. Yr oedd
llawer iawn o sylwadau a chwestiynau ar ddiwedd y ddarlith yn brawf o
ddiddordeb y gwrandawyr ynddi.
Cymdeithas Hanes Bro
Cynfal
Ein gwr gwadd yng
nghyfarfod cynta’r flwyddyn oedd y Tad Deiniol a phleser oedd cael ei gyflwyno
unwaith eto atom. Rhoddwyd ychydig o’i
hanes, gan son am ei fywyd a’i waith o fewn yr eglwys Uniongred. Testun ei ddarlith oedd ‘Hanes yr Eglwys
Uniongred’ a diddorol oedd nodi mai aelodau’r eglwys hon yw trigolion gwledydd
Groeg, Rwsia, Bwlgaria a Romania, ac nad oes pennaeth yn yr Eglwys
Uniongred. Aeth yn ei flaen i olrhain
hanes yr Eglwys a’r cysylltiad a’r eglwysi Brythoneg cynnar oedd yn rhan o’r
eglwys fyd eang. Er mai Groeg oedd iaith
y Beibl, roedd y ffydd yn fyd –eang yn y cyfnod cynnar, a’r aelodau yn
Gristionogion. Diolchwyd iddo gan Nesta
a bu sgwrsio difyr yn dilyn.
Cyfarfu’r gymdeithas
wedyn ar nos Fercher, Mawrth 5. Cyflwynodd Emyr ein gwr gwadd, nad oedd angen
cyflwyniad arno, sef Dafydd Jones, Yr Hen Bost. Y Crynwyr oedd testun Dafydd a
chawsom glywed ganddo sut y daeth yn aelod o Gymdeithas y Cyfeillion.
Cywreinrwydd a’i harweiniodd i’r cyfarfod cyntaf yn Frongoch. Buan y gwelodd
fod yr egwyddorion yn gydnaws a’r hyn oedd yn chwilio amdano. Bellach bu’n
aelod ers hanner can mlynedd. Dywedodd nad oes sacramentau fel Cymun a Bedydd o
fewn y gymdeithas, ac hefyd fod y symlrwydd wedi apelio’n fawr ato, wrth gofio
am y rhwysg a geir o fewn yr eglwysi mawrion. Cawsom glywed am George Fox,
sefydlydd y Gymdeithas. Roedd Morgan Llwyd a rhan anuniongyrchol ym mudiad y
Crynwyr gan iddo anfon dau o’i eglwys yn Wrecsam yn 1653 i gyfarfod a George
Fox. Un ohonynt oedd John ap John a throdd ef at y Crynwyr gan deithio gyda Fox
ar hyd a lled Cymru i gyhoeddi’r neges. Dioddefodd y Crynwyr erledigaeth lem a
chreulon fel y gwyr pawb ddarllenodd ac a wyliodd ‘Stafell Ddirgel’ a ‘Rhandir
Mwyn’ gan Marion Eames.
Y Gymdeithas, Trawsfynydd
Ein gwr gwadd yn
Ionawr oedd Glyn Jones, a fagwyd yn Abergeirw.
Tipyn o Gerdd Dant
oedd testun ei sgwrs. Er mai adrodd oedd
yn mynd a’i fri mi ddaru Glyn a Derfel Roberts yntau o Abergeirw gystadlu ar
ddeuawd yng Nghyfarfod Bach Abergeirw a’r diweddar Gwenllian Dwyryd yn
beirniadu, hithau’n annog y ddau i ganu Cerdd Dant a bu’r ddau yn mynd ati am
hyfforddiant.
O hynny ymlaen bu’r
ddau yn hynod lwyddiannus yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Genedlaethol a chael
llwyfan bob tro ond bu’r ddau’n fuddugol yn Eisteddfod Bala yn 1967 a Bangor yn
1971.
Yn Chwefror, un o
fechgyn Traws ddaeth atom sef Keith O’Brien. Mae Keith yn hynod weithgar yn y
gymuned ac wedi gwneud llawer o waith ymchwil i hen hanesion yr ardal. Hanes a lluniau Ffestin Davies o’r Welsh Imperial Singers oedd sgwrs
Keith. Fe anwyd Ffestyn Robert Davies yn
Nhynpistyll, Traws ac aeth i weithio yn un o chwareli ‘Stiniog. Yn 1890 aeth
i’r Unol Daleithiau a gwneud enw iddo’i hun ym myd cerddoriaeth a chael ei alw
“The Great Welsh Tenor”. Bu’n rhoi
gwersi canu ac arwain corau. Sefydlodd y
Welsh Imperial Singers yn 1928 a’r 22 o aelodau wedi cael eu dethol o bob cwr o
Gymru. Fe aeth y cor ar daith i’r Unol
Daleithiau am gyfnod o flwyddyn oedd yn gryn fenter.
Bu farw Ffestin Davies
yn 1944 ac fe’i gladdwyd ym mynwent Traws gyda’i chwaer Kate.
Ar nos Lun, Mawrth 3,
braf iawn oedd cael croesawu un arall o fechgyn Traws i ddathlu Gwyl Ddewi gyda
ni yn y Capel Bach. Mae’r Parch. Aled Edwards yn adnabyddus drwy Gymru gyfan ac
yn ymfalchio yn ei wreiddiau tra’n tyfu fyny’n Traws. Mynychodd ysgolion Traws
a’r Moelwyn ac aeth i astudio Diwynyddiaeth a Hanes yng Ngholeg Llanbed ac yna
i Goleg y Drindod ym Mryste ac fe’i ordeiniwyd i’r Eglwys yng Nghymru yn 1979.
Mae’n hysbys i lawer ohonom ei fod yn Brif Weithredwr Cytun sydd yn cydweithio
gydag eglwysi o bob cred. Mae hefyd yn gweithio rhan amser i’r Comisiwn
Cydraddoldeb ac yn un o gyfarwyddwyr Stadiwm y Mileniwm. Roedd gan Aled
atgofion hapus tra’n blentyn pan oedd Gwyn Erfyl a Meurwyn Williams yn
weinidogion yn y Traws ac hefyd steddfodau bach y gymdeithas.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon