29.11.15

Llyfr Taith Nem -'eisiau llonydd mae crwydryn'

Pennod arall o Lyfr Taith Nem, hanesion rhyfeddol Nem Roberts, Rhydsarn yn ‘Merica, a llythyr at y golygydd gan un a gyfarfu Nem yno.


1929
Unwaith yr oeddwn yn teithio mewn cerbyd modur o Los Angeles, Califfornia. Cychwynasom am hanner dydd er mwyn cyrraedd anialwch y Mojova. Nid oedd y ffyrdd mewn cyflwr da yr adeg honno, a theimlwn fod perchennog y cerbyd yn gyrru yn rhy wyllt ar ffyrdd cyffredin. Y canlyniad oedd cwympo i ffos ar ochr y ffordd a malu y pwmp tanwydd a’r ffenestr flaen. Bu fy mhrofiad yn gynhorthwy a llwyddasom i fynd ymlaen, ond erbyn tua dau o’r gloch y bore yr oedd y gyrrwr wedi blino, a rhaid oedd aros a cheisio cysgu yn y modur ar ochr y ffordd.

Y peth nesaf oedd clywed drws y cerbyd yn cael ei agor a gŵr gyda hances boced am ei wyneb a gwn yn ei law yn gorchymyn i ni godi ein breichiau wrth ein pennau. Yr oedd lleidr arall yr ochr arall i’r cerbyd. Dychrynais yn enbyd, wedi’r cyfan nid peth dymunol ydyw i ddyn gael ei ddeffro o drwmgwsg i wynebu llawddryll.

Pwysodd un o’r lladron ei lawddryll yn fy meingefn, a rhoddodd law yn fy mhoced a chymerodd bum dolar, yr oll oedd yn y boced honno. Dechreuais fynd drwy’r pocedi eraill, ond dywedais wrtho mai pum dolar oedd yr oll feddiannwn. Yn rhyfedd iawn coeliodd fi, ond pe tae wedi chwilio yn fanwl mi fuasai wedi dod o hyd i gant a hanner o ddoleri mewn poced yn fy nghrys. Llwyddodd y lleidr arall i gymeryd $200 o boced fy nghyfaill, ac ugain doler oddi ar frawd oedd yn eistedd y tu ôl. 

“Penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler”

Tra yn sefyll a’m breichiau i fyny meddyliais am geisio taro y lleidr a fy mhenelin, ond penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler. Penderfyniad doeth oedd hynny, mae’n debyg, gan y buasai y lleidr wedi gallu fy saethu yn hawdd cyn i mi ddod a’m braich i lawr. Wedi dwyn yr arian gorfododd y lladron i’r gyrrwr bwyntio ei gerbyd tua’r gorllewin a’i siarsio i beidio ei dilyn, neu fwled fuasai’r atebiad! Am weddill y siwrnai 3000 milltir, rhaid oedd i mi dalu’r costau i gyd o LA i Philadelphia, ac yna i Efrog Newydd. Buasai yn well i mi fod wedi teithio gyda’r trên – ac yn llawer rhatach!

Cefais brofiad rhywbeth yn gyffelyb yng nghanol dinas Efrog Newydd: un diwrnod yr oeddwn yn cerdded yn araf ac yn edrych o gwmpas yn ddigon didinwed. Yn sydyn cerddodd dau ddyn i’m hwyneb, a gafaelodd un yn fy ngôt, gan fygwth fy lladd yn y fan a’r lle os na roddwn fy holl arian iddo. Rhaid oedd penderfynu mewn amrantiad beth i’w wneud yn yr argyfwng. Ceisiais yr hen ‘bluff’, yr oeddwn yn meddwl mai dau rodresgar oeddynt, ond rhoddasant fygythiad terfynol i mi, yr arian neu fwled. Penderfynais ymddangos fel pe mewn dychryn, yn wir yr oeddwn wedi dychryn, ac wn i ddim sut olwg oedd arnaf, ond dywedodd un rhywbeth wrth y llall, a gollyngodd fi, ac ar yr eiliad honno neidiais rhwng dau gerbyd ar ochr yr heol. Mae’n debyg mai dyna’r symudiad cyflymaf wnes erioed yn fy mywyd. Aeth y ddau ymlaen ac anadlais yn rhydd drachefn.

Mae’r crwydryn gan amlaf eisiau llonydd, ond hefyd, camgymeriad mawr i unrhyw grwydryn ydyw rhoi ei drwyn ym musnes rhywun arall. Y gyfrinach ydyw i’r crwydryn feindio ei fusnes ei hun, a gadael i bawb a phob peth arall weithio eu hiachawdwriaeth eu hunain. Mae yn bwysig iawn cadw allan o bob helynt, oherwydd nid oes fawr o gydymeimlad â dieithryn mewn unrhyw fan. Fel mater o ffaith anhawdd ydyw cael y gwir grwydryn i son am ei brofiad. Y gŵr sydd yn cymeryd arno ei fod wedi crwydro llawer ydyw’r mwyaf awyddus i siarad am ei deithio. Mae’n debyg bod llawer o resymau am hyn. Yn y lle cyntaf, unigolyn ydyw’r gwir grwydryn, a gwyr nad ydyw ei ddiddordebau ef yn ddiddorol i eraill. Yn yr ail le mae llawer o hanes bob crwydryn yn gyfryw na ellid yn hawdd eu hadrodd na’u croniclo; ond mae’n debyg bod hynny’n wir yn hanes yr helyw o blant dynion. Hefyd profiadau personol sydd gan y crwydryn ac nid llawer o brofiadau cymdeithasol.

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998. 
Yn yr un rhifyn oedd llythyr at y Golygydd:

Annwyl Olygydd,
Wrth ddarllen Llafar Bro y mis yma a gweld hanes Nem Roberts ynddo fe ddaeth llawer o atgofion i’m meddwl. Yn y flwyddyn 1930 yr oeddwn yn byw yn Los Angeles, Califfornia, ac yn mynychu’r Capel Cymraeg ar 12th Vanenski. Ymysg yr aelodau yno yr oedd Nem Roberts o Ffestiniog a chefais aml sgwrs ag ef a llawer hwyl wrth iddo son am rhai troeon yn ei fywyd. Yn y flwyddyn 1932 yn 23 oed yr oeddwn yn gadael LA ac yn dychwelyd i Gymru gan deithio fy hunan ar y trên i Efrog Newydd, taith o filoedd o filltiroedd ac a gymero rhai dyddiau.

Erbyn hyn yr oedd Nem Roberts wedi gadael LA ac yn Efrog Newydd felly dyma gysylltu ag ef a bu yn garedig iawn. Fe ddaeth i’r orsaf yn Efrog Newydd i fy nghyfarfod a mynd a fi i dŷ ffrindiau yr oeddem ni’n dau yn eu hadnabod gan eu bod hwythau wedi byw yn LA. Bu hen siarad a bwyta ar ôl cyrraedd cartref Mr a Mrs Wright a daeth Nem hefo nhw drannoeth i fy rhoi yn ddiogel ar fwrdd y ‘Sythia’ ar y fordaith yn ôl i Gymru.

Ymhen rhai blynyddoedd wedyn a finnau wedi priodi ac yn byw yma daeth Nem drosodd i Ffestiniog a daeth i’m gweld. Cefias y fraint o roi croeso iddo i dalu tipyn bach am ei garedigrwydd i mi yn Efrog Newydd.

Rwyf yn mwynhau darllen Llafar Bro ac wedi cadw barddoniaeth o waith Rhagfyrun Pierce (gynt) oedd yn gefnder i mi.

Bessie Glyn Williams. Porthmadog.

--------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

27.11.15

Colofn y Pigwr -aros mae'r peilonau mawr

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm am bwnc lleol arall.

Gwrando ar y radio un bore, a chlywed y newyddion syfrdanol bod y Grid Cenedlaethol am wneud cymwynas fawr â thrigolion cefn gwlad. Y gymwynas mewn golwg oedd i’r cwmni weld synnwyr cyffredin, wedi’r holl flynyddoedd o beidio â gwrando ar leisiau’r trigolion, a phenderfynu dymchwel y peilonau hyll sydd wedi hagru golygfeydd godidog ein bröydd.

Dyffryn Maentwrog *

Roedd y llinellau trydan am gael eu claddu yn y ddaear, meddai’r sylwebydd, yn llawn ffydd. 

Yr oedd rhagolygon am Ddyffryn Ffestiniog, a’r olygfa o ben yr Allt Goch tua’r Ddwyryd yn glir o erchylltra’r peilonau hynny yn freuddwyd i unrhyw un sy’n caru’r ardal hyfryd hon. Wedi dros hanner canrif o orfod diodde’r hyllbethau hyn yn effeithio ar olygfa oedd wedi rhyfeddu teithwyr dros y blynyddoedd cynt, edrychid ymlaen am weld diwedd ar y peilonau.

Ond, och a gwae! Camargraff a roddwyd ar y cyfrwng. Nid yma mae’r chwalfa i fod, ond i lawr yn aber y Ddwyryd ger Penrhyndeudraeth, a dim ond yno.

Anghofiwch am y lein o bwerdy Tanygrisia’ i Drawsfynydd, a phellach, mae honno’n aros yn union yn yr un fan, heb newid o gwbl. Anghofiwch am y llinell dros y Migneint unigryw, mae honno’n aros hefyd, fel pob un arall yng ngogledd Cymru, a mannau eraill.

Dim ond y lein sy’n hagru ardal Cilfor a Phenrhyn sy’n cael ei chladdu, a dyna hi.  Mae’n costio gormod i gladdu milltiroedd o linellau trydan, meddai uchel-swyddogion y Grid Cenedlaethol, a diolchwch am be’ ‘dach chi’n gael.

Felly, anghofiwn linellau anfarwol yr Arglwydd Lyttleton, am yr olygfa i lawr o dop yr Allt Goch yn 1756, (yn yr iaith fain wrth gwrs, a chyn dyfodiad trydan!):
‘Gyda gwraig serchog, cyfaill cywir, a chasgliad da o lyfrau, gall dyn dreulio oes yn y dyffryn hwn, a meddwl mai diwrnod ydoedd…’. 
Llinellau tra gwahanol fu’n ein poeni ni ers tro, sydd yn ein poeni'r dyddiau hyn, ac am amser maith eto, mae’n beryg’. Trueni na fyddai cais cynllunio yn cael ei gyflwyno am Atomfa neu bwerdy newydd yn yr ardal hon heddiw ynte? Yn sicr, ni fyddai pobl 2015 mor barod i gyfaddawdu â’r rhai diniwed y 1950au a’r 60au.

Yn siŵr i chi, byddai sicrhau fod pob llinell drydan mewn ardaloedd o harddwch naturiol o dan y ddaear, yn rhan o amodau'r oes hon. Power to the people ddeudsoch chi?


[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015. ]
* Llun gan PW 21ain Tachwedd 2015
-------------------------

Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

25.11.15

Sgotwrs Stiniog -Gamallt

Erthygl arall o gyfres reolaidd Emrys Evans, y tro hwn o rifyn Tachwedd 1998.

Llynnoedd y Gamallt.
Mae yna gryn dipyn o bysgota wedi bod ar y ddau Lyn Gamallt ers pan agorwyd hwy i’w pysgota yn 1994.

Fel y cofir cauwyd Llynnoedd y Gamallt rhag cael eu pysgota rhwng 1986 ac 1993, er mwyn i’r Awdurdod Afonydd (yr adeg hynny) gael edrych i mewn i gyflwr y llynnoedd ac i geisio gweld beth a ellid ei wneud i’w hadfer, fel bo pysgod yn medru byw a magu ynddynt eto.

Gwariodd yr Awdurdod lawer o arian ac o amser ar y gwaith yma, ac fe roddwyd calch ar y tir sydd ym mhen uchaf y Llyn Mawr ac ym mhen isaf y Llyn Bach, i wella ansawdd y dŵr.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd (sydd wedi dod yn lle yr Awdurdod Afonydd) yn awr angen cael gwybod sut mae’r ddau lyn wedi pysgota ers pan y’u hagorwyd, sef, cyflwr y pysgod, natur y pysgota, ac yn y blaen. Cyn y gellir llunio adroddiad i’r Asiantaeth rhaid yw cael gwybod gan y rhai sydd wedi pysgota Llynnoedd y Gamallt faint o bysgod y maent wedi eu dal ynddynt, a beth yw eu barn am y pysgota ac am y pysgod.

Apeliwn, felly, ar i bawb sydd wedi pysgota Llynnoedd y Gamallt ers 1994 i lenwi un o’r taflenni yn siop Frank Roberts, Stryd yr Eglwys.

Llyn a Chraig Goch Gamallt. Llun PW

Yn y rhan o’r Afon Ddwyryd sydd rhwng Pont Maentwrog a gwaelod tir Dol y Moch, mae yna bwll yn yr afon sy’n cael ei alw yn ‘Llyn Deg-ar-Hugain’. Pwy fedr ddweud rhywbeth amdano? Beth yw ei hanes? Pam y mae’n cael ei alw yn ‘Llyn Deg-ar-Hugain’? Buaswn yn falch iawn o gael unrhyw wybodaeth amdano, waeth pa mor fychan. Anfonwch air os oes gennych unrhyw beth i’w ddweud amdano.
---------------------------------
Cwtogwyd yr erthygl wreiddiol, gan adael allan fanylion gweithgareddau oedd i ddod yng ngaeaf 1998.

Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


23.11.15

Colofn Yr Ysgwrn – Cartref Hedd Wyn

Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn, yn cychwyn cyfres o erthyglau yn cofnodi'r hyn sy'n digwydd yn Yr Ysgwrn.
(Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015)

Creu Campwaith gyda phlant lleol

Mae’n gyfnod cyffrous yn Yr Ysgwrn ar hyn o bryd gyda’r gwaith o warchod a datblygu cartref Hedd Wyn wedi cychwyn.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw perchnogion Yr Ysgwrn bellach, ac mae cadw naws arbennig y safle’n bwysig iawn iddynt. Mae’n her a braint i minnau gael gweithio ar ddatblygiad mor ddifyr ac amrywiol, ac un sy’n agos iawn at fy nghalon fel hogan o’r Traws.

Mae’r adeiladwyr yn cychwyn gweithio ar y safle’r mis yma, ac er bod cryn dipyn o waith i’w wneud i atgyweirio’r tŷ a’r adeiladau, mae ‘na fyrdd o agweddau eraill i’r prosiect, a does yr un diwrnod yr un fath!

Oherwydd y gwaith datblygu bydd drysau’r Ysgwrn yn cau dros dro i ymwelwyr ddiwedd mis Tachwedd. Er hynny rydym yn gobeithio parhau i ddweud stori Hedd Wyn a’r Ysgwrn ym Mhlas Tan-y-bwlch mewn arddangosfa bwrpasol. Cawsom help plant o rai o ysgolion y fro i greu deunydd i’r arddangosfa, sydd bellach yn werth ei gweld.

Bu plant ysgolion Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn a Bro Cynfal yn gweithio’n ddiwyd efo’r artist Luned Rhys Parri cyn gwyliau’r haf i ail greu cegin Yr Ysgwrn mewn ‘papier mache’. Gan ddefnyddio hen botiau iogwrt, glud a phaent aethant ati i greu campwaith! Mae’r dresel, y cloc mawr a’r lle tân bellach wedi eu gosod yn yr arddangosfa ym Mhlas Tan-y -bwlch, drws nesaf i replica’r Gadair Ddu. Gwelir rhai o’r plant yn y llun.


Cafodd y plant wahoddiad i agoriad swyddogol yr arddangosfa ddechrau mis Medi, ac wedi sgwrs ddifyr am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf gan yr awdur Haf Llewelyn, torrwyd y rhuban gan Gerald Williams a’i chwaer Malo (sef nai a nith Hedd Wyn). Cafodd pawb gyfle wedyn i weld y gegin, replica’r gadair ddu a’r cynlluniau sydd ar droed, cyn cael digonedd o frechdanau a chacennau yn y Plas ei hun.

Braf oedd gweld cymaint o rieni a phlant wedi troi allan i gefnogi, ac mae 'nghydweithwyr a minnau’n edrych ‘mlaen at wneud llawer mwy efo pobl a phlant yr ardal ar wahanol agweddau o’r prosiect.

Mae croeso i unrhyw un daro mewn i weld yr arddangosfa, a gallwn gynnig  sgyrsiau ar Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn a’r cyfnod yn y Plas, yn ogystal â theithiau o gwmpas y gerddi a lluniaeth o bob math i grwpiau a chymdeithasau.

llun APCE
Dyma rai o’r digwyddiadau sydd gennym ar y gweill rhwng rŵan a’r 'Dolig:


Tachwedd 28ain, diwrnod agored yn Yr Ysgwrn - y cyfle olaf am gyfnod.


Os oes unrhyw un yn awyddus i gael gwybod mwy am unrhyw un o’r digwyddiadau yma, neu os oes rhywun yn awyddus i wirfoddoli i’n helpu efo’r datblygiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi Sian Griffiths neu Jess Enston ar 01766 770274/ e-bost:  yrysgwrn{at}eryri-npa.gov.uk

Mae’r gwaith i warchod a datblygu’r Ysgwrn sy’n brosiect gwerth £3.4 miliwn ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru wedi dechrau Hydref 5 eleni.
-------------------------


Gallwch weld be' arall sydd ar y wefan am Yr Ysgwrn a Hedd Wyn trwy glicio'r dolenni isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

21.11.15

Atgofion Gosodwr

Dafydd Roberts sy'n adrodd ei hanes yn nyddiau cynnar Llafar Bro.

Anodd credu bod 40 mlynedd wedi mynd heibio ers ymddangosiad cyntaf 'Llafar Bro' yn Hydref 1975.  Roedd dalgylch 'Stiniog yn un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i fentro cynhoeddi papur bro misol yn y Gymraeg.  Papur yn llawn hanesion lleol, atgofion y darllenwyr a barn am wahanol bynciau llosg y dydd -  ac felly y mae hyd heddiw.

Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Iolo Williams a Shân Cothi yn recordio rhaglenni o'r enw Bro.  Wrth wylio'r rhaglen o ardal Caernarfon, a gweld grŵp mawr o wirfoddolwyr wrthi'n 'gosod' eu papur hwy daeth llu o atgofion melys yn ôl am y cyfnod y bûm innau'n 'gosod' Llafar Bro yn fisol rhwng 1979 a 1984.

Dechreuai'r gwaith fel arfer ar nos Wener gydag ymweliad gan y golygydd ar y pryd – y Parch Emlyn Williams neu Bryn Jones – gyda'r deunydd ar gyfer y rhifyn cyfredol.  Roedd gan Emlyn Williams bob amser dair amlen A4.

Cynnwys y gyntaf oedd y dudalen flaen a'r darnau pwysicaf – rhaid oedd sicrhau eu bod hwy yn y papur yn ddi-feth; yn yr ail roedd darnau y colofnau misol a'r lluniau i gyd-fynd oedd yn llenwi crynswth y rhifyn; a'r drydedd yn llawn pytiau wrth gefn pe tae angen rhagor i lenwi'r rhifyn dan sylw. Roedd cyfrifoldeb edrychiad y papur wedyn yn syrthio i ddwylo'r gosodwr.  Byddai'r golygydd yn gweld y rhifyn gorffenedig am y tro cyntaf ar noson y plygu yn Siambr y Cyngor.  Dipyn o gyfrifoldeb felly!

Y dasg gyntaf oedd mesur canol chwe darn o gerdyn gwyn 30 modfedd wrth 21 modfedd.  Yna mesur tair colofn 4 modfedd o led o bopty'r canol.  Marcio wedyn, yn ysgafn â phensil y colofnau i gyd.  Yr ail dasg oedd torri'r tudalennau teip yn golofnau.  Y teipyddesau'r adeg honno oedd Laura Price a Heddus Williams.  Ond cyn eu gludo rhaid oedd gwneud penawdau gyda 'Letraset' - tudalennau plastig maint A4 gyda llythrennau'r wyddor mewn amrywiol faint a theip, yn ogystal â rhifau a phatrymau.

Llun o Gronfa Comin Wikimedia
I greu pennawd rhaid oedd gosod y dudalen letraset ar gerdyn gwyn annibynnol, rhwbio'r llythyren angenrheidiol yn galed â phensil er mwyn ei throsglwyddo ar y cerdyn. Roedd rhai penawdau angen bod yn fwy na'i gilydd, ac felly'n cymryd rhagor o amser.

Penderfynu wedyn ar ba dudalen roedd newyddion y gwahanol ardaloedd yn mynd cyn eu gludo'n ofalus ar dop y colofnau penodedig gyda Cow Gum - glud arbennig ar gyfer gosod penawdau papur newydd.  Yna'n ôl i'r dudalen flaen a gosod pennawd arbennig Llafar Bro gyda'r un glud.  Defnyddid y Pritt Stick  bondigrybwyll i ludio'r holl golofnau a deipiwyd, megis newyddion yr ardaloedd, chwaraeon, Sgotwrs 'Stiniog, erthyglau, ac yn y blaen.  Roedd hysbysebion yn cael dos o'r Cow Gum.

Y lluniau oedd y dasg nesaf – penderfynu faint o le i'w roi iddynt.  I wneud hynny rhaid oedd gweld faint o ofod oedd rhwng y colofnau.  Weithiau gellid chwyddo llun, neu os yn rhy fawr, ei leihau trwy osod papur du o'r maint cywir ar y cerdyn gwyn.  Rhaid oedd rhifo'r darn du a rhoi'r un rhif ar gefn y llun oedd i gyd-fynd ag ef.

Y dasg olaf oedd rhifo'r tudalennau â'r letraset.  Roedd y cyfan i'w gwblhau cyn noswylio ar y Sul. Bore Llun aed a'r cardiau gwyn gorffenedig i'r wasg ym Mhenygroes i'w hargraffu.  Ymhen yr wythnos, ar noson y plygu, dychwelid y cardiau gwyn a'r lluniau gyda rhifyn y mis i Siambr y Cyngor tref. Roedd un dasg fach ar ôl.

Rhaid oedd tynnu'n ofalus y penawdau a ludiwyd â'r Cow Gum oddi ar y tudalennau a'u cadw tan y rhifyn nesaf.  “Arf” da oedd yr hen Cow Gum! A dyna ni.  Ddeugain mlynedd yn ôl dyna'n fras waith misol gosodwr Llafar Bro. 


---------------------- 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn penblwydd Llafar Bro yn 40 oed, Hydref 2015.
Dafydd oedd yn gyfrifol am ddylunio 'bathodyn' cyntaf Llafar Bro. Gweler y dudalen 'Cefndir' am fwy o'r hanes.