19.7.15

Gwynfyd -cywion a gwyfynnod



Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro; y tro hwn o rifyn Gorffennaf 1997.

Mae’n anodd credu weithiau bod rhai o’n adar prydferthaf ni wedi dechrau eu bywyd fel cywion di-sylw a hyll.  Mae nifer o gywion bellach yn amlwg o’n cwmpas ar ôl gadael y nyth, ond llawer ohonynt yn dibynnu ar eu rhieni o hyd am fwyd ac arweiniad.

Yn Fron Fawr, a phob stryd arall, roedd cywion adar to yn ymddangos ar wifrau ger eu tyllau drwy fis Mehefin, ac yno eisteddent fe peli brown, swnllyd o blu mân, yn aros pryd.

Ar un o byllau’r Ddwyryd, ger Maentwrog mae gwennoliaid a gwennoliaid-y-glennydd yn plethu ymysg eu gilydd ac yn methu’n glir ag efelychu dull cain yr oedolion o yfed o’r afon tra’n hedfan.  Mae ambell un yn methu’n llwyr ac yn glanio ar y dŵr, cyn codi ar frys; ac eraill yn ymddangos yn chwithig eu hymdrechion.  Buan iawn wrth gwrs y byddant yn gwisgo plu hyfryd yr oedolion ac yn llwyddo i yfed yn osgeiddig.

Cywion titw mawr. Llun- PW
Gerllaw, ger un o ffermydd y dyffryn, gwelais resiad o gywion gwennol y bondo yn eistedd yn drefnus ar weiran lefn ffens derfyn.  ‘Roedd pob un yn ddistaw iawn nes cyrrhaeddodd un o’r rhieni gyda llond pig o bryfetach, a dyma ddechrau côr o gardota aflafar.

Cywion eraill a fu’n amlwg yn ystod y mis fu’r titws amrywiol ddaeth i’r ardd i fysnesu, efallai yn dilyn hen adar sy’n gwybod bod cnau a hadau yno dros y gaeaf.

Gwyfynnod bwrned. Llun- PW
Golygfa y mis i mi heb os, oedd cerdded trwy dwyni tywod Harlech ymysg cannoedd o
wyfynod bwrned oedd newydd ddod o’u piwpa.

‘Roedd y pryfaid rhyfeddol du a coch yma yn bwydo a chlwydo ar amrywiaeth eang o blanhigion.
Gwelais chwech ohonynt ar un tegeirian bera, a phump ar un clefryn, ynghŷd â degau yn codi gyda phob cam gennyf drwy’r tyfiant.

Efo blodau unigryw yr ardal, cyfranodd hyn at fore gwerth chweil o waith yn ein cynefin rhyfeddol yma yng Ngwynedd.

-------------------------------

Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


17.7.15

Y Pigwr- parcio

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm am bwnc lleol arall.

Wrth groesawu ysbryd nadoligaidd Cyngor Gwynedd yn caniatáu parcio am ddim ym meysydd parcio'r dref dros yr ŵyl ddiwedd llynedd, digon dilewyrch oedd masnach y siopau yma, wedi'r cyfan. Natur ddynol ryw ydi ceisio cael y fargen orau am bob ceiniog, ac yn anffodus, nid oes gan fasnachwyr lleol obaith o gystadlu yn erbyn grym archfarchnadoedd mawrion 'lawr y côst' a Phorthmadog.

Felly, yn y trefi hynny y gwariwyd y mwyafrif o bunnoedd pobl 'Stiniog, gwaetha'r modd. Ond i fynd yn ôl i'r mater o godi ffî am barcio, onid yw'n hen bryd i'r Cyngor benderfynu dileu'r tâl ym meysydd parcio Blaenau Ffestiniog am byth?

Efallai na wnaiff lawer o wahaniaeth yn ystod y gaeaf, beth bynnag, ond yn yr haf, byddai'n sicr o fod yn fanteisiol i gael ymwelwyr i aros yn y dref, a gwario'u harian yma. Beth am awgrymu hyn i uchel swyddogion y cyngor sir, chwi feidrolion o wasanaethwyr lleol?  Mi fyddai'n werth rhoi cynnig ar arbrawf o'r fath, o leia'.

I'r perwyl hwnnw, rhyfeddod yn wir oedd teithio heibio Llyn Ogwen, ganol wythnos yn ddiweddar, a gweld cannoedd o foduron wedi hawlio pob troedfedd sgwâr o leoedd parcio. Roedd pob pafin wedi eu hawlio gan geir estroniaid hefyd, a hynny'n anghyfreithlon, (i fod). Cannoedd o geir o ochr arall i Glawdd Offa, yn cael parcio, yn rhad ac am ddim, drwy garedigrwydd, neu'n hytrach ffolineb Cyngor Conwy, am hynny o amser y dymunent. A faint o arian sydd yn cylchdroi yn ardal Ogwen/Nant Ffrancon oherwydd ymweliadau'r gwenoliaid hyn?

Mae'r dringwyr/cerddwyr hynny sy'n ymweld â'r fro honno yn dod â'u pecyn bwyd a'u diod gyda hwy, ac yn prynu hynny o danwydd sydd ei angen cyn cychwyn ar y daith i'n plith, ac yn cyfrannu'r un hatling at economi Dyffryn Ogwen, na Chymru.

Ond gyda'r datblygiadau sy'n digwydd ym myd twristiaeth yn ardal 'Stiniog yn ddiweddar, mae'r potensial yn enfawr. Ac yn sgil datblygiadau'r blynyddoedd diweddar, mae gwir angen codi proffil yr hen dref hon.

Os gellir denu cyfran fechan o'r miloedd sy'n arfer ymweld â Phorthmadog a'r Betws - a Dyffryn Ogwen, dros yr haf i Flaenau Ffestiniog, yna fe ddaw'r llewyrch yn ôl i dre'r llechi. Ond yn gyntaf, rhaid sicrhau atyniadau i'w cadw yma, ac yn ychwanegol, trefnu parcio am ddim yn y meysydd parcio yma.


[Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2015. Gwnaed mân newidiadau yma i adlewyrchu'r tymor.]
-------------------------

Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

15.7.15

Rhod y Rhigymwr -Now'r Allt

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mehefin 2015.

Yn y gyfrol ‘Cymeriadau Stiniog’ (Golygydd: Geraint V. Jones – Cyfres Cymêrs Cymru 5: Gwasg Gwynedd - 2008), mae’r diweddar Emrys Evans, yn ei ddull dihafal ei hun, yn adrodd hanes ‘Now’r Allt’ – y potsiar o drempyn oedd yn troedio’r parthau hyn yn ystod hanner cynta’r ugeinfed ganrif. Ar ddiwedd y bennod, tynnir sylw’r darllenydd at englynion a gyfansoddwyd i goffáu’r hen frawd. Dyfynnir dau o rai Gwilym Deudraeth, ynghyd ag un Iestyn, y postmon o Faentwrog. Mae’n debyg i Now gyfarfod â’i ddiwedd yn ddisymwth mewn beudy a aeth ar dân.

Wrth glirio hen focsus yn un o’r cypyrddau acw’r diwrnod o’r blaen, deuthum ar draws y canlynol, a dderbyniais nifer o flynyddoedd yn ôl gan fy hen gyfaill, John Morris Edwards, Llys Awen, Heol yr Orsaf, Llan (1927-2012):

Now’r Allt
“Roedd Ellis Hughes, tenant Cymerau Isaf, a’i fab wedi pasio’r beudy tua 10.30 p.m., nos Lun, Mawrth 10fed,* 1924, a chael fod popeth yn iawn. Codi tua 6 o’r gloch fore Mawrth a chael y lle wedi llosgi, gyda chwech anifail a phedair tunnell o wair. Ofnid bod Owen Jones, ‘Now’r Allt’, yn cysgu yno. Super J. F. Evans gafodd hyd i’r corff, ond ni ellid ei adnabod. Tybid mai Owen Jones ydoedd, labrwr 51 oed, oedd heb gartref sefydlog.”
{* Mawrth 14eg yn ôl Emrys Evans}

Dyma englynion Gwilym Deudraeth ar ei ôl:

‘Roedd Now’r Allt yn dallt y dŵr, - iddo swyn
Oedd ei su a’i ddwndwr;
Rhed y Ddwyryd ddiarwr
Yn afon syn, ‘rwyf yn siŵr.

Noddfa ydoedd ei feudy – iddo ef,
Diofal ei lety;
Ar fin dŵr i’r heliwr hy
Pa hwylustod f’ai plasdy?

Pwysig wron pysg gariwyd – o’i dŷ sych,
A Rhydsarn frawychwyd;
O wastraff! A dinistriwyd
Ei enwair hir a’i hen rwyd.

Ei foddion fu iddo’n fael – am ei oes,
Pa le maent i’w caffael?
Ac wedi iddo’n gadael
A oes gwn a ‘shots’ i’w gael?

A oes gŵn hyddysg yno – oriau’r hwyr
O hiraeth yn udo?
A wnaeth y drud annoeth dro
Y gwartheg yn ddig wrtho?

Heibio’r âi, ebe rhywun, - trwy ei oes
Heb ddim trefn na chynllun;
O’i erlid troai’n ddarlun
‘Robin Hood’ ar ben ei hun!

Hyd ing fu rhawd ei ang’oedd – fywyd ef,
Drwy feu-dai a dyfroedd;
Rhyw ffoadur ryff ydoedd
A gwell dyn na gwylliad oedd.

Pan ar fai, pwy’n rhy fuan – iddo ef
Ydoedd ail i drydan?
A hen dro i Now druan,
Fu’n neidiwr dŵr, fynd ar dân.

Ni bu diwedd rhyfeddach, - damwain oedd,
‘Does dim i’w wneud bellach;
Bywiog wylied pob gelach
Y tân o ben cetyn bach.

Hyfryd wawr ei fro dirion – ni ddenodd
Unwaith ei olygon;
Cudd fu ei rawd, ca’dd i’w fron
Ryw fudd rhyfedd o’r afon.

Gorwedd, Now, o gyrraedd niwed, - ar d’ôl
Mae’r dalent yn cerdded;
Torrir hir gyfraith tra rhed
Y dŵr o hyd i waered.

A dyma ychwanegu esgyll at baladr englyn Iestyn y Postmon, fel y ceir ef gan Emrys Evans (tudalen 69 – ‘Cymeriadau Stiniog):

Gŵr unig, garw ei anian, - yn Ismael
Anesmwyth ei drigfan,
A bywiog wylliad buan –
Anrheithiwr dŵr aeth ar dân.

Yn ôl y cofnod ar waelod y papur a roddodd John Morris i mi, cofnodir ‘Y Rhedegydd’ – Mai 14eg, 1924 – ‘Chydig ar Gof a Chadw’.

-------------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

13.7.15

Calendr Bro

Cyfnod prysur arall rhwng rwan a rhifyn Medi. Prynwch Llafar Bro i gael y manylion yn llawn.

GORFFENNAF-

Nos Iau 16eg: Pwyllgor Llafar Bro. Neuadd WI, 7.00
Dydd Sul 19eg: Capel Bethesda 10yb, oedfa gyda'r Parch Pryderi Llwyd Jones.

Nos Wener 24ain: Sioe Awyr Agored Swllt y Brenin. Yr Ysgwrn, 6.30
Dydd Sadwrn 25ain -Sul 26ain: Gŵyl DH Ffest Antur Stiniog*.
Dydd Mawrth 28ain: Bore hwyl, efo Mari Gwilym a mwy. Llyfrgell, 10.00-12.00
Dydd Mercher 29ain (tan Medi 19eg): arddangosfa Clwb Camera Blaenau. Llyfrgell.
Dydd Iau 30ain. Taith dywys Gerddi Plas Tanybwlch*.
Hefyd- trwy Gorffennaf ac Awst: Gweithgareddau am ddim gan Antur Stiniog yng nghlwb Traws*.

AWST-
Dydd Sul 2il: Capel Bowydd 10yb, oedfa gyda'r Parch William Davies.

Dydd Llun 3ydd (tan yr 22ain): gwerthiant llyfrau. Llyfrgell.
Dydd Mawrth 4ydd: Aduniad Ysgol y Moelwyn. Pabell y Cymdeithasau 2. Eisteddfod Meifod.
Dydd Mercher 12fed: Sesiwn grefftau. Llyfrgell, 10.00-12.00
Dydd Iau 13eg: Canlyniadau Lefel A.
Dydd Sul 16eg: Capel Bethesda 10yb, oedfa gyda'r Parch Philip de la Haye
Dydd Iau 20fed: Canlyniadau TGAU.
Dydd Gwener 21ain: stori a phaentio wynebau. Llyfrgell, 'prynhawn'.
Dydd Gwener 28ain: Dyddiad olaf derbyn deunydd i rifyn Medi Llafar Bro.
Nos Wener 28ain -Dydd Sul 30ain: Llan Ffest 3. Gŵyl Gwrw ac adloniant yn Y Pengwern.
Dydd Sul 30ain: Capel Bowydd 10yb, oedfa gyda'r Parch R.O.Roberts.


MEDI-
Nos Fercher 9fed: Plygu Llafar Bro. Neuadd WI 6.30
Dydd Owain Glyndŵr 16eg: Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Sgwrs Ieuan Wyn am Dywysogion Gwynedd. Neuadd WI, 7.15
Nos Lun 21ain- drama Cwmni'r Frân Wen, 'DRYCH'. Ysgol y Moelwyn.




* Mwy o fanylion yn Llafar Bro, heblaw am y rhai efo seren; ddaru'r rhain ddim gyrru manylion i'r papur.
-----------------------------------

Os oes gennych chi ddigwyddiadau eraill, gadewch inni wybod trwy adael sylw isod, neu yrru neges i'n tudalen Gweplyfr/Facebook, neu ebostio'r gwefeistr (manylion ar y dudalen PWY 'DI PWY? uchod)

11.7.15

Pobl y Cwm- Sul, gwyl, a gwaith

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Rhan 3 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Pan aethum i standard 4 a 5 Mr Cadwaladr Morris oedd fy athraw. Byddwn bob amser yn edrych i fyny at fy athrawon, ac nid wyf yn meddwl i mi gael gwg gan yr un o honynt, ac wrth edrych yn ôl does genyf ond bod yn ddiolchgar am i mi cael y fraint o fod yn ddisgybl yn ysgol Ffestiniog.

Braf iawn oedd cael byw yn y wlad, er fod y ffordd yn bell, roedd criw o honom hefo ein gilydd yn llawen a difyr. Roedd tair ffordd genym i fynd adre o'r ysgol.

Yn y gaua, i fyny ffordd fawr Cwm Cynfal am adre. Yr adeg hono byddai dynion yn torri cerrig hefo morthwyl iw rhoi ar y ffordd, cyn son am 'Macadam'  ddod i'r ffasiwn. Bydda ni plant wrth ein bodd yn cael sgwrs hefo'r dynion torri cerrig, neu redeg tu ôl i gar James y Groser, neu gar Daniel y Baker, am y gynta i afael yn nhu ôl i'r car ar ben Rhiw Tŷ Coch a dal gafael ynddo nes cyrhaedd Bont Newydd.

Pulpud Huw Llwyd. Manylion hawlfraint isod*
Yn y gwanwyn trwy Ceunant heibio Glogwyn Brith a lawr at Bont ddu, cael golwg ar Pulpud Huw Llwyd, weithiau yr hogia yn dringo i ben y Pulpud, a ni genethod yn gweiddi mewn braw, ofn iddynt syrthio i'r dŵr. Ymlaen wedyn at Pont Llam yr Afr, hel blodau gwyllt, a chwilio am nythod adar.

Fel byddai misoedd yr haf yn dod, dros Ben Cefn yr oeddem yn mynd i chwilio am beli golff, ac os byddem mor lwcus a chael un, wel dyna obaith am ceiniog neu ddwy i ni. Dyna chi olygfa oedd i'w gael o Ben Cefn, ddim rhaid i neb fynd dros y dŵr oddi yma i gael gwell golygfa.

Roedd i bob tymor ei waith, ei chwarae ai ddifyrwch. Yn y gaua pan yn rhy oer i fynd allan byddem yn cael gêm o Ludo meu dominos, a'r Drysorfa a'r Cymru Plant i'w ddarllen a gofalu fod ni i ddysgu adnod a mynd dros y wers at y Sul. Byddai'r hogia wrth eu bodd hefo bach a pawl, top a chwip, chwara marblis, chwara pêl, os yn lwcus un go iawn. Ond y rhan amlaf pêl rags oedd ar gael neu swigan mochyn wedi ei chwythu, ac yn aml iawn un gic oedd yn ddigon i hon roi clec. A'r merched yn chware sgipio, chware London, chware hefo Doli. Dyna fydda'n doli ni - hoelbren bobi wedi rhoi dillad a siôl am dani, neu rhoi dillad am y gath, os bydda hono yn digwydd fod yn un lonydd a ffeind. Mi gefais i ddoli pren un tro; cofio yn iawn, ei phen wedi ei paentio a paent du, a'r bochau yn baent coch, mi fu yn drysor mawr gen i am amser maith.

Fel y byddai y gwanwyn yn dod, mynd i bysgota dwylo, gosod westan yn yr afon fin nos, mynd yno beth cynta yn y bore a chael sgodyn i frecwast. Mynd hefo tin i Llyn Cam i ddal brithyllod a pena byliad. Bydda un o honom yn wastad yn syrthio i'r dŵr, neu un o honom wedi colli cap neu esgid neu hosan. Yn Llyn Babell fydda ni yn mynd i ymdrochi.

Wedi chwarae, meddwl am y gwaith wedyn. Cario dŵr, hel coed tân, gwylio'r ieir yn bwyta, hel y brain i ffwrdd. Hel dail i'r moch, dail tafol a danadl poethion, ac er fod hen sana am ein dwylaw, roedd y danadl poethion yn pigo trwy popeth nes oedd gwrymau mawr dolurus ar ein dwylaw a'n coesau.

Mynd i'r ffriddoedd ar ôl hyny i roi yr eithin ar dân, gwaith wrth fodd ein calonau ni plant. Gweld y lle yn wemfflam a'r mwg yn esgyn i fyny i'r awyr yn urddasol.

Ar ddechrau y flwyddyn 1903 ddaeth si a son fod ni i gael Capel bach newydd yn y Cwm. Cangen o Eglwys Engedi y pryd hyny oedd y Babell. Mawr fu siarad a dadlau gan y swyddogion pa le i adeiladu Capel newydd. Pasiwyd i brynu peth o dir ffarm Bronerw gan perchenog y stad, a dechreuwyd ar y gwaith yn ddi-ymdroi.

Rwyn cofio cael mynd am drip y tro cynta hefo Ysgol Sul Engedi i'r Bala, cael mynd i weld y Coleg, a heibio llyn am y tro cynta. Helpu rhyw wraig i hwylio ryw eneth fach ddwy flwydd oed mewn cadar am y pnawn, a chael chwegeiniog gwyn am wneyd. We dyna chi ffortiwn i eneth o'r wlad.

Pan ddoi gwyliau y Pasc ein gwaith ni y plant oedd hel cerig oddiar y caeau. Rhyw bedwar neu bump o honom a bwced bob un, a'r cynta i hel llond ei fwced ai roi yn y ferfa, cai hwnw glap o fingceg, bullseyes du mawr a streips gwyn arno yn wobr..

Hwyl a llawenydd i ni oedd y gwaith a gweld y ddol yn wyn o flodau llygad y dydd a
"Hwnnw mewn gwisg o aur ac arian,
Hwn agorodd y drws i'r gwanwyn ddyfod allan. 
Mi wn fod blodau lu o'th ôl yn ddirgel lechu
Rhag ofn yr oerwynt cry sydd dros y maes yn chwythu.
Ti broffwyd bethau braf wyt ini Nefol Genad,
Mae euraidd ddelw haf yn wir ym myw dy lygad"
-darn o adroddiad a ddysgais i hefo Miss Hughes yn Standard 2.

Diwrnod hapus i ni oedd pan ddywedai fy mam "Mi awn am dro pnawn i hel dail a blodau gwyllt i wneud diod dail". Dyna lle byddai Hwre fawr, a bob un o honom am y cynta i fwyta ein cinio, er mwyn cael cychwyn. Rhyw naw gwahanol ddeilen fydda gan mam i wneyd y ddiod. Gallaf ei henwi i gyd, a da oedd blas y ddiod.

*Llun: Hawlfraint yn eiddo i Dewi. Defnyddir yn unol â Thrwydded Comin Creadigol 'Attribution-ShareAlike 2.0'. Manylion pellach trwy ddolenni ar dudalen Wicipedia Huw Llwyd.

----------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.