1.11.26

Stolpia -Ymladd Tân yn Stiniog

Brigâd Dân
Nid oes dwywaith amdani hi bod y gwasanaeth tân trwy’r wlad gyfan wedi bod yn drybeilig o brysur yr haf hwn gyda’r tanau gwylltion a’r damweiniau drwg ar ein ffyrdd a’n priffyrdd. Dychmygwch am funud beth a fyddai’r sefyllfa pe na bai’r gwasanaeth yn bodoli ac y byddai’n rhaid i bawb geisio gwneud y gorau tros ei hun. Yn ddiau, y mae ein diolch yn fawr iawn iddynt.

Dyddiau Cynnar Gwasanaeth Tân y Fro
Bu galw am wasanaeth tân yn lleol mor bell yn ôl ag 1886, ond llaesu dwylo braidd oedd hanes y Cyngor Dinesig yn ei gylch, ond yn nechrau’r 20fed ganrif ac ar ôl i rai o’r aelodau ymweld â threfi eraill a oedd wedi sefydlu brigâd fe’i argyhoeddwyd. 

Yna, yn 1902 pasiwyd i sefydlu un yn ein tref a chafwyd 25 o ymgeiswyr am y swyddi. Pa fodd bynnag, Thomas E Jones a benodwyd yn Gapten, W.M. Owen, Is-gapten a Griffith Griffiths, Peiriannydd, a dewiswyd cynorthwywyr eraill, yn ogystal.

Roedd yr ardalwyr, yn enwedig pobl busnes y dref, yn falch iawn bod brigad dân wedi ei sefydlu gan i Siop Richard Owen, sef Paris House yng ngwaelod Lord Stryd losgi yn ulw y flwyddyn cynt gan achosi colled o dros £3000. Lledodd y tân i’r ddau dafarndy agosaf ato, sef y Glyndŵr a’r Cross Keys fel y bu’n rhaid iddynt gario’r dodrefn ohonynt allan i’r ffordd. Roedd y tân mor ffyrnig fel y gellid gweld y fflamau o orsaf trên Maentwrog Rd. Toddwyd paent ar adeilad tros y ffordd a syrthiodd mur y siop i’r Stryd Fawr.

Gorsafoedd Tân
Yng ngodre Clogwyn Bwlch y Gwynt y codwyd yr orsaf gyntaf, ac yna y tu ôl i Lys Meddyg, ac yn ôl drachefn i’r un man. Fel y gŵyr llawer ohonoch, bu gorsaf yno am flynyddoedd lawer a chodwyd un newydd yn yr 1970au cyn symud i’r un bresennol. Byddai gan y Llan nifer o ddynion tân yn barod i gynorthwyo hefyd. Yn y dyddiau cynnar ceffylau Gough Jones a fyddai’n tynnu yr injian a chredaf mai gerllaw gorsaf y GWR y byddai ei stablau. 

Bu’r frigâd dân yn eithriadol o brysur ar rai adegau gyda thanau drwg yn digwydd yn rhai o adeiladau’r dref. Aeth gweithdy saer ym Methania ar dân ym mis Awst 1902 a dinistrwyd yr adeilad. Yn 1905 llosgwyd Siop R. G. Williams, Groser, a oedd yng ngodre Lord Stryd yn llwyr. 

Un o’r tanau gwaethaf a fu yn yr ardal oedd yr un ym Melin Lechi Sgwennu Dafydd Jones ym mis Hydref 1912. Dyma’r llun a dynnwyd ohono gan Llew P. Griffiths.

 

Gobeithio’n wir na welwn dân mawr yn unman eto -wel, hyd noson Guto Ffowc, efallai.
STEFFAN AB OWAIN

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2026


 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon