9.7.15

Stolpia -Pobl 'Stiniog ym Mhatagonia.

Dros ugain mlynedd yn ôl, yn rhifyn Rhagfyr 1994, dechreuodd Steffan ab Owain gyfres o erthyglau ar hanes pobl Blaenau Ffestiniog yn y Wladfa. A ninnau'n nodi canrif a hanner ers i'r ymfudwyr cyntaf hwylio am Batagonia, dyma atgynhyrchu'r ysgrifau hynny yn ein cyfres Patagonia 150.


Gwelwyd nifer o bobl 'Stiniog yn ymfudo i'r Wladfa ym Mhatagonia yn ystod yr 1870'au; hefyd, credaf mai gyda'r ail fintai yn 1871 yr ymfudodd 'Gwaenydd', sef William R. Jones Penllwyn, Tanygrisiau i'r Wladfa. Mab i'r hen gymeriad Robin Sion oedd Gwaenydd, ond adnabyddid ef fel cerddor, bardd, yn ogystal ag arweinydd 'Seindorf Gwaenydd', band cyntaf y Blaenau, gan bobl yr ardal hon.

Ar ôl iddo ymsefydlu yn y Wladfa bu'n amlwg iawn gyda datblygiad rhan o’r Dyffryn Uchaf a elwir Dolafon a chymerai ran flaenllaw mewn llywodraeth leol. Adeiladodd gartref iddo'i hun yn y dyffryn, sef tyddyn a elwid 'Camlyn' ac yno bu'n ffermio tan ddydd ei farwolaeth gyn-amserol ym mis Awst 1906. Bu farw yn dilyn damwain gyda'i wn tra allan yn hela .... ac fel y canodd ef ei hun un tro;
'Angau a'i winedd engyrth
A dynn bawb trwy'r duon byrth'.

Dywedir mai carreg las o 'Stiniog sydd ar ei fedd ac arni hi y mae llun cornet ac englyn o waith Bryfdir.

Llun o 2018 gan Paul W. Llechen o Stiniog yn sicr, fel sawl un arall ym mynwent Y Gaiman. Mae englyn gan Bryfdir arni, ond dim cornet.

***

Bardd arall a adawodd ei fro enedigol am y Wladfa oedd Lewis Evans 'Meudwy' a breswyliai yn Nhŷ Llyn y Morwynion. Mab i Cadwaladr Thomas Evans ac Ellen Thomas oedd Meudwy. Ymbriododd â'i wraig yn y flwyddyn 1869 a gadawodd Ffestiniog yn yr 1870'au gan hwylio drosodd i'r Wladfa Gymreig.
Dywedir ei fod yn fardd rhagorol ac yn fardd teimlad yn anad dim. Nid oedd ei hafal yn y Wladfa am farwnad ac roedd yn un pur dda yn y cerddi dychan. Ychydig ar ôl ei farw yn drigain mlwydd oed, yn 1908 cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, sef 'Adlais y Gamwy'. Dyfynnaf un pennill o'i gerdd 'Amlen Ddu ar ôl fy Mam':

Rwy'n gweld y bryniau megis cynt
A'r gloyw-lyn o flaen y tŷ.
Rwy'n clywed eto swn y gwynt,
A su yr afon fach mor gu;
A hithau'r ffynnon yn y cae,
Ar fin yr hon eisteddais i,
Ond O! mae 'mron fel mor o wae,
Fy Mam! Fy Mam! pa le mae hi?'

***


Er nad yn enedigol o 'Stiniog, bu'r Parchedig D. Lloyd Jones yn weinidog yng nghapel Bethania (A) am nifer o flynyddoedd. Bu hefyd yn amlwg a gweithgar iawn gyda'r mudiad gwladfaol o'r cychwyn cyntaf. Dywedir mai ef fu'n bennaf yn apostol yr egwyddor gwmniol yn y Wladfa ar ôl iddo ymfudo yno yn 1872.

Perswadiodd nifer dda o bobl 'Stiniog i ymfudo yno, fel erbyn y flwyddyn 1876 roedd cynifer a 700 o Gymry yn y Wladfa.

Ceir llawer o hanesion amdano. Dyma un ohonynt. Adeiladodd dy helaeth ac ystafell eang ynddo i ddysgu'r Indiaid am Gristnogaeth. Un tro, cymerodd Indiad o'r enw Sam Slic o dan ei gronglwyd. Roedd yn fab i'r pennaeth Casimiro, er nad oedd yn ymddwyn felly. Mewn gwirionedd roedd Sam yn 'un meddw ac aflan ac yn ddychryn i wragedd a phlant.' Pa fodd bynnag, ceisiodd D.LI. Jones ei droi yn Gristion a cheisiodd yntau ddysgu iaith y Tewelchiaid. Ond un noson daeth dau Indiad arall
heibio, a meddwodd y tri yn chwil ulw, ac aeth yn ffrae fawr rhyngddynt. Bore drannoeth cafwyd hyd i gorff Sam Slic yn llawn archollion a dihangodd y ddau lofrudd gyda cheffylau'r Cymry.

I'w barhau..

--------------
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

7.7.15

Mil Harddach Wyt

Yn y nawdegau, bu Eurwyn Roberts, o Feithrinfa Blodau’r Felin, Dolwyddelan, yn cyfrannu colofn arddio yn fisol yn Llafar Bro. Dyma golofn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1998, sydd yr un mor berthnasol eleni.




Gorffennaf


YN YR ARDD LYSIAU
Gallwch hau moron eto a phys; hefyd hau bresych ar gyfer y gwanwyn. Codi nionod bach (sets) a'u sychu ar gyfer eu defnyddio yn y gaeaf. Bydd angen chwynu yr ardd lysiau yn gyson yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb.

YN Y TŶ GWYDR

Bwydo'r tomatos unwaith yr wythnos gyda gwrtaith sydd yn uchel mewn potash (ee Phostrogen). Mae'n rhaid hefyd gwylio am y pry' gwyrdd a rheoli fel bo'r angen. Gall y pry' gwyn fod yn fwy o broblem gan na ellir rheoli’r wyau mor hawdd a gan eu bod yn deor bob rhyw bedwar diwrnod mae angen rheoli’n aml. Mae planhigion marigolds (tagetes) yn arbennig yn atal rhyw gymaint rhag i'r pry gwyn ddod i'r tŷ gwydr ac mae’n rhaid eu plannu yn yr un pridd â'r tomatos.

Pan mae'r tywydd yn boeth mae'n werth rhoi dŵr ar y llwybrau yn y ty gwydr. Mae hyn yn wirioneddol werth ei wneud os ydych yn tyfu ciwcymerau: mae rhain yn hoff iawn o leithder yn yr aer.

YN YR ARDD FLODAU
Gwaith pwysig y mis yma yw mynd drwy’r ardd flodau a thorri'r rheini sydd wedi darfod i'w hatal rhag cynhyrchu had ac felly byrhau y tymor blodeuo. Mae angen hefyd torri blodau ar y pys pêr yn gyson. Mwya'n byd o flodau a dorrir mwya'n y byd o flodau y cewch chi ar y planhigion. Bwydwch yr ardd hefo gwrtaith uchel mewn potash.

Tociwch lwyni sydd wedi gorfIen blodeuo megis banadl a  Wisteria.

Mae’n amser i gymryd toriadau oddi ar lwyni fel y tri-lliw-ar-ddeg a'r ffug oren (Philadelphus). Rhowch y toriadau mewn pot, mae'n fantais eu cadw mewn lle cynnes iddynt wreiddio ynghynt.

llun- PW
Cofiwch hefyd beidio ac anghofio’r fasged grog. Mae'n rhaid dyfrio rhain o leiaf unwaith y dydd; mwy efallai os bydd y tywydd yn boeth. Mae gwynt yn unig yn sychu basged grog. Bwydo hefyd yn aml; ddwy neu dair gwaith yr wythnos. Mae gwrtaith mewn rhai basgedi sydd yn para am dri neu bedwar mis.

Os nad ydych wedi hau had blodau'r fagwyr (wallflower) a’r penigan (sweet william), mae angen gwneud yn awr. Hau yn yr ardd a'u trawsblanu i resi rhyw wyth modfedd oddiwrth eu gilydd. Y man gorau os yn bosib yw lle yr ydych wedi codi tatws cynnar. Bydd angen symud rhain eto i'r ardd flodau er mwyn cael lliw yn yr ardd ddechrau'r haf nesaf.

------------------
Yn ôl cyfweliad a wnaeth Eurwyn efo’r papur yn haf 1998, agorwyd y feithrinfa ym mis Mawrth 1994, ond mae o wedi ymhel â phlanhigion erioed. Ei dad, y diweddar Bob Roberts, ysgogodd ei ddiddordeb; ei brif ddiddordeb ef oedd tyfu llysiau. Cyn mentro i sefydlu’r busnes, ymddangosodd Eurwyn ar raglen Heno, ac ar raglenni Radio Cymru, yn trafod garddio. Dywedodd Eurwyn bryd hynny taw un o agweddau mwyaf diddorol y busnes oedd cystadlu a beirniadu mewn sioeau fel Sioe Môn. “Ond y sioeau bach yw’r rhai mwyaf cystadleuol, ac mae’r sioeau hyn yn gyson o safon uchel ac yn aml yn well na’r sioeau mawrion.” 
Erbyn hyn, mae Eurwyn wedi bod yn beirniadu’r gystadleuaeth arddio -Blaenau yn ei Blodau- yn Stiniog. Pwy aiff a hi eleni ‘sgwn i?



Bydd mwy o'r gyfres yn ymddangos dros y misoedd nesa'.


5.7.15

Stiniog a'r Rhyfel Mawr- Pierce Jones

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn dilyn cyhoeddi f’erthygl gyntaf yn y gyfres, cefais alwad ffôn gan Mrs Gwyneth Wynne, Penlan, Llan. Roedd wedi mwynhau darllen yr ysgrif, meddai, gan ychwanegu fod ganddi grair difyr iawn yn ei chartref, gyda chysylltiadau â'r cyfnod hwnnw.

Tysteb liwgar, hardd oedd hon, mewn ffrâm, a oedd wedi ei chyflwyno ar yr ail o Chwefror, 1919, i Mr a Mrs Pierce Jones, oedd yn nain a thaid i'w diweddar ŵr, Ted Lloyd Wynne. Tysteb gan drigolion yr ardal i'r ddau oedd hon, a hynny am eu gwasanaeth i'r gymuned yn ystod cyfnod y rhyfel. Gosodwyd llun o'r ddau, naill ochr i'w gilydd, ar ben y dysteb, a geiriau canmoliaethus odditanynt.

Dyma flas o ran gyntaf y geiriau hynny, sydd wedi eu cofnodi mewn ysgrifen gain iawn:
“Cyflwynir i chwi yr anerchiad hwn ynghŷd â rhodd ariannol oddiwrth eich caredigion yn yr ardal ac eraill fel amlygiad o'n gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth parod i deuluoedd y lle, yn arbennig i'w meibion ymunodd â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Mawr. Bu i chwi ar y cychwyn, osod eich bryd ar fod yn ffyddlon a charedig wrthynt, ac er cyrraedd y nod, da gennym ddwyn tystiolaeth nad arbedasoch na thraul na thrafferth i chwi eich hunain...”
Aeth y geiriau, llawn clod i Pierce a Margaret Jones ymlaen i ganmol gwasanaeth y ddau i'w cymuned a'i phobl. Arwyddwyd y dysteb gan Griffith Jones, cadeirydd y pwyllgor anrhegu, ac Aneurin Jones, trysorydd, ac Edward Davies, yr ysgrifennydd.


Y peth sy'n anghyffredin am hyn oll yw'r ffaith i'r dysteb gael ei chyflwyno i Pierce Jones o gwbl. Oedd, roedd Pierce yn ddyn adnabyddus iawn yn ei fro, yn gynghorydd gweithgar, yn ustus heddwch, ac yn bwyllgorddyn blaenllaw. Ac fel y gwelid ar y dysteb, roedd yn ŵr poblogaidd iawn ymysg ei gyd-ddinasyddion yn 'Stiniog, a'i wasanaeth i'r plwyf yn cael ei werthfawrogi. Fel y tystia'r geiriau ar y dysteb, roedd gwerthfawrogiad teuluoedd y meibion a ymunodd â'r fyddin yn uchel iawn hefyd.

Y syndod yw mai cynrychiolydd milwrol a wasanaethai ar dribiwnlysoedd yn sir Feirionnydd, gan gynnwys tribiwnlys Blaenau Ffestiniog oedd Pierce. Dynion a benodwyd gan y Swyddfa Rhyfel oedd y cynrychiolwyr milwrol rhain, a'u prif swydd oedd penderfynu a oedd y sawl a fynnent esgusodiad rhag ymrestru yn deilwng o gael rhyddhad. Rhan arall, bwysig o'i swydd, wrth reswm, oedd bodloni eu meistri yn y Swyddfa Rhyfel, a cheisio sicrhau y byddai digon o eneidiau'n cael eu hanfon o bob cymuned i ateb yr alwad ar y ffrynt.

Wrth ddarllen y geiriau canmoliaethus amdano, mae'n debyg i Pierce ganiatáu esgusodiad i nifer o fechgyn y fro rhag gorfod ymrestru. Ond wrth ddarllen y geiriau 'yn arbennig i'w meibion ymunodd â'r fyddin' uchod, roedd wedi bod yn gyfrifol o anfon rhai i'r ffrynt hefyd. Rwyf wedi darllen cofnodion o nifer fawr o'r tribiwnlysoedd a gynhaliwyd yn y sir hon, ac yn Nyffryn Conwy, ac wrth gymharu'r driniaeth a gafodd bechgyn ifainc yr ardaloedd hynny, roedd tipyn mwy o drugaredd yn perthyn i Pierce Jones na rhai Dyffryn Conwy, yn amlwg.

Bu farw Pierce Jones ar y 3ydd o Ionawr 1930, yn 70 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llan. Ymunodd Margaret, ei wraig ag ef yn y bedd 29 Mai 1943. Heddwch, yng ngwir ystyr y gair, i'w llwch.

Llawer o ddiolch i Gwyneth am ei hymateb, ac am y croeso i'w chartref i weld y dysteb hardd, ac am gael tynnu llun.

3.7.15

Bwrw Golwg -Ysgol Glanypwll

Erthygl arall o'r gyfres achlysurol sy'n edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, blynyddoedd cynnar un o hen ysgolion y fro, gan W. Arvon Roberts.

Dyma lun o ddosbarth o blant yn Ysgol Glan y Pwll, a dynnwyd yn 1894. Fel y gwyr y cyfarwydd saif yr ysgol brydferth hon mewn llecyn rhamantus iawn, uwchben Dyffryn Ffestiniog, ac yng ngolwg y chwareli.

Adeiladwyd hi yn 1878, ac agorwyd hi y flwyddyn ganlynol gan Mr Richards, curad Rhostryfan, Arfon yn ddiweddarach. Yn 1880 daeth G.J.Williams, arolygydd chwareli dan y llywodraeth, ac ysgrifennydd diddorol ar ddaeareg, ac ar Ffestiniog, i’w olynu. Y prifathro yn 1883 oedd E. Griffiths.


Yn 1894 pan dynnwyd y llun, ‘roedd yna dros 600 o blant ar gofrestr yr ysgol, 200 yn adran y bechgyn.

Cyfrifwyd Bwrdd Ysgol Ffestiniog yn un o’r goreuon yn y wlad bryd hynny. Rhoddai W.E.Oakeley, un o berchenogion y chwareli, £10 bob blwyddyn, yn symiau o £5; £3; a £2, i fechgyn a genethod ysgolion yr ardal.

Rhwng 1886 a 1894 enillwyd saith o bob deg o’r ysgoloriaethau gan fechgyn Glan y Pwll. Yn 1894, fel ar dri tro arall, enillont bob un. Plant y bumed dosbarth yn unig fyddai’n ymgeisio amdanynt. Yn ôl un gohebydd o’r wags:
“Roedd plant Ffestiniog yn rhai cyflym a deallus. Dysgwyd hwy i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg”.

Ysgol Glanypwll. Mehefin 2015; llun PW


------------------

Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Medi 2014. Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg trwy wthio'r ddolen isod.


1.7.15

Sgotwrs Stiniog -Y Rhwyfwr

Rhan o  erthygl o rifyn Gorffennaf 2006, yng nghyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Y Rhwyfwr
Y mis y cysylltir y ‘Rhwyfwr’ yn bennaf ag ef yw Gorffennaf. Yn ystod y mis yma mae pysgota nos ar ei orau, neu felly yr yda' ni yn ei obeithio, ac o bob pluen a gynigir i’r brithyll y mae rhyw rwyfwr neu’i gilydd yn cael y lle blaenaf y rhan amlaf ar y blaen-llinyn nos. Ac yn ffodus i ni, sgotwrs ardal Stiniog, mae gennym ni oddeutu dau ddwsin i ddewis ohonynt – diolch i Sgotwrs Stiniog ddoe ac echdoe a fu’n gyfrifol am lunio yr amrywiaeth sydd ohonynt.

Rhwyfwr pen gwyrdd r'hen hafod. Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009.

Hyd y gwn i, ac rydw’i wedi bod yn holi o dro i dro rai o ardaloedd eraill, does yr un ardal yng Nghymru yn defnyddio yr enw ‘Rhwyfwr’ am y pryf sydd hefyd yn cael ei alw’n gas-bryf, pry pric neu bryf gwellt. Fel yr enw ‘cogyn’, a’r enw ‘egarych’, perthyn i ardal Stiniog yn unig y mae y ‘Rhwyfwr’, yn enw am y pryf ac am y bluen bysgota.

Mae Moc Morgan wedi cynnwys patrymau pum rhwyfwr yn ei gasgliad o blu pysgota ar gyfer afonydd a llynnoedd Cymru. Ond patrymau plu o’r ardal yma yw’r pump. Does dim un ganddo o’r un ardal arall.

Hyd y medraf ddeall a chasglu o’r darllen rydw’i wedi’i wneud ar y llyfrau sydd gennyf, ychydig iawn o sylw mae yr Albanwyr a’r Saeson wedi’i roi i’r ‘Rhwyfwr’, yn bryf ac yn bluen. Mae’r Gwyddelod wedi gwneud llawer mwy, fel mae E.J. Malone yn ei lyfr ‘Irish Trout and Salmon Flies’ yn ei brofi. Eu henw hwy am y rhwyfwr yr ‘murragh’. A diddorol iawn yw cymharu patrwm a chawiad Rhwyfwyr Iwerddon â Rhwyfwyr Stiniog. Mae bron pob un o Rwyfwyr Stiniog a’i adain wedi ei wneud o blu y dylluan frech; dyna’n deunydd traddodiadol ni o adain rhwyfwr. Ond ni wneir unrhyw ddefnydd o’r dylluan frech gan y Gwyddelod. Mae adain eu rhwyfwyr hwy o bluen frech oddi ar dwrci neu bluen frech oddi ar iar.

Mae gan y pryf naturiol ddau o deimlyddion yn dod o’i ben, a’r rheini’n aml cyn hired (ac weithiau yn hirach) na’r pryf. Ond welais i’r un o rwyfwyr Stiniog a dau gorn yn rhan o’i gawiad. Yn ei lyfr mae E.J. Malone yn sôn am gawiwr o Wyddel o’r enw Sam Anderson, y mae ganddo’n amlwg feddwl mawr ohono ac o’i farn. Ac mae Sam Anderson o’r farn, a hynny’n bendant iawn, fod angen rhoi dau gorn o ben pob rhwyfwr, fel y maent yn y pryf naturiol. A ddylen ni ddynwared y Gwyddelod yn hyn, wrth gawio’n rhwyfwyr? A fyddai ein rhwyfwyr yn gweithio’n well, tybed? Rhywbeth bach i feddwl amdano!

Soniais rywdro am ‘Egarych Gochddu Pen Gwyrdd’, roedd yn beth eithaf anghyffredin rhoi pen gwyrdd i bluen, ond yr oedd yna un bluen arall ymhlith ‘Plu Stiniog’ ag iddi ben gwyrdd. Ac ymhlith y rhwyfwyr yr oedd honno. Fe’i gelwid yn ‘Rhwyfwr Pen Gwyrdd R’hen Hafod’, a hynny ar ôl y sawl a’i cawiodd hi gyntaf. Ganed a maged John Owen yn un o ffermdai hynaf yr ardal, sef Hafod Ysbyty yng Nghwm Teigl. Am hynny fe’i galwyd ar hyd ei oes yn John Owen R’hen Hafod, neu yn aml yn ddim ond R’hen Hafod.

Roedd yn gawiwr medrus ar blu pysgota er gwaetha’r ffaith mai yn y chwarel y gweithiai fel creigiwr, ac yn ddyddiol yn trin a thrafod trosol, a jympar, ebill a morthwyl, a’r rheini’n caledu croen ei ddwylo.  Fel bob cawiwr o’r iawn ryw, bob yn hyn a hyn byddai’n dyfeisio ac yn llunio pluen newydd, yn wahanol ei phatrwm i’r un bluen arall.

Cael patrwm a hanes y rhwyfwr arbennig yma wnes i gan Gruffydd Morris Williams, Cae Clyd (a oedd yn fwy adnabyddus fel Guto Glan), a hynny yn Nhŷ y Gamallt un nos Sadwrn, pan yn cael swper a chyn mynd allan i bysgota’r naid nos.

Yn gynnar yn nau-ddegau’r ganrif daeth yr Hen Hafod a rhwyfwr newydd yr oedd wedi’i gawio ar gyfer Llynnoedd y Gamallt i sylw ‘Hen Griw y Gamallt’ pan ar eu hymweliad Sadyrnol â’r ddau lyn.
Roedd corff y rhwyfwr wedi’i wneud o sidan llwyd, llwyd lliw llechen, a chylchau o weiar aur amdano. Traed petris oedd arno, fel sy’n arfer ar rwyfwr. Ac yn lle tylluan frech yn adain, defnyddio pluen o gynffon iar ffesant. Yna, yn wahanol i bob rhwyfwr arall ymhlith y dwsin i bymtheg oedd ohonynt yr adeg honno, rhoddodd John Owen R’hen Hafod ben gwyrdd ar hwn.

Yn ôl arfer Hen Griw y Gamallt rhoddwyd prawf ar y rhwyfwr newydd yn y ddau lyn o dan wahanol amodau o dywydd ac o adegau o’r tymor. Y canlyniad dipyn yn siomedig; fawr o bysgod yn mynd amdano. Yna, rywfodd neu’i gilydd, fe ddaethpwyd i ddeall fod y rhwyfwr yn gweithio’n well wedi i liw llwyd sidan y corf wanio a gwywo rywfaint. Wedi i hynny ddigwydd yr oedd y pysgod yn fwy bodlon mynd amdano!!

Y dull a fabwysiadwyd i wneud hyn oedd, wedi i’r Hen Hafod gawio nifer o’i rwyfwr newydd, eu rhoi i Guto Glan a hwnnw wedyn yn eu bachu yn yr het a ddefnyddiai i fynd i’w waith. Dywedodd Guto Glan ei fod wedi cario nifer go dda o’r rhwyfwr i’w waith yn rhan uchaf Chwarel y Graig Ddu, a hynny drwy bob tywydd, er mwyn i sidan llwyd y corff wywyo i’r lliw iawn.

Wedi i’r driniaeth yma daeth y rhwyfwr i ddal yn fwy cyson, a dod i gael ei alw yn ‘Rhwyfwr Pen Gwyrdd R’hen Hafod’, ac ennill ei le yng ‘Nghyfres Rhwyfwyr y Gamallt’.

Beth a wnaeth i’r Hen Hafod ddefnyddio y sidan llwyd yn gorff i’w rwyfwr, tybed? A oedd o wedi dal un o’r rhwyfwyr mwyaf, y pryf, felly, a sylwi ar y llwydni a oedd ar gorff hwnnw? Yn ei lyfr safonol ar y gwahanol bryfaid sydd i’w gweld ar lynnoedd, ‘Trout Flies of Still Waters’, mae John Goddard yn nodi mai llwydaidd yw corff rhai o’r rhwyfwyr mwyaf. Rhoi y pen gwyrdd i’r rhwyfwr wedyn. Mae John Goddard yn crybwyll yn ei lyfr fod yna amrywiadau y tu fewn i’r gwahanol fathau o rwyfwyr.

Nodais yn fy nyddiadur pysgota ar y 7fed o Orffennaf 1945 imi weld rhwyfwr (sef y pryf) ac arno ben gwyrdd yn y Gamallt. Y tebyg ydi fod John Owen R’hen Hafod wedi taro ar un yr un fath, ac fel pob cawiwr gwerth yr enw wedi mynd ati i lunio pluen a’r nodweddion yma’n rhan o’i phatrwm a’i chawiad.

Does dim sy’n anodd nac yn astrus mewn cawio Rhwyfwr Pen Gwyrdd R’hen Hafod, ar wahan i gael gafael ar y sidan lliw llechen i wneud ei gorff! Dyma’i batrwm:

Bach     Maint 9
Corff     Sidan lliw llechen, a rhoi cylchau o weiar aur amdano.
Traed    Petris brown.
Adain    Cynffon iar ffesant, gweddol olau. Gorffen y bluen drwy roi pen gwyrdd iddi o gynffon paun.

---------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.