Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain
Cludo Offer a Defnyddiau Trwm i’n Chwareli yn y 19 Ganrif.
Holwyd fi’n ddiweddar sut ar y ddaear y medrwyd cludo trawstiau enfawr a pheiriannau trwm i fyny i felinau ein chwareli yn ystod y 19 ganrif a chofio’r math o ffyrdd a rheilffyrdd a oedd yn bodoli pryd hynny.
Efallai bydd y canlynol yn esbonio ychydig am y modd y gwneid hynny. Dyma gofnod o Atgofion am Danygrisiau gan David Owen Hughes a ymddangosodd fel cyfres yn Y Rhedegydd (1909):
"Yr oedd gan Gwmni Cwm Orthin nifer fawr o geffylau, saith neu wyth yn gweithio yn y chwarel ac nid dynion dibwys y cyfrifid y certwyr, yn enwedig y prif gertwyr.
Mawr fyddai'r helynt a’r twrw pan fyddent wedi dod i lawr at y Post Office, ac yn bachu wrth drol a thunnell o wair arni ar brynhawn Sadwrn, neu dynnu coed hirion at wneud pontydd yn y gwaith.
Nid ai'r rhai hynny i fyny'r incleins, ac am hynny byddent yn clymu un pen o dan echel y drol, a’r pen arall ar gerbyd bychan pwrpasol a dwy olwyn o dano. Yna, bachu pump neu chwech o geffylau i’w tynnu i fyny'r gelltydd i’r gwaith.
Ymhlith y certwyr hynny yr oedd y diweddar Thomas Roberts, a’i frawd John Roberts, a John Evans. Brodorion o ymyl Llanrwst oedd y ddau flaenaf, a J. Evans o Sir Aberteifi."
Enghraifft o foeler mawr yn cael ei dynnu gan geffylau gwaith |
Yn yr adroddiad diddorol hwn o’r North Wales Chronicle, 5 Gorffennaf, 1862 cawn ddilyn taith dau ferwedydd, (boiler), i chwarel Rhiw Bach. Dyma gyfieithiad ohono:
"Cyrhaeddodd dau foeler enfawr, sef y rhai mwyaf a welwyd yn yr ardal yn ôl rhai, i Chwarel Rhiw Bach dydd Mawrth diwethaf. Daethpwyd a hwy o Gaer ar wagenni cryfion yn cael eu tynnu gan tua dwsin, os nad mwy, o geffylau grymus. Roedd y ddau geffyl gwedd yn y llorpiau (sef rhai heb eu cyweirio/entire) o faint sylweddol, yn hardd ac yn rhai nerthol iawn, ac wedi syfrdanu rhai o’r ffermwyr lleol.
Yn anffodus, cafodd y boeler a bwysai oddeutu 84 tunnell [tybed ai ddau foeler 42 tunnell oeddynt mewn gwirionedd?] a gyrhaeddodd Ffestiniog ar y dydd Mawrth, anhap difrifol gan i olwynion y cerbyd suddo mewn lle gwlyb rhwng Penygroes a Llanllyfni a methwyd a chael y wagen yn rhydd er i nifer o geffylau ymdrechu i’w thynnu. Yn y cyfamser, aeth y boeler arall, oedd ar wagen chwe olwyn, heibio iddi hi a mynd ar ei siwrnai i Rhiw Bach. Dychwelwyd y wagen hon ar ôl ei dadlwytho i Benygroes a rhoi’r boeler arall arni hi a theithiwyd drwy Borthmadog i Faentwrog y Sul diwethaf.
Arhoswyd yno wedyn tan ddydd Mawrth er mwyn i’r ceffylau gael gorffwys. Yna, er mwyn cludo peiriant mor drwm i fyny’r allt serth i Ffestiniog daethpwyd a nifer o geffylau gorau’r gymdogaeth at y rhai a oedd ganddynt eisoes fel yr oedd cymaint ag ugain o geffylau yn tynnu’r wagen i fyny’r rhiw.
Heb os nac oni bai, roedd angen cryfder aruthrol i dynnu’r holl bwysau i fyny’r Allt Goch gyda rhannau ohoni mor serth â tho tŷ. Mewn ambell le roedd y troadau yn siarp iawn, ac o ganlyniad, dibynnid yn fawr ar gryfder y ddau geffyl blaen, y rhai a glodforwyd gan bawb. Cymerwyd diddordeb mawr yn y fenter gan y trigolion lleol, ac er bod ffair yn y Llan y diwrnod hwn, cyrhaeddodd nifer o’r ffermwyr yn hwyr yno."
Cofier, roedd cario boeleri mor fawr a thrwm i fyny i Chwarel Rhiw Bach, a oedd tua 3 milltir arall oddi yno, gyda’r rhan fwyaf o’r ffordd yn serth yn gamp aruthrol yr adeg honno.
Edmygwyd yr orchest gan bawb a’i gwelodd, a bu’r ddau geffyl blaen yn destun siarad gan lawer.
Ponc Chwarel Rhiw Bach, gyda’r felin, y tai boelar ger y corn, a’r inclên ar y chwith uchaf |
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon